{"id":1065,"date":"2022-09-28T08:55:57","date_gmt":"2022-09-28T07:55:57","guid":{"rendered":"https:\/\/www.cymorthcymru.org.uk\/cost-of-living-crisis-pushing-critical-frontline-workers-closer-to-the-edge\/"},"modified":"2023-07-19T09:43:17","modified_gmt":"2023-07-19T08:43:17","slug":"argyfwng-costau-byw-yn-gwthio-gweithwyr-rheng-flaen-hanfodol-yn-nes-at-y-dibyn","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.cymorthcymru.org.uk\/cy\/argyfwng-costau-byw-yn-gwthio-gweithwyr-rheng-flaen-hanfodol-yn-nes-at-y-dibyn\/","title":{"rendered":"Argyfwng costau byw yn gwthio gweithwyr rheng flaen hanfodol yn nes at y dibyn"},"content":{"rendered":"<p>Mae ymchwil a gyhoeddwyd heddiw gan Cymorth Cymru wedi tynnu sylw at effaith frawychus yr argyfwng costau byw ar weithwyr rheng flaen yn y sector digartrefedd a chymorth tai yng Nghymru. Mae tystiolaeth a gyflwynwyd gan dros 720 o weithwyr rheng flaen wedi amlygu\u2019r pwysau ariannol anhygoel maent yn ei wynebu wrth ddarparu gofal allweddol i ddegau o filoedd o bobl ledled y wlad.<\/p>\n<p>Er gwaetha\u2019r ffaith eu bod yn cyflenwi gwasanaethau hanfodol wyneb-yn-wyneb yn ystod y pandemig, gan roi eu hiechyd eu hunain, eu teuluoedd a\u2019u ffrindiau, mewn perygl, \u00a0mae adroddiad newydd \u2013\u00a0<a href=\"https:\/\/www.cymorthcymru.org.uk\/index.php\/download_file\/2718\/\"><em>Anawsterau<\/em><\/a><em> yn y Rheng Flaen<\/em>\u00a0\u2013 yn manylu ar y modd y mae cyflogau isel, ynghyd \u00e2 rhenti uchel, costau ynni, a chostau tanwydd, yn rhoi pwysau aruthrol ar eu bywydau.<\/p>\n<p><em>\u201cDwi ddim ond yn bodoli, nid yn byw, o fis i fis.\u201d<\/em><\/p>\n<p><em>\u201cMae gen i aelod o\u2019r staff sydd wedi troi at waith rhyw i ddod \u00e2 dau pen llinyn ynghyd. Ddylai pethau ddim bod fel hyn.\u201d<\/em><\/p>\n<p><em>\u201cRydyn ni\u2019n llythrennol yn ddim ond un siec cyflog i ffwrdd o drychineb ariannol.\u201d<\/em><\/p>\n<p><em>\u201cDwi\u2019n colli prydau bwyd.\u201d<\/em><\/p>\n<p><em>\u201cDwi\u2019n gweithio rhwng 45\u201350 awr yr wythnos ar gyfartaledd, ac yn chwilio am ail swydd.\u201d<\/em><\/p>\n<p>Mewn arolwg o dros 650 o weithwyr rheng flaen yn y sector digartrefedd a chymorth tai, dangoswyd y canlynol:<\/p>\n<ul>\n<li>Mae 70%\u00a0wedi rhoi\u2019r gorau i gymryd rhan mewn gweithgareddau cymdeithasol<\/li>\n<li>Mae 44%\u00a0yn cael anhawster i dalu\u2019r biliau<\/li>\n<li>Mae 11%\u00a0yn cael anhawster i dalu\u2019r rhent<\/li>\n<li>Mae 7%\u00a0wedi dechrau defnyddio banciau bwyd<\/li>\n<li><\/li>\n<\/ul>\n<h3>Gweithwyr yn gorfod dewis rhwng gwresogi a bwyta<\/h3>\n<p>Mae costau ynni eisoes yn achosi pryder mawr i\u2019r rhan fwyaf o\u2019r gweithwyr rheng flaen yng Nghymru, gydag 86% yn diffodd goleuadau neu offer trydanol i ymdopi \u00e2\u2019r argyfwng costau byw, a 79% yn penderfynu peidio \u00e2 gwresogi eu cartref. Yn ogystal, roedd 95% o\u2019r rhai a ymatebodd yn \u2018hynod bryderus\u2019 neu\u2019n \u2018bryderus iawn\u2019 ynghylch y cynnydd a ragwelir mewn costau ynni y mis Hydref hwn. Tra bod cynllun Llywodraeth y DU i rewi biliau ar \u00a32,500 y flwyddyn yn golygu na fydd y codiad mor uchel ag y rhagwelid, mae\u2019n parhau i fod yn gynnydd \u2013 cynnydd na fydd modd i lawer o weithwyr rheng flaen ei fforddio.<\/p>\n<p><em>\u201cDwi\u2019n bwyta llai er mwyn cael arian i dalu biliau a chostau tanwydd.\u201d<\/em><\/p>\n<p><em>\u201cDwi nawr yn gweithio gyda phobl sy\u2019n gorfod penderfynu p\u2019un ai i fwyta neu i wresogi\u2019r cartref, ac rydw innau\u2019n eistedd yno yn meddwl yr un peth yn union.\u201d<\/em><\/p>\n<p><em>\u201cDwi\u2019n gwisgo dillad tamp i arbed gwresogi.\u201d<\/em><\/p>\n<h3>Costau tanwydd yn gadael gweithwyr ar eu colled<\/h3>\n<p>Mae pris petrol hefyd yn rhoi pwysau trwm iawn ar weithwyr sy\u2019n dibynnu ar y car ar gyfer eu gwaith, gan eu bod yn teithio i weld nifer o gleientiaid bob dydd mewn sawl lleoliad gwahanol. Dywedodd nifer anhygoel o fawr \u2013\u00a089%\u00a0\u2013 o\u2019r rhai a holwyd fod y cynnydd mewn costau tanwydd yn gysylltiedig \u00e2\u2019u gwaith yn rhoi pwysau ar eu sefyllfa ariannol bersonol. Roeddynt hefyd yn amlygu\u2019r modd roedd hyn yn effeithio ar gyflenwi gwasanaeth, gyda llawer o weithwyr yn methu fforddio ymweld \u00e2\u2019r bobl maent yn eu cefnogi mor aml ag y byddent yn dymuno, gydag eraill yn dweud na allant gymryd shifftiau ychwanegol oherwydd y byddai hyn yn arwain at wario mwy ar danwydd.<\/p>\n<p><em>\u201cMae costau tanwydd yn cael effaith ar y staff cymorth; dyw\u2019r [lwfans o] 45c ddim yn talu\u2019r costau.\u201d <\/em><\/p>\n<p><em>\u201cDwi\u2019n gorfod gwrthod ceisiadau am ymweliadau ychwanegol, ynghyd \u00e2 gwrthod shifftiau y mae gwir angen i rywun eu gwneud.\u201d<\/em><\/p>\n<h3>Galwad ar i Lywodraethau\u2019r DU a Chymru weithredu<\/h3>\n<p>Mae Cymorth Cymru yn galw ar Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i weithredu ar gyflogau, costau ynni, a chostau tanwydd. Fel arall, rydym mewn perygl o wthio\u2019r gweithwyr hanfodol hyn ymhellach i mewn i dlodi, a cholli pobl o\u2019r hyn sydd eisoes yn weithlu heb ddigon o staff.<\/p>\n<ol>\n<li>Dylai Llywodraeth Cymru gynyddu cyllideb y Grant Cymorth Tai am 2023\/24\u00a0fel bod gweithwyr cymorth yn y sector digartrefedd a chymorth tai yn cael codiad cyflog i\u2019w helpu i ymdopi \u00e2\u2019r pwysau a achosir gan gynnydd mewn costau byw.<\/li>\n<li>Dylai Llywodraeth y DU weithredu ymhellach i dorri prisiau ynni a darparu cymorth ariannol\u00a0i helpu pobl i ymdopi \u00e2 chostau ynni yn awr ac yn y dyfodol.<\/li>\n<li>Dylai CthEM\/HMRC gynyddu\u2019r gyfradd yn \u00f4l y filltir i sicrhau nad yw gweithwyr rheng flaen ar eu colled o ganlyniad i ddefnyddio\u2019u car i ymgymryd \u00e2 dyletswyddau\u2019n gysylltiedig \u00e2\u2019u gwaith.<\/li>\n<\/ol>\n<p><strong>Dywedodd Katie Dalton, Cyfarwyddwr Cymorth Cymru:<\/strong><\/p>\n<p><em>\u201cMae\u2019n dorcalonnus i glywed am effaith yr argyfwng costau byw ar weithwyr rheng flaen yn y sector digartrefedd a chymorth tai ledled Cymru. Maent wedi treulio blynyddoedd yn helpu pobl allan o ddigartrefedd, ond nawr rhaid iddynt hwythau wynebu cwestiynau tebyg ynghylch a allant fforddio gwresogi neu fwyta \u2013 ac mae rhai\u2019n wynebu\u2019r perygl go iawn y byddant hwy eu hunain yn cael eu gwthio\u2019n agosach at fod yn ddigartref.<\/em><\/p>\n<p><em>\u201cMae ein hymchwil yn amlygu\u2019r pwysau sydd wedi bod arnynt yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, yn ogystal \u00e2\u2019u \u00a0pryder a\u2019u gofid ynghylch beth allai ddigwydd yn y dyfodol.<\/em><\/p>\n<p><em>\u201cMae\u2019n bryd i\u2019r ddwy lywodraeth weithredu; i Lywodraeth Cymru ariannu codiad yng nghyflogau\u2019r gweithlu hanfodol hwn, ac i Lywodraeth y DU weithredu ymhellach i dorri prisiau ynni, gwella cymorth ariannol a chodi\u2019r lwfans milltiroedd fel nad yw gweithwyr cymorth ar eu colled am ddim rheswm ond gwneud eu gwaith.\u201d<\/em><\/p>\n<p><strong>DIWEDD<\/strong><\/p>\n<p><strong>Nodiadau:<\/strong><\/p>\n<p>\u2018Anawsterau yn y Rheng Flaen: Effaith yr argyfwng costau byw ar weithwyr cymorth rheng flaen yn y sector digartrefedd a chymorth tai yng Nghymru\u2019\u00a0\u2013 gellir lawrlwytho\u2019r ddogfen hon yn\u00a0<a href=\"https:\/\/www.cymorthcymru.org.uk\/index.php\/download_file\/2718\/\">Saesneg<\/a>\u00a0neu yn\u00a0<a href=\"https:\/\/www.cymorthcymru.org.uk\/index.php\/download_file\/2719\/\">Gymraeg<\/a>. Mae\u2019n seiliedig ar dystiolaeth a gyflwynwyd i ni gan dros 700 o weithwyr rheng flaen, yn cynnwys y canlynol:<\/p>\n<ul>\n<li>ymatebodd 656 o weithwyr rheng flaen yn y sector digartrefedd a chymorth tai i\u2019r arolwg a gynhaliwyd ym Mehefin a Gorffennaf 2022.<\/li>\n<li>bu 68 o bobl yn mynychu cyfarfodydd ar-lein o Rwydwaith Rheng Flaen Cymru a chymryd rhan mewn trafodaethau ynghylch costau byw.<\/li>\n<\/ul>\n<p>Cymorth Cymru\u00a0yw\u2019r corff cynrychioli ar gyfer darparwyr gwasanaethau digartrefedd, tai a chymorth yng Nghymru. Mae ein haelodau\u2019n darparu ystod eang o wasanaethau sy\u2019n helpu pobl i ymdopi \u00e2 chyfnodau anodd, ailadeiladu eu hyder, a byw\u2019n annibynnol yn eu cartrefi eu hunain.<\/p>\n<p>Mae Rhwydwaith Rheng Flaen Cymru\u2019n cael ei gyflenwi gan Cymorth Cymru mewn partneriaeth gyda Rhwydwaith Rheng Flaen St Martin. Y nod yw rhoi i staff rheng flaen sy\u2019n gweithio gyda phobl sy\u2019n cael profiad o ddigartrefedd yn y sectorau gwirfoddol, statudol a chyhoeddus, a\u2019r rhai mewn swyddi cymorth tai yng Nghymru, gyfle i rannu eu barn a\u2019u profiadau, i godi eu llais ac i ddylanwadu ar bolisi ac ymarfer.<\/p>\n<p>Mae\u2019r Rhwydwaith Rheng Flaen yn gweithio ar lefel genedlaethol a lefel leol ledled y DU i gefnogi a grymuso staff rheng flaen sy\u2019n gweithio yn y sectorau cyhoeddus, statudol a gwirfoddol gyda phobl sy\u2019n cael profiad o ddigartrefedd.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p class=\"excerpt\">Mae ymchwil a gyhoeddwyd heddiw gan Cymorth Cymru wedi tynnu sylw at effaith frawychus yr argyfwng costau byw ar weithwyr rheng flaen yn y sector digartrefedd a chymorth tai yng<a class=\"moretag\" href=\"https:\/\/www.cymorthcymru.org.uk\/cy\/argyfwng-costau-byw-yn-gwthio-gweithwyr-rheng-flaen-hanfodol-yn-nes-at-y-dibyn\/\"> Read more&#8230;<\/a><\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"footnotes":""},"categories":[18],"tags":[],"class_list":["post-1065","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-newyddion-diweddaraf",null],"acf":[],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v23.7 - https:\/\/yoast.com\/wordpress\/plugins\/seo\/ -->\n<title>Argyfwng costau byw yn gwthio gweithwyr rheng flaen hanfodol yn nes at y dibyn - Cymorth Cymru<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/www.cymorthcymru.org.uk\/cy\/argyfwng-costau-byw-yn-gwthio-gweithwyr-rheng-flaen-hanfodol-yn-nes-at-y-dibyn\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"cy_GB\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Argyfwng costau byw yn gwthio gweithwyr rheng flaen hanfodol yn nes at y dibyn - Cymorth Cymru\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Mae ymchwil a gyhoeddwyd heddiw gan Cymorth Cymru wedi tynnu sylw at effaith frawychus yr argyfwng costau byw ar weithwyr rheng flaen yn y sector digartrefedd a chymorth tai yng Read more...\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/www.cymorthcymru.org.uk\/cy\/argyfwng-costau-byw-yn-gwthio-gweithwyr-rheng-flaen-hanfodol-yn-nes-at-y-dibyn\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"Cymorth Cymru\" \/>\n<meta property=\"article:publisher\" content=\"https:\/\/www.facebook.com\/pages\/Cymorth-Cymru\/221405887913278\" \/>\n<meta property=\"article:published_time\" content=\"2022-09-28T07:55:57+00:00\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2023-07-19T08:43:17+00:00\" \/>\n<meta name=\"author\" content=\"CC_Administrator\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:creator\" content=\"@cymorthcymru\" \/>\n<meta name=\"twitter:site\" content=\"@cymorthcymru\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Written by\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"CC_Administrator\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:label2\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data2\" content=\"5 minutes\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"Article\",\"@id\":\"https:\/\/www.cymorthcymru.org.uk\/cy\/argyfwng-costau-byw-yn-gwthio-gweithwyr-rheng-flaen-hanfodol-yn-nes-at-y-dibyn\/#article\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/www.cymorthcymru.org.uk\/cy\/argyfwng-costau-byw-yn-gwthio-gweithwyr-rheng-flaen-hanfodol-yn-nes-at-y-dibyn\/\"},\"author\":{\"name\":\"CC_Administrator\",\"@id\":\"https:\/\/www.cymorthcymru.org.uk\/cy\/#\/schema\/person\/23bad4c84402b80fbf4a6e471bdc4c08\"},\"headline\":\"Argyfwng costau byw yn gwthio gweithwyr rheng flaen hanfodol yn nes at y dibyn\",\"datePublished\":\"2022-09-28T07:55:57+00:00\",\"dateModified\":\"2023-07-19T08:43:17+00:00\",\"mainEntityOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/www.cymorthcymru.org.uk\/cy\/argyfwng-costau-byw-yn-gwthio-gweithwyr-rheng-flaen-hanfodol-yn-nes-at-y-dibyn\/\"},\"wordCount\":1175,\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/www.cymorthcymru.org.uk\/cy\/#organization\"},\"articleSection\":[\"Newyddion Diweddaraf\"],\"inLanguage\":\"cy-GB\"},{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\/\/www.cymorthcymru.org.uk\/cy\/argyfwng-costau-byw-yn-gwthio-gweithwyr-rheng-flaen-hanfodol-yn-nes-at-y-dibyn\/\",\"url\":\"https:\/\/www.cymorthcymru.org.uk\/cy\/argyfwng-costau-byw-yn-gwthio-gweithwyr-rheng-flaen-hanfodol-yn-nes-at-y-dibyn\/\",\"name\":\"Argyfwng costau byw yn gwthio gweithwyr rheng flaen hanfodol yn nes at y dibyn - Cymorth Cymru\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/www.cymorthcymru.org.uk\/cy\/#website\"},\"datePublished\":\"2022-09-28T07:55:57+00:00\",\"dateModified\":\"2023-07-19T08:43:17+00:00\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\/\/www.cymorthcymru.org.uk\/cy\/argyfwng-costau-byw-yn-gwthio-gweithwyr-rheng-flaen-hanfodol-yn-nes-at-y-dibyn\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\/\/www.cymorthcymru.org.uk\/cy\/argyfwng-costau-byw-yn-gwthio-gweithwyr-rheng-flaen-hanfodol-yn-nes-at-y-dibyn\/\"]}]},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\/\/www.cymorthcymru.org.uk\/cy\/argyfwng-costau-byw-yn-gwthio-gweithwyr-rheng-flaen-hanfodol-yn-nes-at-y-dibyn\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Home\",\"item\":\"https:\/\/www.cymorthcymru.org.uk\/cy\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Argyfwng costau byw yn gwthio gweithwyr rheng flaen hanfodol yn nes at y dibyn\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/www.cymorthcymru.org.uk\/cy\/#website\",\"url\":\"https:\/\/www.cymorthcymru.org.uk\/cy\/\",\"name\":\"Cymorth Cymru\",\"description\":\"The umbrella body for organisations working with marginalised people and those at risk of housing crisis in Wales.\",\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/www.cymorthcymru.org.uk\/cy\/#organization\"},\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/www.cymorthcymru.org.uk\/cy\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy-GB\"},{\"@type\":\"Organization\",\"@id\":\"https:\/\/www.cymorthcymru.org.uk\/cy\/#organization\",\"name\":\"Cymorth Cymru\",\"url\":\"https:\/\/www.cymorthcymru.org.uk\/cy\/\",\"logo\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/www.cymorthcymru.org.uk\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/www.cymorthcymru.org.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/06\/cymorth-logo.svg\",\"contentUrl\":\"https:\/\/www.cymorthcymru.org.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/06\/cymorth-logo.svg\",\"width\":1,\"height\":1,\"caption\":\"Cymorth Cymru\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/www.cymorthcymru.org.uk\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/\"},\"sameAs\":[\"https:\/\/www.facebook.com\/pages\/Cymorth-Cymru\/221405887913278\",\"https:\/\/x.com\/cymorthcymru\",\"https:\/\/www.linkedin.com\/company\/cymorth-cymru\"]},{\"@type\":\"Person\",\"@id\":\"https:\/\/www.cymorthcymru.org.uk\/cy\/#\/schema\/person\/23bad4c84402b80fbf4a6e471bdc4c08\",\"name\":\"CC_Administrator\",\"image\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/www.cymorthcymru.org.uk\/cy\/#\/schema\/person\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/2b4357d0b63fd695f8ac0125d6c3e2dc0cd1a19ddaea36b87b5b72ceb9a7f5cf?s=96&d=mm&r=g\",\"contentUrl\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/2b4357d0b63fd695f8ac0125d6c3e2dc0cd1a19ddaea36b87b5b72ceb9a7f5cf?s=96&d=mm&r=g\",\"caption\":\"CC_Administrator\"},\"sameAs\":[\"https:\/\/www.cymorthcymru.org.uk\"],\"url\":\"https:\/\/www.cymorthcymru.org.uk\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Argyfwng costau byw yn gwthio gweithwyr rheng flaen hanfodol yn nes at y dibyn - Cymorth Cymru","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/www.cymorthcymru.org.uk\/cy\/argyfwng-costau-byw-yn-gwthio-gweithwyr-rheng-flaen-hanfodol-yn-nes-at-y-dibyn\/","og_locale":"cy_GB","og_type":"article","og_title":"Argyfwng costau byw yn gwthio gweithwyr rheng flaen hanfodol yn nes at y dibyn - Cymorth Cymru","og_description":"Mae ymchwil a gyhoeddwyd heddiw gan Cymorth Cymru wedi tynnu sylw at effaith frawychus yr argyfwng costau byw ar weithwyr rheng flaen yn y sector digartrefedd a chymorth tai yng Read more...","og_url":"https:\/\/www.cymorthcymru.org.uk\/cy\/argyfwng-costau-byw-yn-gwthio-gweithwyr-rheng-flaen-hanfodol-yn-nes-at-y-dibyn\/","og_site_name":"Cymorth Cymru","article_publisher":"https:\/\/www.facebook.com\/pages\/Cymorth-Cymru\/221405887913278","article_published_time":"2022-09-28T07:55:57+00:00","article_modified_time":"2023-07-19T08:43:17+00:00","author":"CC_Administrator","twitter_card":"summary_large_image","twitter_creator":"@cymorthcymru","twitter_site":"@cymorthcymru","twitter_misc":{"Written by":"CC_Administrator","Est. reading time":"5 minutes"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"Article","@id":"https:\/\/www.cymorthcymru.org.uk\/cy\/argyfwng-costau-byw-yn-gwthio-gweithwyr-rheng-flaen-hanfodol-yn-nes-at-y-dibyn\/#article","isPartOf":{"@id":"https:\/\/www.cymorthcymru.org.uk\/cy\/argyfwng-costau-byw-yn-gwthio-gweithwyr-rheng-flaen-hanfodol-yn-nes-at-y-dibyn\/"},"author":{"name":"CC_Administrator","@id":"https:\/\/www.cymorthcymru.org.uk\/cy\/#\/schema\/person\/23bad4c84402b80fbf4a6e471bdc4c08"},"headline":"Argyfwng costau byw yn gwthio gweithwyr rheng flaen hanfodol yn nes at y dibyn","datePublished":"2022-09-28T07:55:57+00:00","dateModified":"2023-07-19T08:43:17+00:00","mainEntityOfPage":{"@id":"https:\/\/www.cymorthcymru.org.uk\/cy\/argyfwng-costau-byw-yn-gwthio-gweithwyr-rheng-flaen-hanfodol-yn-nes-at-y-dibyn\/"},"wordCount":1175,"publisher":{"@id":"https:\/\/www.cymorthcymru.org.uk\/cy\/#organization"},"articleSection":["Newyddion Diweddaraf"],"inLanguage":"cy-GB"},{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/www.cymorthcymru.org.uk\/cy\/argyfwng-costau-byw-yn-gwthio-gweithwyr-rheng-flaen-hanfodol-yn-nes-at-y-dibyn\/","url":"https:\/\/www.cymorthcymru.org.uk\/cy\/argyfwng-costau-byw-yn-gwthio-gweithwyr-rheng-flaen-hanfodol-yn-nes-at-y-dibyn\/","name":"Argyfwng costau byw yn gwthio gweithwyr rheng flaen hanfodol yn nes at y dibyn - Cymorth Cymru","isPartOf":{"@id":"https:\/\/www.cymorthcymru.org.uk\/cy\/#website"},"datePublished":"2022-09-28T07:55:57+00:00","dateModified":"2023-07-19T08:43:17+00:00","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/www.cymorthcymru.org.uk\/cy\/argyfwng-costau-byw-yn-gwthio-gweithwyr-rheng-flaen-hanfodol-yn-nes-at-y-dibyn\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy-GB","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/www.cymorthcymru.org.uk\/cy\/argyfwng-costau-byw-yn-gwthio-gweithwyr-rheng-flaen-hanfodol-yn-nes-at-y-dibyn\/"]}]},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/www.cymorthcymru.org.uk\/cy\/argyfwng-costau-byw-yn-gwthio-gweithwyr-rheng-flaen-hanfodol-yn-nes-at-y-dibyn\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Home","item":"https:\/\/www.cymorthcymru.org.uk\/cy\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Argyfwng costau byw yn gwthio gweithwyr rheng flaen hanfodol yn nes at y dibyn"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/www.cymorthcymru.org.uk\/cy\/#website","url":"https:\/\/www.cymorthcymru.org.uk\/cy\/","name":"Cymorth Cymru","description":"The umbrella body for organisations working with marginalised people and those at risk of housing crisis in Wales.","publisher":{"@id":"https:\/\/www.cymorthcymru.org.uk\/cy\/#organization"},"potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/www.cymorthcymru.org.uk\/cy\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy-GB"},{"@type":"Organization","@id":"https:\/\/www.cymorthcymru.org.uk\/cy\/#organization","name":"Cymorth Cymru","url":"https:\/\/www.cymorthcymru.org.uk\/cy\/","logo":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/www.cymorthcymru.org.uk\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/","url":"https:\/\/www.cymorthcymru.org.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/06\/cymorth-logo.svg","contentUrl":"https:\/\/www.cymorthcymru.org.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/06\/cymorth-logo.svg","width":1,"height":1,"caption":"Cymorth Cymru"},"image":{"@id":"https:\/\/www.cymorthcymru.org.uk\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/"},"sameAs":["https:\/\/www.facebook.com\/pages\/Cymorth-Cymru\/221405887913278","https:\/\/x.com\/cymorthcymru","https:\/\/www.linkedin.com\/company\/cymorth-cymru"]},{"@type":"Person","@id":"https:\/\/www.cymorthcymru.org.uk\/cy\/#\/schema\/person\/23bad4c84402b80fbf4a6e471bdc4c08","name":"CC_Administrator","image":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/www.cymorthcymru.org.uk\/cy\/#\/schema\/person\/image\/","url":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/2b4357d0b63fd695f8ac0125d6c3e2dc0cd1a19ddaea36b87b5b72ceb9a7f5cf?s=96&d=mm&r=g","contentUrl":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/2b4357d0b63fd695f8ac0125d6c3e2dc0cd1a19ddaea36b87b5b72ceb9a7f5cf?s=96&d=mm&r=g","caption":"CC_Administrator"},"sameAs":["https:\/\/www.cymorthcymru.org.uk"],"url":"https:\/\/www.cymorthcymru.org.uk"}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.cymorthcymru.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1065","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.cymorthcymru.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.cymorthcymru.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.cymorthcymru.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.cymorthcymru.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=1065"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/www.cymorthcymru.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1065\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":1067,"href":"https:\/\/www.cymorthcymru.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1065\/revisions\/1067"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.cymorthcymru.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=1065"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.cymorthcymru.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=1065"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.cymorthcymru.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=1065"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}