Datblygu Proffesiynol
Mae Cymorth Cymru yn rhedeg amrywiaeth o gyrsiau i helpu sefydliadau i wneud y gorau o'u prif ased - eu staff. Mae'r cyrsiau ar agor i holl aelodau Cymorth Cymru a rhai nad ydynt yn aelodau.
Rheoli Gwrthdaro – Rheoli Ymddygiad Heriol
Mae'r cwrs hyfforddi undydd hwn wedi'i gynllunio i ddarparu'r sgiliau y mae eu hangen i adnabod ymddygiad gwrthdrawol a thrwy gyfuniad o arsylwi, cyfathrebu ac asesu bygythiadau a risgiau, alluogi'r rhai sy'n cymryd rhan yn y cwrs i gymryd rheolaeth dros sefyllfaoedd gwrthdrawol. Nod y cwrs yw rhoi i'r bobl sy'n cymryd rhan ddigonedd o sgiliau a strategaethau i ymdrin â gwrthdaro mewn ffordd effeithio a diogel. Mae'r cyfuniad o ddamcaniaeth a chymryd rhan yn ymarferol yn rhoi cyfle i'r cynrychiolwyr drafod ac ymchwilio i faterion o'r fath mewn amgylchedd dysgu diogel.
Diogelwch Personol yn y Gweithle wrth weithio ar eich pen eich hun
Mae'r cwrs hyfforddi undydd hwn wedi'i gynllunio i roi i rai sy'n gweithio ar eu pen eu hunain y sgiliau a'r strategaethau y mae eu hangen i wneud eu gwaith yn y ffordd fwyaf diogel posibl. Nod y cwrs yw rhoi i'r bobl sy'n cymryd rhan ddigonedd o sgiliau a strategaethau wrth weithio ar eu pen eu hunain. Mae'r cyfuniad o ddamcaniaeth a chymryd rhan yn ymarferol yn rhoi cyfle i'r cynrychiolwyr drafod ac ymchwilio i faterion o'r fath mewn amgylchedd dysgu diogel.
Lwfans Cyflogaeth a Chymorth Beth mae'n ei olygu i ddarparwyr a chleientiaid gwasanaethau cymorth sy'n gysylltiedig â thai a gwasanaethau digartrefedd
Mae'r cwrs hyfforddi undydd hwn wedi cael ei gynllunio i helpu'r bobl hynny sy'n gweithio mewn gwasanaethau cymorth sy'n gysylltiedig â thai a gwasanaethau digartrefedd i gynorthwyo eu cleientiaid yn effeithiol trwy brosesau a gofynion newydd y Lwfans Cyflogaeth a Chymorth.
Hyfforddiant ar bolisïau cyffuriau
Mae'r cwrs hyfforddi undydd hwn wedi'i gynllunio i gynorthwyo darparwyr llety a gwasanaethau eraill wrth ystyried ymagweddau at faterion sy'n gysylltiedig â chyffuriau, sy'n diwallu anghenion eu defnyddwyr gwasanaethau yn y ffordd fwyaf effeithiol.
Cyflwyniad i therapi byr sy'n canolbwyntio ar atebion ar gyfer staff yn y sector cymorth sy'n gysylltiedig â thai
Cwrs deuddydd cyflwyniadol i staff cymorth a rheolwyr. Mae therapi byr sy'n canolbwyntio ar atebion yn ddull o gwnsela sydd yn y bôn yn canolbwyntio'n fwy ar ddod o hyd i atebion nag ar edrych ar broblemau. Er ei fod wedi cael ei ddatblygu'n wreiddiol mewn lleoliad therapiwtig clinigol, bellach cydnabyddir yn eang fod y syniadau a'r technegau'n set sgiliau sy'n uniongyrchol berthnasol i amrywiaeth o asiantaethau sy'n gweithio i sicrhau newidiadau cadarnhaol ym mywydau eu defnyddwyr gwasanaethau. Mae'r rhain yn cynnwys sectorau'r gwasanaeth iechyd; gwasanaethau cymdeithasol, cyfiawnder troseddol; cymorth â thai a chymorth â chyflogaeth.