- Sylwadau i ymchwiliad y Pwyllgor Gwaith a Phensiynau i'r Lwfans Tai Lleol
- Datblygu'r ddarpariaeth i bobl ddigartref yng Nghymru
- Briffiad Cymorth Cymru – Y gwaharddiad ar ysmygu tybaco
- Datblygu fframwaith rheoleiddio modern ar gyfer cymdeithasau tai yng Nghymru
- Digartrefedd yng Nghymru – Monitro effaith y dirwasgiad yn y Deyrnas Unedig
- Drafft ymgynghori Cefnogi Pobl – Strategaeth Cymorth sy'n Gysylltiedig â Thai
- Nodiadau ar Bolisi Cyffuriau Enghreifftiol Cymorth Cymru
- Fersiwn ddrafft y Cynllun Digartrefedd Deng Mlynedd i Gymru
- Ymateb Cymorth Cymru i'r Papur Gwyrdd ar Ddiwygio Lles
- Gweithio Gyda'n Gilydd i Leihau Niwed – Strategaeth Camddefnyddio Sylweddau Cymru 2008-2018
- Digartrefedd Ymhlith Pobl Ifanc yng Nghymru – Adolygiad y Pwyllgor Cyfiawnder Cymdeithasol ac Adfywio
- Homeless people's healthcare needs and access to healthcare provision in Wales
Datblygu Polisi
Sut mae'r rhaglen Cefnogi Pobl yn sir gaerfyrddin yn arbed arian i rannau eraill o'r pwrs cyhoeddus
Cyflenwi ansawdd ym maes cymorth sy'n gysylltiedig â thai
Roedd Cymorth Cymru'n hapus i gefnogi ymchwil Housemark i'r ffordd y mae darparwyr cymorth sy'n gysylltiedig â thai'n diffinio a mesur ansawdd yn y gwasanaethau maent yn eu darparu.
Mae cymorth sy'n gysylltiedig â thai sy'n rhagorol ac o ansawdd da yn hanfodol o gofio pa mor fregus yw'r defnyddwyr ac mewn llawer o achosion mae'r gwasanaethau cymorth yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i ansawdd bywydau defnyddwyr gwasanaethau. Ond mae diffinio, mesur a chomisiynu ar gyfer ansawdd yn llai syml yn y maes hwn nag y mae ar gyfer gweithgareddau eraill. Gall hyn wneud cyflawni ansawdd da yn fwy heriol nag mewn meysydd gwasanaeth eraill.
Sylwadau i ymchwiliad y Pwyllgor Gwaith a Phensiynau i'r Lwfans Tai Lleol
Mae'r rhan fwyaf o aelodau Cymorth Cymru'n asiantaethau yn y trydydd sector sy'n darparu llety a/neu gymorth arall i bobl y mae digartrefedd, problemau iechyd, anableddau neu anghenion eraill am gymorth yn effeithio arnynt. O'r herwydd, mae cyflwyno'r Lwfans Tai Lleol wedi cael effaith sylweddol ar waith gyda'r sector rhentu preifat – yn arbennig i'r rheiny sy'n gweithio i gynorthwyo pobl a fu'n ddigartref i gael a chadw llety hirdymor.
Mae'r papur hwn yn cyflwyno safbwyntiau a phrofiadau'r mathau canlynol o ddarpariaeth:
- Hosteli i bobl ddigartref a chysgodfannau nos
- Llochesi i fenywod
- Gwasanaethau cymorth fel y bo'r angen
- Canolfannau dydd, a
- Gwasanaethau cyngor ac eiriolaeth ym maes tai
Datblygu'r ddarpariaeth i bobl ddigartref yng Nghymru
Ym mis Gorffennaf 2009 cyfarfu cynrychiolwyr o Rough Sleepers Cymru, Cymorth Cymru a'r Rhwydwaith Digartrefedd â Jocelyn Davies AC, y Dirprwy Weinidog dros Dai, i gynnig y dylid cynorthwyo gwasanaethau digartrefedd yng Nghymru wrth weithredu datblygiadau tebyg i'r rhai a grëwyd gan yr agenda Places of Change (PoC) yn Lloegr.
Mae'r adroddiad hwn wedi'i seilio ar adborth oddi wrth aelodau o Rough Sleepers Cymru, Cymorth Cymru a'r Rhwydwaith Digartrefedd, a'i fwriad yw:
- Cynnig braslun o rai o'r datblygiadau tebyg i rai PoC a welwyd yng Nghymru yn y blynyddoedd diwethaf
- Disgrifio unrhyw syniadau ar gyfer datblygu gwasanaethau eraill
- Ystyried y goblygiadau o ran cyllido
Briffiad Cymorth Cymru – Y gwaharddiad ar ysmygu tybaco Y goblygiadau i ddarparwr tai â chymorth
Mae'r briffiad canlynol yn cyfeirio at y Rheoliadau Mangreoedd etc Di-fwg (Cymru) 2007. Mae'r rheoliadau'n ymwneud â gwahardd ysmygu tybaco mewn rhai mannau caeedig penodol, yn unol â'r pwerau yn y Ddeddf Iechyd (2006).
Datblygu fframwaith rheoleiddio modern ar gyfer cymdeithasau tai yng Nghymru: Ymateb i'r ymgynghoriad oddi wrth Cymorth Cymru (Gorffennaf 2009)
Ymateb Cymorth Cymru i adolygiad Llywodraeth Cynulliad Cymru o'r fframwaith rheoleiddio ar gyfer cymdeithasau tai yng Nghymru. Mae ein hymateb i'r ddogfen ymgynghori wedi cael ei lunio gan ymgynghori â'n haelodau, gan gynnwys ei drafod yn ein Fforwm Agored.
Digartrefedd yng Nghymru – Monitro effaith y dirwasgiad yn y Deyrnas Unedig
Ym mis Mawrth 2009 gwnaeth Shelter Cymru, Rhwydwaith Digartrefedd yr Awdurdodau Lleol a Cymorth Cymru arolwg o sampl bach o wasanaethau digartrefedd Cymru, gan gynnwys asiantaethau cyngor ar dai a dyled, gwasanaethau canolfannau dydd a hosteli, ac adrannau digartrefedd awdurdodau lleol. Gofynasom i'r bobl a gymerodd ran ddisgrifio eu llwythi achosion cyfredol, a chymharu'r hyn maent yn ei brofi yn awr gyda'r sefyllfa flwyddyn yn ôl.
Drafft ymgynghori Cefnogi Pobl – Strategaeth Cymorth sy'n Gysylltiedig â Thai Ymateb i'r ddogfen ymgynghori oddi wrth Cymorth Cymru
Ymateb Cymorth Cymru i ddrafft ymgynghori Cefnogi Pobl – Strategaeth Cymorth sy'n Gysylltiedig â Thai Llywodraeth Cynulliad Cymru a'r ymrwymiad mae'n ei gynrychioli i ddatblygu cymorth Cymru ymhellach i bobl sydd angen help i ddod o hyd i gartref neu gadw cartref, ac i greu'r bywydau maent yn anelu atynt.
Mae'r ymateb hwn wedi cael ei lunio gan ymgynghori â'n haelodau trwy Fforymau Agored a chyfarfodydd wyneb yn wyneb.
Nodiadau ar Bolisi Cyffuriau Enghreifftiol Cymorth Cymru
Mae'r Polisi Cyffuriau Enghreifftiol canlynol wedi'i gymryd o gyhoeddiad Cymorth Cymru ‘Working with drug users - Guidance for accommodation providers and other support services’. Mae'r ddogfen hon yn trafod amrywiaeth o faterion y byddai asiantaethau efallai yn eu hystyried wrth ddatblygu dulliau o reol materion sy'n ymwneud â chyffuriau, ac mae ar gael fel copi caled neu ar ffurf PDF oddi wrth Cymorth Cymru.
Bwriedir i'r Polisi Enghreifftiol a'r Canllawiau sy'n cyd-fynd ag ef fod o gymorth i unrhyw a phob gwasanaeth sy'n gweithio gyda grwpiau cleientiaid a all gynnwys pobl sy'n defnyddio cyffuriau anghyfreithlon a/neu alcohol. Mae hyn yn cynnwys gwasanaethau sydd wedi'u cynllunio'n benodol i weithio gyda defnyddwyr cyffuriau neu alcohol, megis tai gwlyb neu brosiectau eraill ag arbenigedd sy'n gysylltiedig â chyffuriau, er y bydd hefyd yn cynnwys gwasanaethau sy'n darparu cymorth neu lety mwy cyffredinol, anarbenigol megis:
- hosteli i bobl ddigartref
- llochesi
- cysgodfannau nos
- canolfannau dydd
- gwasanaethau cymorth fel y bo'r angen
Fersiwn ddrafft y Cynllun Digartrefedd Deng Mlynedd i Gymru Ymateb i'r ddogfen ymgynghori oddi wrth Cymorth Cymru
Ymateb Cymorth Cymru i fersiwn ddrafft Cynllun Digartrefedd Deng Mlynedd i Gymru Llywodraeth Cynulliad Cymru a'r ymrwymiad mae'n ei gynrychioli i ddatblygu cymorth Cymru ymhellach i bobl sy'n ddigartref neu sydd mewn perygl o fod yn ddigartref.
Mae'r ymateb hwn wedi cael ei lunio gan ymgynghori â'n haelodau.
Ymateb Cymorth Cymru i'r Papur Gwyrdd ar Ddiwygio Lles - Hydref 2008 Ymateb i'r ymgynghoriad oddi wrth Cymorth Cymru
Achubodd Cymorth Cymru ar y cyfle hwn i gyfrannu at y drafodaeth genedlaethol ar y berthynas rhwng hawliau a chyfrifoldebau mewn perthynas â hawliau i fudd-daliadau yn y Deyrnas Unedig, ac mae'n rhannu nifer o'r egwyddorion allweddol sy'n dylanwadu ar y cynigion a nodir yn y Papur Gwyrdd cyfredol.
Gweithio Gyda'n Gilydd i Leihau Niwed - Strategaeth Camddefnyddio Sylweddau Cymru 2008-2018 Ymateb i'r ymgynghoriad oddi wrth Cymorth Cymru
Mae Cymorth Cymru yn awyddus i gefnogi datblygu a gweithredu strategaeth 10 mlynedd effeithiol i leihau effeithiau defnydd problematig o gyffuriau ar unigolion, teuluoedd a chymunedau yng Nghymru, ac yn cefnogi parhau i ddatblygu gwasanaethau o ansawdd da i'r bobl y mae hyn yn effeithio arnynt.
Mae'r papur hwn yn edrych ar effaith defnyddio cyffuriau, sy'n dal i achosi pryder ymysg gwasanaethau digartrefedd ledled y wlad, a nodir yn aml ei fod yn achosi iechyd gwael a pharhad iechyd gwael, digartrefedd ac allgau cymdeithasol difrifol ymysg eu defnyddwyr gwasanaethau.
Digartrefedd Ymhlith Pobl Ifanc yng Nghymru – Adolygiad y Pwyllgor Cyfiawnder Cymdeithasol ac Adfywio Ymateb i'r ymgynghoriad oddi wrth Cymorth Cymru
Mae'r papur hwn yn cyflwyno trosolwg o rai o'r prif faterion sy'n effeithio ar ddigartrefedd ymhlith pobl ifanc yng Nghymru.
Adroddiad ar Ddigartrefedd ymhlith Pobl Ifanc o ddigwyddiad ymgynghori a gynhaliwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a Cymorth Cymru, Tachwedd 8fed 2007 (Tachwedd 07)
Mae'r papur hwn yn cyfeirio at ddigwyddiad a gynhaliwyd i ystyried adroddiad y Pwyllgor Cyfiawnder Cymdeithasol ac Adfywio ‘Digartrefedd Ymhlith Pobl Ifanc – Busnes Pawb, Cyfrifoldeb Neb’ (CCC, 2007), ac yn arbennig i edrych ar y gwahanol argymhellion ynddo.
Daeth saith deg o weithwyr proffesiynol o'r sectorau digartrefedd, tai ac ieuenctid i'r digwyddiad, gan gynnwys cynrychiolwyr o wasanaethau'r sector gwirfoddol, cymdeithasau tai ac awdurdodau lleol ledled Cymru.
Homeless people's healthcare needs and access to healthcare provision in Wales July 2007
Crynodeb yw'r ddogfen hon o'r adroddiad ‘Homeless people's healthcare needs and access to healthcare provision in Wales', a baratowyd gan yr Athro Susan Hutson ar ran Cymorth Cymru.