Amdanom ni
Pwy ydym ni
Cymorth Cymru yw'r corff cynrychioliadol i ddarparwyr gwasanaethau cymorth sy'n gysylltiedig â thai, digartrefedd a gofal yng Nghymru. Dechreuodd y sefydliad fel grwp llywio yn 2001, daeth yn gwmni cyfyngedig drwy warant ym mis Mai 2004 a chafodd statws elusen yn 2006.
Ein nodau
Gweithio gyda'n haelodau i helpu pobl sydd wedi profi neu sydd mewn perygl o brofi allgau cymdeithasol i fwy bywydau hapus, llwyddiannus, annibynnol yn y gymuned, gan gyfrannu'n gadarnhaol i'r gymuned, yn gymdeithasol ac yn economaidd. Drwy wneud hynny, rydym yn cael effaith gadarnhaol ar iechyd a lles, gweithgarwch economaidd a diogelwch a chydlyniant cymunedol. Yn benodol rydym yn gwella gwaith ein haelodau, gwneuthurwyr polisi a phartneriaid trwy:
Wella'r cysylltiadau rhwng polisi ac ymarfer trwy sicrhau bod y rhai sy'n gweithredu polisïau yn deall y cyd-destun polisi ehangach, a bod y rhai sy'n llunio polisïau yn deall profiadau a gwybodaeth y rhai sy'n gweithio ar lawr gwlad a bod y profiadau hyn a'r wybodaeth hon yn dylanwadu arnynt.
Sicrhau bod gwasanaethau cymorth sy'n gysylltiedig â thai, digartrefedd a gofal yn cyflawni eu potensial i'r eithaf trwy feithrin a datblygu gallu a proffesiynoldeb trwy well gyfleoedd i gael hyfforddiant, i ddatblygu ac i rwydweithio.
Codi ymwybyddiaeth a gwella dealltwriaeth gyda'r cyhoedd, gwneuthurwyr polisi a phartneriaid o'r cyfraniad mae gwasanaethau cymorth sy'n gysylltiedig â thai, digartrefedd a gofal yn ei wneud i amcanion polisi ehangach.
Ein hamcanion
- Datblygu consensws ar faterion allweddol ym meysydd cymorth sy'n gysylltiedig â thai, digartrefedd a gofal.
- Ymgysylltu â'r holl ddarparwyr wrth ddatblygu polisi a hyrwyddo'r agenda proffesiynoli.
- Ennill ein plwyf fel llais cydnabyddedig yr aelodau gyda'r awdurdod dirprwyedig i ymgysylltu a lobïo ar faterion perthnasol.
- Datblygu gwasanaethau cymorth proffesiynol.
- Meithrin cysylltiadau, dealltwriaeth a chydweithio ar draws sectorau a rhwng gwneuthurwyr polisi a chyflawnwyr.