- Life Begins @ Home Week - 2011 - Art Exhibition
- 3rd - 9th October 2011
- Millennium Centre, Cardiff Bay
Back to event page
-
Fy Mandolin / My MandolinKevin Hewitt
Anheddau CyfI am Kevin and I enjoy my art classes at Anheddau every Tuesday and Friday.
Kevin ydw i ac rydw i'n mwynhau fy nosbarthiadau celf yn Anheddau bob Dydd Mawrth a Dydd Gwener.
-
Bocs trysor pyramid / Pyramid box of my treasureKevin Hewitt
Anheddau CyfI am Kevin and I enjoy my art classes at Anheddau every Tuesday and Friday.
Kevin ydw i ac rydw i'n mwynhau fy nosbarthiadau celf yn Anheddau bob Dydd Mawrth a Dydd Gwener.
-
Dwylo'n ymestyn allan / Hands reaching outKevin Hewit
Anheddau CyfI am Kevin and I enjoy my art classes at Anheddau every Tuesday and Friday.
Kevin ydw i ac rydw i'n mwynhau fy nosbarthiadau celf yn Anheddau bob Dydd Mawrth a Dydd Gwener.
-
Llun glâs / Blue CollageAnonymous
Anheddau Cyf -
Noson Ddisglair / Starry NightKerry Ashton
Anheddau CyfMy name is Kerry and I live in Bangor. I am studying Animal Care and I go to art classes at Anheddau every Tuesday. It is good at art class.
Kerry yw fy enw ac rydw i'n byw ym Mangor. Rydw i'n astudio Gofal am Anifeiliaid ac yn mynd i ddosbarthiadau celf yn Anheddau bob dydd Mawrth. Mae'n dda yn y dosbarth celf.
-
Fy mocs storio cofroddion / My storage keepsake boxTommy Martin
Anheddau CyfMy name is Tommy. I go to art classes every Tuesday and Thursday. I enjoy doing art very much.
Tommy ydi fy enw i. Rydw i'n mynd i ddosbarthiadau celf bob Dydd Mawrth a Dydd Iau. Rydw i'n mwnau celf yn fawr iawn.
-
Blodau / FlowersHuw Jones
Anheddau CyfI am Huw. I come originally from Bethesda in Gwynedd. I have been going to art classes every week for nearly six years. I enjoy the company.
Huw ydw i. Rydw i'n dod yn wreiddiol o Bethesda yng Ngwynedd. Rydw i wedi bod yn mynd i ddosbarthiadau celf bob wythnos am bron i chwe mlynedd. Rydw i'n mwynhau'r gwmnïaeth
-
Llaw Trydan / Lightning HandCarol Bromley
Anheddau CyfI am Carol and I like to go to art classes on Fridays.
Carol ydw i ac rydw i'n hoffi mynd i ddosbarthiadau celf ar Ddydd Gwener.
-
Cennin Pedr / DaffodilsElen Jones
Anheddau CyfMy name is Elen. I enjoyed painting the Daffodils. We have lots of daffodils in Wales.
Fy enw i ydi Elen. Fe wnes i fwynhau paentio'r cennin Pedr. Mae gennym lawer o gennin Pedr yng Nghymru.
-
Trydan ar fy nhwylo / Electricity on my handsClifford Edwards
Anheddau CyfI am Cliff from Deiniolen. I love going to art classes every Friday at Anheddau.
Cliff ydw i o Ddeiniolen. Rydw i wrth fy modd yn mynd i'r dosbarthiadau celf bob Dydd Gwener yn Anheddau.
-
Llechwedd Cymraeg / Welsh HillsideBeryl Jones
Anheddau CyfMy name is Beryl. I enjoy my art classes at Anheddau. I have been going to my class for about three years. I also do cookery there and we have lots of parties which are fun.
Beryl ydi fy enw i. Rydw i'n mwynhau fy nosbarthiadau celf yn Anheddau. Bum yn mynd i fy nosbarth am tua tair blynedd. Rydw i hefyd yn astudio coginio yno a rydan ni'n cael llawer o bartïon sy'n hwyl.
-
Pysgod yr Enfys / Rainbow FishAnonymous
Anheddau Cyf -
Ty Cymraeg / Welsh HouseLinda White
Anheddau CyfI am Linda from Bethesda. I have been going to art classes at Anheddau for over five years. I enjoy it so much.
Linda ydw i o Fethesda. Bum yn mynd i ddosbarthiadau celf yn Anheddau ers dros bum mlynedd. Rydw i'n ei fwynhau gymaint.
-
Teisen penblwydd / My Birthday CakeGeraint Fardley
Anheddau Cyf -
Llanberis glâs / Llanberis in BlueMegan Jones
Anheddau Cyf -
Caeau Pabi Piws / Purple Poppy FieldsMegan Jones
Anheddau Cyf -
Blodau Gwyllt / WildflowersKerry Ashton
Anheddau CyfMy name is Kerry and I live in Bangor. I am studying Animal Care and I go to art classes at Anheddau every Tuesday. It is good at art class.
Kerry yw fy enw ac rydw i'n byw ym Mangor. Rydw i'n astudio Gofal am Anifeiliaid ac yn mynd i ddosbarthiadau celf yn Anheddau bob dydd Mawrth. Mae'n dda yn y dosbarth celf.
-
Beic modyr ger y mor / Motorbike by the seaCody Asling
Cymdeithas Tai Cantref / Cantref Housing AssociationMy name is Cody; I am 18 and live in supported housing in Aberystwyth. I like to look at the motorbikes which park on the sea front. I painted this picture for my GCSE exam. I like Aberystwyth because I have made loads of mates here. It is my home.
Cody yw fy enw. Rydw i'n 18 ac yn byw mewn tai â chymorth yn Aberystwyth. Rydw i'n hoffi edrych ar y beiciau modur sy'n parcio ar lan y môr. Paentiais y llun hwn ar gyfer fy arholiad TGAU. Rydw i'n hoffi Aberystwyth am fy mod wedi gwneud llwythi o ffrindiau yma. Dyma fy nghartref.
-
Castell y Machlud Haul / Sunset CastleCody Asling
Cymdeithas Tai Cantref / Cantref Housing AssociationMy name is Cody; I am 18 and live in supported housing in Aberystwyth. I like to look at the motorbikes which park on the sea front. I painted this picture for my GCSE exam. I like Aberystwyth because I have made loads of mates here. It is my home.
Cody yw fy enw. Rydw i'n 18 ac yn byw mewn tai â chymorth yn Aberystwyth. Rydw i'n hoffi edrych ar y beiciau modur sy'n parcio ar lan y môr. Paentiais y llun hwn ar gyfer fy arholiad TGAU. Rydw i'n hoffi Aberystwyth am fy mod wedi gwneud llwythi o ffrindiau yma. Dyma fy nghartref.
-
Llwyn gyda blodau pinc / Bush with pink flowersDawn Pritchard
Cartrefi CymruI really enjoy coming to Creating Together. I have done well being part of this project, my confidence has grown. I enjoyed painting my picture especially the hills and sky.
Rydw i'n mwynhau mynd i Greu gyda'n Gilydd (Creating Together). Rydw i wedi gwneud yn dda fel rhan or prosiect yma. Mi wnes i mwynhau paentio fy narlun, yn arbennig y mynyddoedd a'r awyr.
-
Mynyddoedd ac awyr / Hills and SkyRosie Witherston
Cartrefi CymruMy name is Rosie, I enjoy coming to Creating Together. I am really pleased with my picture. I used a paint brush and sponge. I have used acrylic paints and chosen the colours myself. The art project has helped me to develop my confidence.
Fy enw i yw Rosie. Rydw im mwynahu mynd i Greu gyda'n Gilydd (Creating Together). Rydw i'n wirioneddol fodlon ar fy narlun. Defnyddiais frwsh paent a sbwng. Rydw i wedi defnyddio paent acrylig a fe dewisiais y lliwiau fy hun. Mae'r prosiect wedi datblygu fy hyder.
-
PeterheadTina Holdsworth
Cartrefi CymruI have worked hard in the project Creating Together, I like helping. The project has encouraged me to have confidence in myself and to have a go at different activities. My picture reminded me of when I was little in Scotland. I like the houses and the sea. It makes me want to go and catch fish.
Rydw i wedi gweithio'n galed yn y prosiect Creu gyda'n Gilydd (Creating Together.) Rwy'n hoffi helpu. Mae'r prosiect wedi annog mi i gael hyder yn fy hun ac i rhoi cyfle ar weithgareddau gwahanol. Roedd fy narlun yn fy atgoffa o pan oeddwn i'n fach yn yr Alban. Hoffaf y tai a'r môr. Mae'n gwneud i mi deimlo fel mynd i bysgota.
-
Prosiect 2 - Y Gorwel /Project 2 - SkylineRhaglen Cynnwys Ieuenctid /Youth Inclusion Programme
Cyngor Sir Ddinbych / Denbighshire County CouncilThis part of the project will build on raising the participants' confidence in recognizing their contribution to the wider community.
They will:
- Identify the components of their location
- Develop a greater awareness of their relationship of their location
- Cause them to explore their identity in relation to the location
- Increase awareness of behavioural cause and effect within their location, and how it impacts the community
- Develop a sense of pride and ownership within their location
- Raise their confidence of identity within their location
- Raise their levels of sharing information and team-work, building on their growing practical skills within an enjoyable project
This group work project will run alongside Project 1 (above). It will be a painted canvas 4 foot x 3 foot. The theme is interactive with identity and as such will incorporate where the young person lives locally and include in the painting will be all of the young person's favourite places to visit locally and what is important to them in their locality outside their front door. It will feature silhouettes of the young people taking part and any personal identity that they want to give each silhouette and any local attraction or feature the young person would want to have painted. This will involve 50 young people who are part of the Youth inclusion Programme. Following on from project 1, this project will assimilate awareness and knowledge from evaluating the participants perceived identity within the family environment (Project 1), and move forward to explore their attachment to the wider community. It is proposed that, following the success of utilizing photographic material gathered by the participants about their home environment, the focus will shift outwards to how and why they identify with their local community, evaluating what they see constitutes its component parts, which will involve the participants gathering photographic evidence to substantiate their choices.
Co-coordinating this material, we will create a larger painter installation which depicts a skyline and other elements, combining all the perceived data which the participants feel make up and are important to their location.
This installation will be used in conjunction with the exhibition elements of Project 1, as part of a roving Exhibition to be displayed in the 3 main areas of the participants' inclusion zone, to be views and appraised by peers and family.
Bydd y rhan hon o'r prosiect yn codi hyder y cyfranogion wrth iddynt adnabod eu cyfraniad i'r gymuned ehangach.
Byddant yn:
- Canfod rhannau eu lleoliad
- Datblygu mwy o ymwybyddiaeth o'u perthynas â'u lleoliad
- Achosi iddynt chwilio am eu hunaniaeth mewn perthynas â'u lleoliad
- Cynyddu ymwybyddiaeth o achos ac effaith ymddygiad o fewn i'w lleoliad, a sut effaith gaiff hynny ar eu cymuned.
- Datblygu synnwyr o falchder a pherchnogaeth o fewn i'w lleoliad.
- Codi hyder eu hunaniaeth o fewn i'w lleoliad
- Codi eu lefelau o rannu gwybodaeth a gwaith tîm, gan adeiladu ar dyfiant eu sgiliau ymarferol o fewn i brosiect pleserus.
Bydd gwaith grŵp y prosiect hwn yn gweithredu ochr yn ochr â Phrosiect 1 (uchod). Bydd yn llun wedi'i baentio ar gynfas 4 troedfedd x 3 troedfedd. Mae'r thema yn rhyngweithiol â hunaniaeth ac fel y cyfryw bydd yn cynnwys ble mae'r person ifanc yn byw'n lleol ac yn y darlun bydd ei holl hoff fannau i ymweld â nhw'n lleol a beth sy'n bwysig iddo ef/hi yn y gymdogaeth y tu allan i'w ddrws/drws ffrynt. Bydd yn cynnwys cysgodluniau o'r bobl ifanc sy'n cymryd rhan ac unrhyw hunaniaeth bersonol maen nhw am ei roi i bob cysgodlun ac unrhyw atyniad neu nodwedd leol y byddai'r person ifanc am gael ei baentio. Bydd hyn yn cynnwys 50 o bobl ifanc sy'n rhan o Raglen Cynnwys Ieuenctid. Yn dilyn prosiect 1, bydd y prosiect hwn yn cymhathu ymwybyddiaeth a gwybodaeth a gasglwyd oddi wrth werthuso hunaniaeth ymddangosiadol y cyfranogion o fewn i amgylchedd y teulu (Prosiect 1), ac yn symud ymlaen i ystyried eu cysylltiad â'r gymuned ehangach. Awgrymir, yn dilyn llwyddiant defnyddio deunydd ffotograffig wedi'i gasglu gan gyfranogion am amgylchedd eu cartref, bydd y ffocws yn symud allan i sut a pham maent yn uniaethu gyda'u cymuned leol, gan werthuso yr hyn a welant sy'n creu'r darnau cydrannol, a fydd yn golygu y bydd y cyfranogion yn casglu tystiolaeth ffotograffig i gefnogi eu dewisiadau.
Wrth gydlynu'r deunydd hwn byddwn yn creu cyfarpar paentiedig mwy sy'n darlunio gorwel ac elfennau eraill, gan gyfuno y data ymddangosiadol y mae'r cyfranogion yn teimlo sy'n bwysig i'w lleoliad.
Defnyddir y cyfarpar hwn mewn cysylltiad ag elfennau arddangosfa Prosiect 1, fel rhan o Arddangosfa symudol i'w dangos mewn 3 prif ardal ym mharth cynhwysiad y cyfranogion, i gael eu gweld a'u cloriannu gan gyfoeswyr a theulu.
-
Sied Alotiad / Allotment ShedJanet Bundy
Digartref Ynys MônMy name is Janet Bundy I enjoy doing art. I have been involved in it for at least two years; I find art fun and a good escape from life's problems. I live in Holyhead North Wales were I have a flat. I am 53 and still single. I enjoy doing art at home also the classes I go to. My work has been in exhibitions and competitions. I hope to carry on and hope for further success.
Fy enw yw Janet Bundy ac rydw i'n mwynhau celf. Bum yn rhan ohono ers o leiaf dwy flynedd; rydw i'n canfod fod celf yn hwyl ac yn ddihangfa oddi wrth broblemau bywyd. Rydw i'n byw yng Nghaergybi yng Ngogledd Cymru ble mae gen i fflat. Rydw i'n 53 ac yn dal i fod yn ddibriod. Rydw i'n mwynhau gwneud celf adref yn ogystal â'r dosbarthiadau rydw i'n eu mynychu. Bu fy ngwaith mewn arddangosfeydd a chystadlaethau. Gobeithiaf ddal ati a chael mwy o lwyddiant.
-
Rhinoseros Du Haniaethol / Abstract Black RhinoDavid Hollings
GofalI don't go out very often so home is where my life is and where I feel comfortable. My support worker has recently helped and taken a lot of the pressure out of my life.
My love of art is something that has been with me since I was a child. There is nothing like the feeling of completing a piece of art.
This piece came to me in a dream one night after visiting a safari Park in northern France - so dreams do come true!
Dydw i ddim yn mynd allan yn aml felly gartref yw'r man ble mae fy mywyd a ble rydw i'n teimlo'n fwyaf cyfforddus. Mae fy ngweithiwr cefnogi wedi helpu'n ddiweddar a dwyn llawer o'r pwysau o fy mywyd. Mae fy nghariad at gelf wedi bod gyda fi ers pan oeddwn yn blentyn. Does dim tebyg i gwblhau darn o gelf.
Daeth y syniad am y darn hwn i mi mewn breuddwyd wedi ymweld â pharc saffari yng ngogledd Ffrainc - felly mae breuddwydion yn cael eu gwireddu!
-
Y Storiwr / The StorytellerDavid Hollings
GofalI don't go out very often so home is where my life is and where I feel comfortable. My support worker has recently helped and taken a lot of the pressure out of my life.
My love of art is something that has been with me since I was a child. There is nothing like the feeling of completing a piece of art.
I've always been fascinated by North American Indians and their lives and how in tune with nature tier way of life use to be, not to mention their striking features. I just had to paint the storyteller. I love the way the light folders on his face. I only hope that I have done him justice.
Dydw i ddim yn mynd allan yn aml felly gartref yw'r man ble mae fy mywyd a ble rydw i'n teimlo'n fwyaf cyfforddus. Mae fy ngweithiwr cefnogi wedi helpu'n ddiweddar a dwyn llawer o'r pwysau o fy mywyd. Mae fy nghariad at gelf wedi bod gyda fi ers pan oeddwn yn blentyn. Does dim tebyg i gwblhau darn o gelf.
Rydw i bob amser wedi fy nghyfareddu gan Indiaid Gogledd Amerig a'u bywydau a sut yr arferai eu bywydau fod mewn cytgord â natur; heb sôn am eu hwynebau trawiadol. Roedd yn rhaid i mi baentio'r storïwr. Rydw i'n hoffi'r ffordd mae'r golau'n plygu ar draws ei wyneb. Dydw i ddim ond yn gobeithio fy mod wedi gwneud cyfiawnder ag ef.
-
Niwl y Cwm / Mist of the ValleyJeff Rowlands
GofalMy name is Jeff Rowlands I was born in 1960 in the Rhondda Valleys, I've been painting for the past 2 years and I find it's therapeutic and helps me relax and overcome my depression and anxiety.
I first became inspired by visiting local art galleries, which transported me back to my youth watching my grandfather paint; I found I had a burning desire to see if I could produce some work of my own. I joined a local art group and found my natural instinct towards sea and landscape painting. It has helped me forge new friendships and given me the confidence to mix and meet others and take positive steps forward.
I've recently attended a Routes to Recovery course with Gofal and also the involvement project with Interlink, both have supported me in overcoming my own mental health issues and introduced me to others with similar issues which has stopped me feeling isolated and enabled me to use my experience in a positive way to help others find something within themselves to help them overcome their illness.
Fy enw yw Jeff Rowlands. Ganwyd fi yn 1960 yng Ngwm Rhondda. Bum yn paentio am y 2 flynedd diwethaf ac rwy'n cael hynny'n therapiwtig ac mae'n fy nghynorthwyo i ymlacio ac i ddod i delerau ag iselder a phryder.
Ysbrydolwyd fi gyntaf wrth ymweld ag orielau celf lleol, a'm cymerodd fi'n ôl i fy ieuenctid yn gwylio fy nhad-cu yn paentio; a theimlais awydd angerddol i weld a allwn i gynhyrchu gwaith fy hunan. Ymunais â grŵp celf lleol a chanfod fy ngreddf naturiol yn fy nhynnu at baentio môr a thirlun. Mae wedi fy helpu i greu ffrindiau newydd a chreu'r hyder i gymysgu a chwrdd ag eraill a chymryd camau cadarnhaol ymlaen.
Yn ddiweddar mynychais gwrs Llwybrau Adfer (Routes to Recovery) gyda Gofal ac hefyd y prosiect cysylltiad ag Interlink, ac mae'r ddau wedi fy nghynorthwyo i oresgyn fy mhroblemau iechyd meddwl fy hunan a fy nghyflwyno i eraill gyda phroblemau tebyg. Mae hyn wedi fy rhwystro rhag teimlo'n unig ac wedi fy ngalluogi i ddefnyddio fy mhrofiad mewn ffordd cadarnhaol i helpu eraill i ganfod rhywbeth oddi fewn iddyn nhw'u hunain i'w cynorthwyo i oresgyn eu hafiechyd.
-
Cymylau'n Dod yn agos / Gathering CloudsJeff Rowlands
GofalMy name is Jeff Rowlands I was born in 1960 in the Rhondda Valleys, I've been painting for the past 2 years and I find its therapeutic and helps me relax and overcome my depression and anxiety.
I first became inspired by visiting local art galleries, which transported me back to my youth watching my grandfather paint; I found I had a burning desire to see if I could produce some work of my own. I joined a local art group and found my natural instinct towards sea and landscape painting. It has helped me forge new friendships and given me the confidence to mix and meet others and take positive steps forward.
I've recently attended a Routes to Recovery course with Gofal and also the involvement project with Interlink, both have supported me in overcoming my own mental health issues and introduced me to others with similar issues which has stopped me feeling isolated and enabled me to use my experience in a positive way to help others find something within themselves to help them overcome their illness.
Fy enw yw Jeff Rowlands. Ganwyd fi yn 1960 yng Ngwm Rhondda. Bum yn paentio am y 2 flynedd diwethaf ac rwy'n cael hynny'n therapiwtig ac mae'n fy nghynorthwyo i ymlacio ac i ddod i delerau ag iselder a phryder.
Ysbrydolwyd fi gyntaf wrth ymweld ag orielau celf lleol, a'm cymerodd fi'n ôl i fy ieuenctid yn gwylio fy nhad-cu yn paentio; a theimlais awydd angerddol i weld a allwn i gynhyrchu gwaith fy hunan. Ymunais â grŵp celf lleol a chanfod fy ngreddf naturiol yn fy nhynnu at baentio môr a thirlun. Mae wedi fy helpu i greu ffrindiau newydd a chreu'r hyder i gymysgu a chwrdd ag eraill a chymryd camau cadarnhaol ymlaen.
Yn ddiweddar mynychais gwrs Llwybrau Adfer (Routes to Recovery) gyda Gofal ac hefyd y prosiect cysylltiad ag Interlink, ac mae'r ddau wedi fy nghynorthwyo i oresgyn fy mhroblemau iechyd meddwl fy hunan a fy nghyflwyno i eraill gyda phroblemau tebyg. Mae hyn wedi fy rhwystro rhag teimlo'n unig ac wedi fy ngalluogi i ddefnyddio fy mhrofiad mewn ffordd cadarnhaol i helpu eraill i ganfod rhywbeth oddi fewn iddyn nhw'u hunain i'w cynorthwyo i oresgyn eu hafiechyd.
-
Eicon Prydeinig / British IconLiam Jenkins
Gofal a Chymorth Gwalia / Gwalia Care & SupportMy name is Liam Jenkins I am a recovering heroin addict. I am currently on probation for help with my addiction. I have been drug free from October 2010 to this current day and I will stay drug free for the rest of my life because I want to be a drug worker and that is my goal. On Fridays I do basic skills and art in probation. My art teacher is a great artist and he suggested I entered my painting in this exhibition. I am currently painting another spitfire getting ready to take off and a plane coming down in a ball of fire. I did want to enter that one as well but I have not finished it.
Liam Jenkins yw fy enw. Rwy'n gwella wedi bod yn gaeth i heroin. Ar hyn o bryd rydw i ar brawf i gael cymorth gyda fy nibyniaeth. Bum yn rhydd o gyffuriau ers Hydref 2010 hyd at heddiw ac mi arhosaf yn rhydd o gyffuriau am weddill fy mywyd am fy mod eisiau bod yn weithiwr gyda chyffuriau a dyna fy nod. Ar ddyddiau Gwener yn y cyfnod prawf gwnaf sgiliau sylfaenol a chelf. Mae fy athro celf yn artist gwych ac ef awgrymodd fy mod yn rhoi'r darlun hwn yn yr arddangosfa. Rydw i ar hyn o bryd yn paentio spitfire arall yn paratoi i godi i'r awyr ac awyren arall yn dod i lawr yn belen o dân. Roeddwn am roi hwn i fewn hefyd ond dydw i ddim wedi ei orffen.
-
Genedigaeth Gwener / Birth of VenusDavid Edwards
Gofal a Chymorth Gwalia / Gwalia Care & SupportMy name is David John Edwards. 45 years of age. I am a recovering alcoholic, ongoing. I used to be a good carpenter and joiner, 4 beautiful children, 2 boys and 2 girls, sadly no contact no more.
I'm in recovery under Gwalia Supported housing and receive professional help and support to help me to move on, where I will then be able to cope getting my life back into some sort of normality. The art I do are copies of all types of work from different types of artists, paintings photo's etc.
I have to be motivated, when I am I get a lot of pleasure form my work and gratification from anyone who also shows pleasure from my achievements, so thats about it really.
Hope I've done enough to show my pleasure to the artists I've to capture the art of those artists I've copied.
David John Edwards yw fy enw. Rydw i'n 45 mlwydd oed. Rydw i'n gwella o alcoholiaeth sy'n broses parhaol. Roeddwn i'n arfer bod yn saer da. Mae gen i 4 o blant prydferth, 2 fachgen a 2 ferch, ond yn drist does gen i ddim cyswllt â nhw bellach.
Rydw i'n cael triniaeth adferol gan Dai â Chymorth Gwalia ac yn derbyn cymorth proffesiynol a chefnogaeth i'm helpu i symud ymlaen i ble y byddaf wedyn yn gallu ymdopi â chael fy mywyd yn ôl i ryw fath o drefn normal. Copïau o bob math o waith gan wahanol fathau o artistiaid, paentiadau, ffotograffau ac yn y blaen yw'r gwaith celf y byddaf yn ei wneud.
Rhaid i mi gael fy nghymell. Pan fydd hynny'n digwydd rydw i'n cael llawer o bleser o'm gwaith a boddhad gan eraill sy'n dangos eu bod nhw'n cael pleser o'm llwyddiannau, felly dyna ni mewn gwirionedd.
Rwy'n gobeithio fy mod wedi gwneud digon i ddangos y pleser rwy'n ei gael i'r artistiaid. Rwy wedi ceisio dal celf yr artistiaid a gopïais.
-
Teimlo'n Ddiogel / Feeling SafeDefnyddwyr Gwasanaeth yn Nhŷ Morlais / Service Users at Ty Morlais
Gofal a Chymorth Gwalia / Gwalia Care and SupportThis artwork is a group effort by the clients of Ty Morlais, which is a large old house in Llangennech near Llanelli. Ty Morlais provides 24hr supported housing for up to 6 adults with a learning disability, through Gwalia Housing Trust and Gwalia Care and Support. It aims to provide a homely environment in which clients are encouraged to intergrate and be included within their local community and to develop and maintain independent living skills. Some clients are relatively new to Ty Morlais whereas others have lived here for over 20 years.
The clients of Ty Morlais were asked to think about the word "home" and what this meant to each of them personally. Together they came up the words that summarised how they felt and wanted to use images to represent those words. They were:
- Celebration
- Happiness
- Friendship and relationship
- Comfort
- Garden
- Television
- Music
- Art and craft
- Good food
- A nice warm cup of tea!
They chose to use the fireplace to represent the heart of the home. This then promoted the idea of using tiles around the fireplace, as many traditional hearths have, to present their images of what their home means to them.
The clients chose to use mixed media and collage in order to achieve a multidimensional effect, and used warm earthy colours that they feel reflect the safe, cosiness of home.
The clients have all enjoyed working together to create their artwork for the exhibition and are hoping their entry may be selected to be part of the 'Life Begins @ Home Week' art exhibition at the Millennium Centre in Cardiff.
Mae'r gwaith celf hwn yn ymdrech grŵp gan gleientiaid Tý Morlais, sy'n hen dý mawr yn Llangennech ger Llanelli. Mae Tý Morlais yn darparu tai â chymorth 24 awr i hyd at 6 o oedolion sydd ag anabledd dysgu, drwy Ymddiriedolaeth Tai Gwalia a Gofal a Chymorth Gwalia. Mae'n amcanu at ddarparu amgylchedd gartrefol ble'r anogir cleientiaid i gymysgu a chael eu cynnwys oddi fewn i'r gymuned leol ac i ddatblygu a chynnal sgiliau byw yn annibynnol. Mae rhai cleientiaid yn gymharol newydd i Dŷ Morlais tra bu eraill yma am dros 20 mlynedd.
Gofynnwyd i gleientiaid Tŷ Morlais i feddwl am y gair "cartref" a beth roedd hyn yn ei olygu i bob un ohonynt yn bersonol. Gyda'i gilydd fe gafwyd y geiriau oedd yn crynhoi sut roedden nhw'n teimlo ac roeddent am ddefnyddio delweddau i gynrychioli'r geiriau hynny. Dyma'r geiriau:
- Dathlu
- Hapusrwydd
- Cyfeillgarwch a perthynas
- Cysur
- Gardd
- Teledu
- Cerddoriaeth
- Celf a chrefft
- Bwyd da
- Paned gynnes o de!
Dewiswyd y lle tân ganddynt i gynrychioli calon y cartref. Ysgogodd hyn y syniad o ddefnyddio teils o amgylch y lle tân, fel sydd ar lawer o aelwydydd traddodiadol, i gyflwyno eu delweddau o beth roedd eu cartref yn ei olygu iddynt hwy.
Dewisodd y cleientiaid i ddefnyddio cyfryngau cymysg a collage er mwyn cael effaith aml ddimensiwn a defnyddiwyd lliwiau cynnes, priddlyd y maent hwy'n gredu sy'n adlewyrchu diddosrwydd a diogelwch y cartref.
Mae'r cleientiaid i gyd wedi mwynhau gweithio gyda'i gilydd i greu gwaith celf ar gyfer yr arddangosfa a gobeithiant y bydd eu cynnig yn cael ei ddewis i fod yn rhan o arddangosfa celf 'Wythnos mae Bywyd yn Dechrau Gartref' yng Nghanolfan y mileniwm yng Nghaerdydd.
-
Bywyd yw beth ti'n i greu / Life is what you make of itSamantha Alexander Llamau
Hi, my name is Samantha. I am 21 and believe that life doesn't always begin at home. I was brought up in a volatile household and suffered physical abuse and I've made (am making) something good out of my life. If live begins at home for me I'd be a bad person. Maybe I was at one stage but I've changed and I'm proud of the steps I've taken in order to become who I am. I want to become a councillor and help other young people who have suffered like I have.
Thanks you. X
Life is what you make of it.
Helo. Fi yw Samantha. Rydw i'n 21 a dydw i ddim yn credu bod bywyd yn dechrau yn y cartref trwy'r amser. Cefais i magu yn nhy cyfnewidiol a nes i ddioddef camdriniaeth corfforol ond rydw i wedi gwneus (yn gwyneud) rhywbeth da allan o fy mywyd i. OS mae bywyd yn dechrau adref byddaf i yn person drwg. Efallai roeddwn i yn ddrwg on rydw i wedi newid ac rwy'n falch o'r camau 'dwi wedi cymryd i newid. Rywd i eisiau dod yng ngynghorydd a helpu pobl ifanc sydd wedi dioddef fel dw'i.
Diolch.
Bywyd yw beth ti'n i greu.
-
Cariad / LoveShelbi Hicks
LlamauMy name is Shelbi Hicks, I am 19 year old girl. I live in Canton, in one of Llamau's many properties, without the people and help of Llamau I wouldn't have been living. Being with Llamau has boosted my confidence and has helped me a lot with day-to-day things.
This piece of art I have made, means a lot to me because home to me is my father's house and when I was 13 I came out to everyone in my family and said I was gay and still to this day half of my family have not excepted me for who and what I am.
Shelbi Hicks yw fy enw. Rydw i'n ferch 19 mlwydd oed. Rydw i'n byw yn Nhreganna, yn un o'r llawer o feddiannau sydd gan Llamau. Heb bobl a chymorth Llamau fyddwn i ddim yn fyw. Mae bod gyda Llamau wedi codi fy hyder ac wedi fy helpu llawer gyda phethau bob dydd.
Mae'r darn celf hwn, rydw i wedi ei wneud, yn golygu llawer i mi oherwydd cartref i mi yw tŷ fy nhad. Pan oeddwn yn 13 deuthum allan a dweud wrth bawb o'm teulu fy mod yn hoyw, a hyd yn oed heddiw 'dyw hanner fy nheulu heb fy nerbyn am bwy neu beth ydw i.
-
Dau Ciwb / Two CubesDonna Edwards
LlamauHello my name is Donna Edwards and I am a Rasta. I love my music and home life. I have chosen this because I love Bob Marley and Reggae. I play my music all day also I am gaming all day on my laptop. This is why I have included these pictures of my boxes.
Helo. Fy enw i yw Donna Edwards a rydw i yn Rasta. Rydw i'n caru fy ngherddoriaeth a fy mywyd cartref. Rydw i wedi dewis hyn achos rydw i'n caru Bob Marley a Reggae. Rwy'n chwarae fy ngherddoriaeth trwy'r dydd ac hefyd rydw i'n chwarae gemau trwy'r dydd ar fy nghyfrifiadur. Dyma pam rydw i wedi dewis y lluniau yma.
-
Symud Ymlaen / Moving onAlison Lintern
LlamauCaerphilly women's Services and Learning 4 Life (L4L) have recently started working together with the QWEST Project. These three women have contributed some very personal memories associated with the emotive subject of 'home'. I am very proud of their efforts and it is a great pleasure to work with them.
Yn ddiweddar dechreuodd Gwasanaethau Merched Caerffili a Learing 4 Life (L4L) weithio gyda'u gilydd a gyda Prosiect QWEST. Mae'r dair dynes yma wedi cyfrannu atgofion personol iawn sy'n gysylltiedig â'r pwnc emosiynol o 'gartref'. Rydw i'n falch iawn o'u hymdrechion ac mae'n bleser mawr gweithio gyda nhw.
-
Atgofion o fy anifeiliaid anwes / Memories of my petsMandy Matthews Llamau
Caerphilly women's Services and Learning 4 Life (L4L) have recently started working together with the QWEST Project. These three women have contributed some very personal memories associated with the emotive subject of 'home'. I am very proud of their efforts and it is a great pleasure to work with them.
Yn ddiweddar dechreuodd Gwasanaethau Merched Caerffili a Learing 4 Life (L4L) weithio gyda'u gilydd a gyda Prosiect QWEST. Mae'r dair dynes yma wedi cyfrannu atgofion personol iawn sy'n gysylltiedig â'r pwnc emosiynol o 'gartref'. Rydw i'n falch iawn o'u hymdrechion ac mae'n bleser mawr gweithio gyda nhw.
-
Hannah HaywardLlamau
-
Cath / CatsAmanda Lovell
LlamauCaerphilly women's Services and Learning 4 Life (L4L) have recently started working together with the QWEST Project. These three women have contributed some very personal memories associated with the emotive subject of 'home'. I am very proud of their efforts and it is a great pleasure to work with them.
Yn ddiweddar dechreuodd Gwasanaethau Merched Caerffili a Learing 4 Life (L4L) weithio gyda'u gilydd a gyda Prosiect QWEST. Mae'r dair dynes yma wedi cyfrannu atgofion personol iawn sy'n gysylltiedig â'r pwnc emosiynol o 'gartref'. Rydw i'n falch iawn o'u hymdrechion ac mae'n bleser mawr gweithio gyda nhw
-
Calon y Cartref / Home is where the heart isSimona Keselova
Llamau -
Cerddoriaeth yw fy nghartref / Home is where the music isGoldie Buckmaster
LlamauMy name is Goldie Buckmaster. I have attended Learning 4 Life in Llamau where I have developed my confidence and skills.
This piece of work I have designed represents what home is for me. This is where I chill in my room listening to music. Whenever things get bad I listen to music as it helps to clear my head. I am also accepted by my peers and relate to them through my music.
Home is where my music is.
Fy enw i yw Goldie Buckmaster. Rydw i wedi datblygu sgiliau a hyder yn y prosiect Learing 4 Life Llamau.
Mae'r dan o waith yma yn cynrychioli beth yw Cartref i mi. Dyma lle dwy'n ymlacio ac yn gwrando i gerddoriaeth, Pan mae pethau'n mynd yn ddrwg dwi'n gwrando i gerddoriaeth i clirio my mhen. Mae fy nghyfoedion yn fy nerbyn a thrwy fy ngherddoriaeth rydym yn dod i ddeall ein gilydd.
Cerddoriaeth yw fy nhartref.
-
HollyNea Cook
PerthynI chose to do a 3D picture of a horse because I love horses and ponies. I added wire to the horse picture to make it look real. I really enjoyed painting the picture. My confidence in myself had got a lot better since I started coming to the art project Creating Together. I like helping other people with their work when they need support.
Dewisiais gwneud llun 3D o geffyl achos rydw i'n hoff iawn o geffylau. Ychwanegais gwifr i'r llun. Mwynheiais gwneud y llun. Mae fy hyder wedi gwella lot ers mynd i'r prosiect celf Creu gyda'n Gilydd (Creating Together). Rydw i'n hoffi helpu pobl eraill.
-
Random 1Amin Brahien Mohammed
Salvation Army nawr / now Oak House, Cymdeithas Tai United Welsh Housing AssociationI chose the tape stencil because I like music and was just creative with the colours. The roses I did for my mother and again I was just creative with the colours and I like the colours yellow and black.
I am currently living in Ty Gobaith and looking to move to Oak House as I have been participating in the art workshops there. I have been street homeless for a long period of time.
I have always loved Banksys' work and have done a lot of reading about him.
Fe ddewisais y stensil tâp am fy mod yn mwynhau cerddoriaeth a'i fod yn greadigol gyda'r lliwiau. Fe wnes y rhosynnau i fy mam ac eto, roeddwn yn greadigol gyda'r lliwiau ac rwy'n hoffi'r lliwiau melyn a du.
Rwy'n byw yn Nh? Gobaith ar hyn o bryd ac yn edrych ymlaen i symud i Oak House am fy mod wedi bod yn rhan o'r gweithdai celf yno. Rwyf wedi bod yn ddigartref ar y stryd am gyfnod maith o amser.
Rwy bob amser wedi hoffi gwaith Banksy ac rwy wedi darllen llawer iawn amdano.
-
Random 2Amin Brahien Mohammed
Salvation Army nawr / now Oak House, Cymdeithas Tai United Welsh Housing AssociationI chose the tape stencil because I like music and was just creative with the colours. The roses I did for my mother and again I was just creative with the colours and I like the colours yellow and black.
I am currently living in Ty Gobaith and looking to move to Oak House as I have been participating in the art workshops there. I have been street homeless for a long period of time.
I have always loved Banksys' work and have done a lot of reading about him.
Fe ddewisais y stensil tâp am fy mod yn mwynhau cerddoriaeth a'i fod yn greadigol gyda'r lliwiau. Fe wnes y rhosynnau i fy mam ac eto, roeddwn yn greadigol gyda'r lliwiau ac rwy'n hoffi'r lliwiau melyn a du.
Rwy'n byw yn Nh? Gobaith ar hyn o bryd ac yn edrych ymlaen i symud i Oak House am fy mod wedi bod yn rhan o'r gweithdai celf yno. Rwyf wedi bod yn ddigartref ar y stryd am gyfnod maith o amser.
Rwy bob amser wedi hoffi gwaith Banksy ac rwy wedi darllen llawer iawn amdano.
-
Beth yw adref i mi / What's Home for MeDavid Omran Livingstone
Cymdeithas Tai Taf / Taff Housing AssociationI am an African - originally from the Sudan. I've been in the house of exile for the last 20 years of my young age. Being away from home for that long it's a strange feeling nobody can describe it unless you live it yourself and feel the pain of being homeless. Poems always have a strong message in life and it's been my passion since my teen's time and still the heat is on. Last but not least writing my pain down as a poem it's been a home for me when I feel homeless.
Rwy'n Affricanwr - yn wreiddiol o'r Sudan. Bum yn nh?'r alltud am yr 20 mlynedd diwethaf o'm hieuenctid. Mae bod i ffwrdd o gartref cyn hired â hyn yn deimlad rhyfedd na all neb ei ddisgrifio oni bai eich bod wedi ei fyw eich hunan a theimlo'r boen o fod yn ddigartref. Mae gan gerddi bob amser neges gref mewn bywyd a bu'n angerdd personol i mi ers fy arddegau ac mae'r wefr yn parhau. Yn olaf, ond nid yn lleiaf, bu ysgrifennu fy mhoen mewn cerdd yn gartref i mi pan oeddwn yn ddigartref.
-
Y Gwair Gwyrdd Gwyrdd Gartref / The Green Green Grass of HomeSophie De Marco, Huw Wood, Joshua Roberts, Nick Jones, Ann Marie Vaughan, Jeffrey Hopkins, Lee Dennis, Sara Allegretto & Natasha Bray
The WallichThe Wallich are a homelessness charity and have been working with homeless and vulnerable people for over 30 years. We work to find lasting solutions to homelessness and prevent its occurrence by working with those who are in danger of becoming homeless. 'Streets Ahead' (Swansea & Bridgend) are part of The Wallich and has been developed for people who need support with confidence building, self-esteem and employability skills. We offer accredited qualifications/awards and have fun through various learning activities, cooking, art and visits. Everyone who participated in the artwork thoroughly enjoyed the process, from the initial idea building, working with the clay, to submitting the application form. It provoked various thoughts of home and what it meant to different people. The individual houses/buildings reflect the personal thoughts of the people who made them. Bowling greens, family houses, iconic buildings of Wales, shops etc, are all included, they reflect memories and feelings about spaces visited and lived in. The village portrays the sense of community that we have at Streets Ahead and how individuals can contribute to it.
We laughed and learned, and got covered in clay!
Hello there, Streets Ahead is a nice project. The people you meet there are very friendly and welcoming. Everybody who comes to Streets Ahead gets on very well with each other. We are like a small family. I enjoy doing art because I find it inspirational. We have made a little village because like the buildings we are all different but part of a community. I find it thought provoking because it reminds me of traditional village life.
Elusen digartrefedd yw'r Wallich a fu'n gweithio â phobl ddigartref a rhai sy'n agored i niwed ers dros 30 mlynedd. Rydym yn gweithio i ddarganfod datrysiadau parhaol i ddigartrefedd ac i'w atal drwy weithio â rhai sydd mewn perygl o fod yn ddigartref. Mae 'Streets Ahead' (Abertawe a Pen-y-bont ar Ogwr) yn rhan o'r Wallich a chafodd ei ddatblygu gan bobl sydd angen cymorth i adeiladu hyder, hunan-barch a sgiliau cyflogadwyedd. Rydym yn cynnig cymwysterau/gwobrau achrededig a chawn hwyl drwy wahanol weithgareddau dysgu, coginio, celf ac ymweliadau. Fe wnaeth pawb oedd yn rhan o'r gwaith celf fwynhau'r broses yn fawr o adeiladu'r syniad gwreiddiol, gweithio â'r clai i gyflwyno'r ffurflen gais. Roedd yn procio gwahanol syniadau am gartref a ble roedd hyn yn ei olygu i wahanol bobol. Roedd y tai/adeiladau unigol yn adlewyrchu syniadau personol y bobl a'u gwnaeth. Mae lawntiau bowlio, tai teuluoedd, adeiladau eiconaidd Cymru, siopau a cyn y blaen i gyd wedi'u cynnwys. Maent i gyd wedi'u cynnwys ac maent yn adlewyrchu atgofion a theimladau am y gofod yr ymwelwyd â hwy a ble roedd pobl yn byw. Mae'r pentref yn portreadu yr ymdeimlad o gymuned sydd gennym yn Streets Ahead a sut y gall unigolion cyfrannu at hynny.
Buom yn chwerthin a dysgu a chawsom ein gorchuddio gan glai!
Helo 'na, mae Streets Ahead yn brosiect neis. Mae'r bobl y gwnewch eu cyfarfod yno yn gyfeillgar ac yn groesawgar iawn. Mae pawb sy'n dod i Streets Ahead yn cyd-dynnu'n dda â'i gilydd. Rydym fel teulu bach. Rwy'n mwynhau celf am ei fod yn fy ysbrydoli. Rydym wedi gwneud pentref bach oherwydd, fel yr adeiladau, rydym i gyd yn wahanol ond yn rhan o gymuned. Mae hyn yn gwneud i mi feddwl am ei fod yn fy atgoffa o fywyd pentref traddodiadol.
-
Seren Wib / Shooting StarProsiect grŵp gan breswylwyr Tŷ Seren / Group project by residents of Tŷ Seren
Cymdeithas Tai Taf / Taff Housing AssociationThese artworks are completed by residents at Tŷ Seren, a 29 bed hostel for females aged between 16-25, run by Taff Housing.
The hostel runs a program of group activities among them arts & crafts sessions run on a monthly basis.
Cwblhawyd y gweithiau celf hyn gan breswylwyr Tŷ Seren, hostel 29 gwely i ferched rhwng 16-25 mlwydd oed, sy'n cael ei gynnal gan Tai Taf.
Mae'r hostel yn trefnu rhaglen o weithgareddau grŵp ac yn eu plith sesiynau celf a chrefft a gynhelir yn fisol.
-
Hip Hop mewn Celf / Art in Hip HopJames Gannon
Cymdeithas Tai United Welsh Housing AssociationI really love music, I love art. These pieces were not meant to be entered but my teacher failed to tell me about the art competition, but I most probably was too busy to hear her (it's not her fault).
I came up with idea because I have more CD's than CD covers. The top left hand one (unicorn), love wildlife inspired me for this and I had to think of some way to collaborate the music with the pictures. The right hand one the cassette is a mixed tape because that's what music started in for me cassettes. The bottom one is what rap is about money, woman and politics and I love the dollar sign.
I am currently living at Oak House it has helped a lot, but I am ready to move on now. I have re-discovered my love for art at Oak House. I would now or when I am settled in my flat I will pick it up. I am 35 years old, but due to drugs and homelessness I haven't had a chance to do anything I'd like to.
Rwy'n wirioneddol yn hoffi cerddoriaeth. Rwy'n hoffi celf. Doeddwn i ddim yn bwriadu i'r darnau yma gael eu rhoi yn y gystadleuaeth, ond fe fethodd fy athrawes â dweud wrtha i am y gystadleuaeth celf, ond mae'n bur debyg fy mod i'n rhy brysur i'w chlywed hi (nid ei bai hi).
Fi gafodd y syniad am fod gen i fwy o CDau nag sydd gen i o gloriau CD. Mae'r un ar yr ochr chwith uchaf (ungorn), ysbrydolwyd fi gan fy hoffter o fyd natur ar gyfer hwn a bu'n rhaid i mi feddwl am ryw ffordd o gysylltu'r gerddoriaeth â'r lluniau. Mae'r un ar ochr dde'r casét yn dâp cymysg am mai drwy gasetiau y dechreuodd cerddoriaeth i mi. Yr un gwaelod yw'r un mae'r rap yn sôn amdano - arian, merched a gwleidyddiaeth ac rwy'n hoffi arwydd y ddoler.
Rwy'n byw ar hyn o bryd yn Oak House a bu o gymorth mawr i mi, ond nawr rwy'n barod i symud ymlaen. Fe wnes ailddarganfod fy hoffter o gelf yn Oak House. Fe wnaf ailafael ynddo nawr neu pan fyddaf wedi setlo yn fy fflat. Rwy'n 35 mlwydd oed, ond oherwydd y cyffuriau a digartrefedd ni chefais siawns i wneud unrhyw bethyr hoffwn ei wneud.
-
Glaw ac Enfysau / Rain and RainbowsColin Totten
Cymdeithas Tai United Welsh Housing AssociationMy name is Colin I've been at Oak House for roughly 6 months. The piece I have on display is called Rain and Rainbows it's an abstract piece that individuals can look at and see different things. What can you see?
Colin ydi fy enw i ac rwy wedi bod yn Oak House am tua 6 mis. Glaw ac Enfysau yw enw'r darn sy'n cael ei arddangos gen i; mae'n ddarn haniaethol y gall unigolion edrych arno a gweld pethau gwahanol. Beth allwch chi ei weld?
-
Dolffiniaid yn Ddawnsio / Dancing DolphinsMandy Trickett
Cymdeithas Tai United Welsh Housing AssociationDolphins are one of my favourite animals and i have been working on decorating two picture frames and a mirror using images of dolphins. This inspired me to paint this canvas.
I used acrylic paints as they were easy to mix and good to use. I find painting therapeutic and it clears my brain and helps me to think. I feel content when i am drawing and painting. It has been my dream to have my work in an exhibition.
I have been homeless for 10 years in and out of prison and using drugs. I have been clean for a period of time and have been using painting and drawing as a substitute.
Dolffiniaid yw rhai o fy hoff anifeiliaid ac rwyf wedi bod yn gweithio ar addurno dwy ffrâm llun a drych gan ddefnyddio delweddau o ddolffiniaid. Dyma wnaeth fy ysbrydoli i baentio'r cynfas hwn.
Defnyddiais baent acrylig am eu bod yn hawdd i'w cymysgu ac yn dda i'w defnyddio. Rwy'n canfod paentio yn therapiwtig ac mae'n clirio fy ymennydd ac yn fy helpu i feddwl. Rwy'n teimlo'n fodlon pan fyddaf yn tynnu lluniau ac yn paentio. Bu'n freuddwyd gennyf i gael fy ngwaith mewn arddangosfa.
Rwy wedi bod yn ddigartref am 10 mlynedd, i mewn ac allan o garchar ac yn defnyddio cyffuriau. Rwyf wedi bod yn lân ers cyfnod o amser bellach ac rwyf wedi bod yn defnyddio paentio a thynnu lluniau yn hytrach na chymryd cyffuriau.
-
Pop Art DogPop Art Dog
-
Damien AndrewsDamien Andrews
Cartrefi CymruI think it is good to have an exhibition and I am very pleased with my picture. I have worked hard, making my picture with card, tissue paper and newspaper, before painting it with acrylics.
Rydw I'n credu bod cael arddangosfa celf yn syniad da ac dwi'n hapus iawn gydafy llun i. Rydw I wedi gweithio'n galed gan greu fy llun gyda cerdyn, papur cnodwe a phapur newydd cyn ei beintio gyda phaent acrylig.