Mae’r corff cynrychioliadol i ddarparwyr gwasanaethau cymorth sy'n gysylltiedig â thai, digartrefedd a byw â chymorth.
Croeso i Cymorth Cymru
Cymorth Cymru yw'r corff cynrychioliadol i ddarparwyr gwasanaethau cymorth sy'n gysylltiedig â thai, digartrefedd a byw â chymorth yng Nghymru. Mae ein haelodau'n gweithio i gynorthwyo pobl sy'n fregus, ynysig neu sydd mewn argyfwng cysylltiedig â thai, gan gynnwys:
- pobl sy'n ddigartref, neu mewn perygl o fod yn ddigartref
- teuluoedd sy'n ffoi rhag cam-drin domestig
- pobl sy'n delio â phroblemau iechyd meddwl neu gorfforol, neu anableddau dysgu
- pobl â phroblemau gydag alcohol neu gyffuriau
- ffoaduriaid a phobl sy'n ceisio lloches
- pobl ifanc sy'n gadael gofal a phobl ifanc eraill sy'n fregus, a
- phobl hyn sydd angen cymorth
Nid yw'r rhestr hon yn holl gynhwysfawr, ac yn aml mae unigolion yn wynebu amryw o heriau sy'n ei gwneud yn anodd iddynt ddod o hyd i gartref sefydlog neu gadw cartref sefydlog a chreu'r math o fywydau rydym i gyd yn anelu atynt.
Mae aelodau Cymorth Cymru yn helpu pobl i fynd i'r afael â'r materion hyn, gan eu cynorthwyo i ddod o hyd i lety argyfwng a chartref diogel yn y tymor hir, lle gallant gyflawni eu potensial a chreu bywydau hapus a bodlon.
Bywyd yn Dechrau @dref 2011
Galari Arddangosfa Celf
Digwyddiadau
Mae Cymorth Cymru yn cynnal nifer o ddigwyddiadau drwy gydol y flwyddyn sydd â'r nod o helpu sefydliadau sy'n gweithio gyda phobl fregus i wella eu gwasanaethau
Datblygu Proffesiynol
Cewch weld ystod lawn ein cyrsiau, sydd â'r nod o helpu sefydliadau i ddatblygu eu staff a sicrhau eu cynnydd. Ar agor i aelodau a rhai nad ydynt yn aelodau




