Cyhoeddodd Cerdyn Golau Glas, prif ddarparwr disgowntiau y wlad i’r gwasanaethau brys, y GIG, y sector gofal cymdeithasol a’r lluoedd arfog ei fod yn croesawu’r gweithlu digartrefedd i mewn i’w gymuned.
Fel rhan o ymrwymiad parhaus Cerdyn Golau Glas i ofal cymdeithasol, sydd bellach yn un o’i grwpiau aelodau mwyaf, bydd y cynnig disgownt yn cydnabod a chefnogi’r gweithlu digartrefedd yn y DU a amcangyfrifir i fod yn 60,000 o bobl, sy’n cynnwys swyddogion tai, rheolwyr llochesau nos, gweithwyr allgymorth a llawer mwy.
Mae cyhoeddiad heddiw yn ganlyniad i bartneriaeth newydd rhwng Cerdyn Golau Glas a Homewards, rhaglen bum mlynedd a grëwyd gan y Tywysog William a Sefydliad Brenhinol Tywysog a Thywysoges Cymru sy’n anelu at ddangos ei bod yn bosibl rhoi diwedd ar ddigartrefedd, ei wneud yn brin, yn ogystal â newid ddirnadaeth o gwmpas y mater.
Fel rhan o’r bartneriaeth hon, mae Cerdyn Golau Glas wedi dod yn Ysgogydd y rhaglen Homewards, gan ymuno â’r Bartneriaeth Homewards ochr yn ochr â brandiau a gydnabyddir gan gynnwys Pret A Manger a Homebase. Mae ymrwymiad sylweddol Cerdyn Golau Glas trwy ymestyn eu cynnig i’r sector digartrefedd yn enghraifft gref o’r gefnogaeth gall sefydliadau ei chwarae eu rhan mewn rhoi diwedd ar ac atal digartrefedd.
Gan weithio gyda Homewards, a chyrff aelodaeth digartrefedd ar draws y pedair gwlad, mae’r budd-dal newydd hwn yn anelu am godi ymwybyddiaeth o’r sector a’i waith hanfodol y mae ei hangen yn fawr. Trwy groesawu’r sector i gymuned Cerdyn Golau Glas, mae’n cydnabod y gwasanaeth hanfodol maent yn ei ddarparu trwy weithio’n ddiflino bob dydd, yn mynd y tu hwn, mewn amgylchedd heriol, i atal digartrefedd a sicrhau fod gan bobl le diogel i’w alw yn gartref.
Er gwaethaf eu hymroddiad ac ymrwymiad, yn rhy aml mae’r gweithlu digartrefedd yn canfod eu hunain o dan bwysau costau byw. Mewn arolwg o weithwyr yn rheng flaen y sector digartrefedd a gyhoeddwyd heddiw gan Elusen St Martin-in-the-Fields, mae dros hanner (52%) o’r rhai sy’n gweithio yn y sector yn ei chael hi’n anodd weithiau i dalu eu biliau neu gostau tai (44%). Mae bron i un allan o ddau (47%) wedi gwario eu harian eu hunain ar gostau sy’n gysylltiedig ar waith a dywedodd 51% eu bod yn wastad ne’n aml yn teimlo mewn perygl o losgi allan a dywedodd 29% arall eu bod weithiau’n teimlo fel hyn.
Bydd Mynediad at y Cerdyn Golau Glas yn darparu ffyrdd ymarferol i’r gweithlu digartrefedd i arbed arian a gwella eu lles eu hunain, o ostyngiadau ar bethau dyddiol hanfodol fel bwydydd a chyfleustodau, i baneidiau a phrydau allan gyda ffrindiau a’r teulu ar ôl diwrnod hir o waith.
Mae’r bartneriaeth newydd gyhoeddedig hon gyda Homewards hefyd yn anelu at geisio amlygu’r amrywiaeth eang o rolau ac arbenigedd sydd eu hangen i atal ar rhoi diwedd ar ddigartrefedd a’r ddolen hanfodol rhwng y gweithlu hwn a llawer o weithwyr a derbynwyr hanfodol y Cerdyn Golau Glas.
Dywedodd Alidad Moghaddam, Prif Swyddog Gweithredol yn Cerdyn Golau Glas:
“Efallai nid yw’r gweithlu hwn mor hawdd i’w adnabod â gweithwyr golau glas mewn iwnifform fel nyrsys, meddygon, yr heddlu neu ddiffoddwyr tân, ond rydym ni’n eu gweld nhw. Mae ‘Golau Glas’ yn symbylu gwasanaeth, aberth, ac effaith gymdeithasol – gwerthoedd sy’n cael eu rhannu gan y gweithlu digartrefedd sy’n rhoi anghenion eraill o flaen rai eu hunain yn aml.
“Mae dod â’r rhai sy’n gweithio yn y sector digartrefedd i mewn i’n cymuned golau glas yn estyniad ar ein hymrwymiad parhaus i ofal cymdeithasol. Mae ein haelodau gyda’i gilydd yn helpu adeiladu a chynnal cymunedau iach trwy gydol y DU.
“Ni ellir cyflawni atal a rhoi diwedd ar ddigartrefedd ond trwy ymroddiad parhaus y bobl arbennig hyn, ac mae’r effaith maen nhw’n ei gael yw pam maen nhw’n haeddu gymaint y cynnig sydd wedi ei cyflwyno iddynt. Os gallwn ni chwarae hyd yn oed rhan fechan i gefnogi eu hiechyd a’u lles a dangos faint rydym ni’n eu gwerthfawrogi ac yn ddiolchgar iddyn nhw, byddwn ni’n gwneud hynny.”
Katie Dalton, Cyfarwyddwr Cymorth Cymru:
“Pleser o’r mwyaf i ni yw cyhoeddi bod gweithwyr digartrefedd a chymorth tai yng Nghymru yn cael cydnabyddiaeth am eu gwaith anhygoel, a’u bod bellach yn gallu cael mynediad at ystod o brofiadau, gostyngiadau a gwobrau ecsgliwsif drwy’r Cerdyn Golau Glas.
“Ar adeg pan fo llawer o weithwyr rheng-flaen yn cael trafferth i ymdopi â’r argyfwng costau byw, gobeithiwn y bydd y cyhoeddiad heddiw yn estyn help llaw gwerthfawr. Ond, yn bwysicaf oll, mae hyn yn gydnabyddiaeth o’r gwaith holl bwysig, cymhleth a heriol maent yn ymgymryd ag ef – gwaith sy’n aml yn anweledig, ond sy’n trawsnewid bywydau miloedd o bobl bob blwyddyn.”
Dywedodd Pim Gregory, Cyfarwyddwr Gweithredol Digartrefedd, Y Sefydliad Brenhinol:
“Mae digartrefedd yn broblem cymhleth, amlochrog ac o’r herwydd mae’r gweithlu digartrefedd yn cynnwys amrywiaeth fawr o rolau. Maen nhw’n gweithio’n ddiflino i gefnogi rhai o bobl fwyaf bregus cymdeithas – o’r rhai sy’n cysgu allan, pobl yn ‘syrffio soffas’ neu’n cysgu yn eu ceir, i deuluoedd a phlant sy’n gaeth mewn llety dros dro anaddas. Mae’n hanfodol ein bod ni’n cydnabod ac yn cefnogi’r rôl hanfodol mae’r gweithlu digartrefedd yn ei chwarae yn ein cymdeithas ac rydym ni mor ddiolchgar i’r Cerdyn Golau Glas am eu cefnogaeth ar hyn ac ymrwymiad i Homewards wrth fynd ymlaen fel Ysgogydd.”
Mae ennill aelodaeth o’r Cerdyn Golau Glas ar gyfer mynediad at ostyngiadau a gwobrwyon sy’n arwain y farchnad yn gyflym ac yn hawdd. Mae gweithwyr llawn amser a rhan amser sefydliadau sy’n gweithio’n uniongyrchol ar ddigartrefedd ar draws y DU yn gymwys. Cofrestrwch ar-lein yn www.bluelightcard.co.uk. Mae cerdyn yn costio £4.99 ac mae’n ddilys am ddwy flynedd.