{"id":1072,"date":"2022-07-20T09:24:10","date_gmt":"2022-07-20T08:24:10","guid":{"rendered":"https:\/\/www.cymorthcymru.org.uk\/wales-achieves-90-tenancy-sustainment-through-internationally-acclaimed-housing-first-model\/"},"modified":"2023-07-19T09:47:14","modified_gmt":"2023-07-19T08:47:14","slug":"cymrun-cyflawni-90-o-gynnal-tenantiaethau-drwy-tai-yn-gyntaf-model-a-gymeradwyir-yn-rhyngwladol","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.cymorthcymru.org.uk\/cy\/cymrun-cyflawni-90-o-gynnal-tenantiaethau-drwy-tai-yn-gyntaf-model-a-gymeradwyir-yn-rhyngwladol\/","title":{"rendered":"Cymru\u2019n cyflawni 90% o gynnal tenantiaethau drwy Tai yn Gyntaf, model a gymeradwyir yn rhyngwladol"},"content":{"rendered":"<p>Heddiw, mae Cymorth Cymru wedi cyhoeddi\u2019r <a href=\"https:\/\/www.cymorthcymru.org.uk\/index.php\/download_file\/2709\/\">ystadegau<\/a>\u00a0cyntaf erioed ar brosiect Tai yn Gyntaf Cymru, gan arddangos graddfa ac effaith y model a gymeradwyir yn rhyngwladol ar leihau\u2019r achosion o ddigartrefedd ar draws pymtheg o awdurdodau lleol.<\/p>\n<p>Mae data a gasglwyd gan bymtheg o brosiectau Tai yn Gyntaf rhwng Chwefror 2018 a Medi 2021 yn dangos bod 521 o bobl wedi cael cymorth gan brosiectau Tai yn Gyntaf yng Nghymru,\u00a0mae 245 o bobl wedi dechrau tenantiaethau Tai yn Gyntaf, ac mae 90% yn cynnal eu tenantiaeth.<\/p>\n<p>Mae Tai yn Gyntaf yn ddull o roi terfyn ar ddigartrefedd trwy ganolbwyntio ar adferiad; mae\u2019n ffocysu ar symud pobl ddigartref yn gyflym i mewn i gartref annibynnol, sefydlog, yn hytrach na mynnu bod pobl yn aros am amser hir mewn llety dros dro i brofi eu bod yn \u2018barod am d\u0177\u2019. Darperir cymorth dwys, aml-asiantaeth, heb unrhyw ragamodau na ffiniau amser.<\/p>\n<p>Yn draddodiadol, mae\u2019r model wedi ei dargedu at bobl sy\u2019n cysgu ar y stryd neu mewn llety hynod ymylol, a chanddynt anghenion cymorth cronig a chymhleth. Datblygwyd y model yn Efrog Newydd yn yr 1990au, yn bennaf gan y seicolegydd cymuned Sam Tsemberis, ac ers hynny mae wedi cael ei fabwysiadu\u2019n eang ledled yr Unol Daleithiau ac Ewrop.<\/p>\n<p>Mae\u00a0<a href=\"https:\/\/socialvalueuk.org\/report\/efficiency-effectiveness-housing-first-support-service\/\">tystiolaeth<\/a>\u00a0ryngwladol yn awgrymu bod Tai yn Gyntaf yn tueddu i gyflawni cyfradd cynnal tenantiaeth o 80\u201390%.<\/p>\n<p>Yn 2018, nododd Llywodraeth Cymru fod Tai yn Gyntaf yn ymyriad allweddol i leihau\u2019r achosion o gysgu ar y stryd, a darparwyd arian i sefydlu nifer o brosiectau yng Nghymru. Roedd cynllun y llynedd, Rhoi diwedd ar ddigartrefedd: cynllun gweithredu,\u00a0yn ymrwymo i ehangu\u2019r model ar draws pob awdurdod lleol yng Nghymru, gan bwysleisio pa mor bwysig yw bod yn gwbl driw i\u2019r model, a sicrhau bod prosiectau Tai yn Gyntaf yn cael eu cyflenwi\u2019n unol ag egwyddorion Tai yn Gyntaf Cymru.<\/p>\n<p>Yn sgil yr ymrwymiad tymor-hir hwn i Tai yn Gyntaf, mae Cymorth Cymru \u2013 sy\u2019n cydlynu Rhwydwaith Tai yn Gyntaf Cymru \u2013 wedi dechrau casglu data ar ei raddfa a\u2019i effaith.<\/p>\n<p><strong>Ystadegau allweddol:<\/strong><\/p>\n<ul>\n<li>Mae 15 o brosiectau Tai yn Gyntaf yn cael eu cyflenwi ar draws 15 o awdurdodau lleol<\/li>\n<li>Mae 521 o bobl wedi cael cymorth gan brosiectau Tai yn Gyntaf yng Nghymru rhwng 1 Chwefror 2018 a 30 Medi 2021. Mae hyn yn cynnwys pobl sy\u2019n ymgysylltu \u00e2 Tai yn Gyntaf trwy allgymorth grymusol a chymorth cyn-denantiaeth, yn ogystal \u00e2 phobl sy\u2019n cael eu cefnogi mewn tenantiaeth Tai yn Gyntaf.<\/li>\n<li>Roedd 245 o bobl wedi dechrau fel tenantiaid Tai yn Gyntaf rhwng 1 Chwefror 2018 a 30 Medi 2021<\/li>\n<li>Roedd 221 o bobl yn cynnal eu tenantiaeth ar 30 Medi 2021 \u2013 cyfradd cynnal tenantiaeth o 90%<\/li>\n<\/ul>\n<p><strong>Dywedodd Julie James, y Gweinidog dros Newid Hinsawdd:<\/strong><\/p>\n<p><em>\u201cMae pawb yn haeddu mynediad at gartref o ansawdd da, sy\u2019n fforddiadwy a sefydlog, felly rwyf wrth fy modd yn gweld y llwyddiant mae Tai yn Gyntaf \u2013 a dargedir at bobl a chanddynt yr anghenion mwyaf cymhleth \u2013 yn ei gael fel rhan o\u2019n symudiad tuag at ddull o ailgartrefu cyflym.<\/em><\/p>\n<p><em>\u201cMae Llywodraeth Cymru wedi datgan yn glir na fydd unrhyw symudiad yn \u00f4l at yr agwedd cyn-bandemig at ddigartrefedd. Mae Tai yn Gyntaf yn elfen allweddol o\u2019n huchelgais i sicrhau bod digartrefedd yn dod yn rhywbeth prin a byrhoedlog yng Nghymru, ac na chaiff ei ailadrodd.<\/em><\/p>\n<p><em>\u201cHoffwn ddiolch i\u2019r bobl hynny sy\u2019n amlwg wedi gweithio\u2019n galed iawn i addasu\u2019r model. Mae\u2019r raddfa cynnal tenantiaeth o 90% hyd yn oed yn well nag yr oeddem wedi\u2019i obeithio pan ddechreuon ni ar ein taith Tai yn Gyntaf yng Nghymru.\u201d<\/em><\/p>\n<p><strong>Dywedodd Katie Dalton, Cyfarwyddwr Cymorth Cymru:<\/strong><\/p>\n<p><em>\u201cMae Tai yn Gyntaf yn fodel sydd wedi ei brofi\u2019n rhyngwladol, ac mae\u2019n wych ei weld yn gweithio mor effeithiol yma yng Nghymru. Rhaid rhoi clod i\u2019r darparwyr cymorth, awdurdodau lleol, landlordiaid a gwasanaethau cyhoeddus sydd wedi coleddu\u2019r model hwn a gweithio\u2019n anhygoel o galed i gyflenwi Tai yn Gyntaf yn unol \u00e2\u2019r egwyddorion.<\/em><\/p>\n<p><em>\u201cMae\u2019n amlwg bod Tai yn Gyntaf yn cael effaith sylweddol ar ddigartrefedd, a bydd o fudd mawr i nifer o wasanaethau cyhoeddus eraill. Gyda llawer o bobl mewn llety dros dro, ac arnynt angen y math yma o gymorth, gobeithiwn y bydd yr ystadegau hyn yn annog yr holl randdeiliaid i weithio gyda\u2019i gilydd i gefnogi\u2019r dasg o ymestyn Tai yn Gyntaf ledled Cymru.\u201d<\/em><\/p>\n<p><strong>Dywedodd Alex Osmond, Rheolwr Tai yn Gyntaf Cymorth Cymru:<\/strong><\/p>\n<p><em>\u201cGan fy mod wedi gweithio gyda\u2019r prosiectau hyn dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, gwn yn iawn pa mor galed mae\u2019r staff yn gweithio er mwyn darparu cymorth o ansawdd uchel a chyflenwi\u2019r model yn unol \u00e2\u2019r egwyddorion.<\/em><\/p>\n<p><em>\u201cRwyf wrth fy modd yn gweld data sy\u2019n dangos effaith eu hymdrechion, ac sy\u2019n rhoi neges glir i brosiectau yn y dyfodol bod cyflenwi Tai yn Gyntaf yn unol \u00e2\u2019r egwyddorion yn greiddiol i\u2019w lwyddiant.\u201d<\/em><\/p>\n<p><strong>DIWEDD<\/strong><\/p>\n<p><u>Nodiadau:<\/u><\/p>\n<p><strong>Am yr ystadegau <\/strong><\/p>\n<p>Gellir lawrlwytho\u2019r set gyfan o ystadegau <a href=\"https:\/\/www.cymorthcymru.org.uk\/index.php\/download_file\/2709\/\">yma<\/a>\u00a0a ch\u00e2nt eu cyhoeddi mewn perthynas \u00e2 <a href=\"https:\/\/www.cymorthcymru.org.uk\/en\/events-and-training\/events\/housing-first-wales-conference-2022\">chynhadledd<\/a> Tai yn Gyntaf Cymorth Cymru a gynhelir ar-lein ar 20\u00a0Gorffennaf.<\/p>\n<p>Mae\u2019r data\u2019n cyfeirio at y cyfnod rhwng 1\u00a0Chwefror 2018, pan gyhoeddodd Llywodraeth Cymru am y tro cyntaf ei ganllaw Tai yn Gyntaf, a 30\u00a0Medi 2021. Cesglir data pellach ar drefniant 6-misol.<\/p>\n<p>Cysylltodd Cymorth Cymru \u00e2 phrosiectau Tai yn Gyntaf \u2013 oedd yn cael eu hadnabod drwy eu hymgysylltiad \u00e2 Rhwydwaith Tai yn Gyntaf Cymru \u2013 a gofynnwyd iddynt gyflwyno data oedd yn gysylltiedig \u00e2\u2019u prosiect. Gofynnwyd hefyd iddynt gadarnhau bod eu prosiectau\u2019n cael eu cyflenwi\u2019n unol ag egwyddorion Tai yn Gyntaf Cymru (gweler isod).<\/p>\n<p><strong>Am Cymorth Cymru a\u2019r Rhwydwaith Tai yn Gyntaf Cymru <\/strong><\/p>\n<p>Cymorth Cymru yw\u2019r corff cynrychioli ar gyfer darparwyr gwasanaethau ym maes digartrefedd, tai a chymorth yng Nghymru.<\/p>\n<p>Cymorth Cymru sy\u2019n gyfrifol am redeg Rhwydwaith Tai yn Gyntaf Cymru, sef gr\u0175p eang o unigolion a sefydliadau a chanddynt ddiddordeb mewn datblygu Tai yn Gyntaf a\u2019i weithredu ledled Cymru. Gyda chynrychiolaeth o\u2019r trydydd sector, Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol, landlordiaid cymdeithasol, byrddau iechyd a mwy, mae\u2019n cefnogi datblygiad polisi ac ymarfer gorau.<strong>\u00a0<\/strong><\/p>\n<p><strong>Egwyddorion Tai yn Gyntaf Cymru <\/strong><\/p>\n<ol>\n<li>Mae gan bobl hawl i gael cartref sy\u2019n fforddiadwy, yn ddiogel, yn addas i fyw ynddo, yn ddigonol yn gorfforol ac yn ddiwylliannol, a lle mae gwasanaethau ar gael (yn unol \u00e2 Chyfamod Rhyngwladol y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Economaidd, Cymdeithasol a Diwylliannol). Dylai hefyd fod yn rhan o gymuned, nid o sefydliad.<\/li>\n<li>Mae\u2019r elfen tai a\u2019r elfen cymorth yn cael eu gwahanu.<\/li>\n<li>Mae\u2019r gwasanaeth wedi ei dargedu at unigolion sy\u2019n dangos patrwm cyson o ddatgysylltu \u00e2 llety mewn hostel a\/neu unigolion sy\u2019n cysgu ar y stryd neu\u2019n dewis Llety Brys Dros Nos (EOS) ar y pwynt lle caiff yr atgyfeiriad ei wneud.<\/li>\n<li>Caiff cymorth hyblyg ei ddarparu cyhyd ag y bo angen amdano.<\/li>\n<li>Defnyddir dull o ymgysylltiad gweithredol.<\/li>\n<li>Mae gan unigolion ddewis a rheolaeth.<\/li>\n<li>Defnyddir dull o leihau niwed yng nghyd-destun camddefnyddio sylweddau.<\/li>\n<li>Caiff y gwasanaeth ei gyflenwi mewn dull seicolegol-wybodus, trawma-wybodus a rhywedd-wybodus sy\u2019n sensitif ac yn ymwybodol o nodweddion gwarchodedig.<\/li>\n<li>Caiff y gwasanaeth ei seilio ar gryfderau pobl, eu nodau a\u2019u dyheadau, ac oherwydd hynny mae\u2019n ymrwymo\u2019n benodol i lwyth gwaith bychan.<\/li>\n<li>Caiff yr ystod ehangaf posibl o wasanaethau eu cynnwys o\u2019r cychwyn cyntaf (iechyd, camddefnyddio sylweddau, iechyd meddwl, yr heddlu) fel bod modd i unigolion gael mynediad atynt os ydynt yn dymuno neu ag angen amdanynt.<\/li>\n<\/ol>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p class=\"excerpt\">Heddiw, mae Cymorth Cymru wedi cyhoeddi\u2019r ystadegau\u00a0cyntaf erioed ar brosiect Tai yn Gyntaf Cymru, gan arddangos graddfa ac effaith y model a gymeradwyir yn rhyngwladol ar leihau\u2019r achosion o ddigartrefedd<a class=\"moretag\" href=\"https:\/\/www.cymorthcymru.org.uk\/cy\/cymrun-cyflawni-90-o-gynnal-tenantiaethau-drwy-tai-yn-gyntaf-model-a-gymeradwyir-yn-rhyngwladol\/\"> Read more&#8230;<\/a><\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"footnotes":""},"categories":[18],"tags":[],"class_list":["post-1072","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-newyddion-diweddaraf",null],"acf":[],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v23.7 - https:\/\/yoast.com\/wordpress\/plugins\/seo\/ -->\n<title>Cymru\u2019n cyflawni 90% o gynnal tenantiaethau drwy Tai yn Gyntaf, model a gymeradwyir yn rhyngwladol - Cymorth Cymru<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/www.cymorthcymru.org.uk\/cy\/cymrun-cyflawni-90-o-gynnal-tenantiaethau-drwy-tai-yn-gyntaf-model-a-gymeradwyir-yn-rhyngwladol\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"cy_GB\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Cymru\u2019n cyflawni 90% o gynnal tenantiaethau drwy Tai yn Gyntaf, model a gymeradwyir yn rhyngwladol - Cymorth Cymru\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Heddiw, mae Cymorth Cymru wedi cyhoeddi\u2019r ystadegau\u00a0cyntaf erioed ar brosiect Tai yn Gyntaf Cymru, gan arddangos graddfa ac effaith y model a gymeradwyir yn rhyngwladol ar leihau\u2019r achosion o ddigartrefedd Read more...\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/www.cymorthcymru.org.uk\/cy\/cymrun-cyflawni-90-o-gynnal-tenantiaethau-drwy-tai-yn-gyntaf-model-a-gymeradwyir-yn-rhyngwladol\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"Cymorth Cymru\" \/>\n<meta property=\"article:publisher\" content=\"https:\/\/www.facebook.com\/pages\/Cymorth-Cymru\/221405887913278\" \/>\n<meta property=\"article:published_time\" content=\"2022-07-20T08:24:10+00:00\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2023-07-19T08:47:14+00:00\" \/>\n<meta name=\"author\" content=\"CC_Administrator\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:creator\" content=\"@cymorthcymru\" \/>\n<meta name=\"twitter:site\" content=\"@cymorthcymru\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Written by\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"CC_Administrator\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:label2\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data2\" content=\"6 minutes\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"Article\",\"@id\":\"https:\/\/www.cymorthcymru.org.uk\/cy\/cymrun-cyflawni-90-o-gynnal-tenantiaethau-drwy-tai-yn-gyntaf-model-a-gymeradwyir-yn-rhyngwladol\/#article\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/www.cymorthcymru.org.uk\/cy\/cymrun-cyflawni-90-o-gynnal-tenantiaethau-drwy-tai-yn-gyntaf-model-a-gymeradwyir-yn-rhyngwladol\/\"},\"author\":{\"name\":\"CC_Administrator\",\"@id\":\"https:\/\/www.cymorthcymru.org.uk\/cy\/#\/schema\/person\/23bad4c84402b80fbf4a6e471bdc4c08\"},\"headline\":\"Cymru\u2019n cyflawni 90% o gynnal tenantiaethau drwy Tai yn Gyntaf, model a gymeradwyir yn rhyngwladol\",\"datePublished\":\"2022-07-20T08:24:10+00:00\",\"dateModified\":\"2023-07-19T08:47:14+00:00\",\"mainEntityOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/www.cymorthcymru.org.uk\/cy\/cymrun-cyflawni-90-o-gynnal-tenantiaethau-drwy-tai-yn-gyntaf-model-a-gymeradwyir-yn-rhyngwladol\/\"},\"wordCount\":1243,\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/www.cymorthcymru.org.uk\/cy\/#organization\"},\"articleSection\":[\"Newyddion Diweddaraf\"],\"inLanguage\":\"cy-GB\"},{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\/\/www.cymorthcymru.org.uk\/cy\/cymrun-cyflawni-90-o-gynnal-tenantiaethau-drwy-tai-yn-gyntaf-model-a-gymeradwyir-yn-rhyngwladol\/\",\"url\":\"https:\/\/www.cymorthcymru.org.uk\/cy\/cymrun-cyflawni-90-o-gynnal-tenantiaethau-drwy-tai-yn-gyntaf-model-a-gymeradwyir-yn-rhyngwladol\/\",\"name\":\"Cymru\u2019n cyflawni 90% o gynnal tenantiaethau drwy Tai yn Gyntaf, model a gymeradwyir yn rhyngwladol - Cymorth Cymru\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/www.cymorthcymru.org.uk\/cy\/#website\"},\"datePublished\":\"2022-07-20T08:24:10+00:00\",\"dateModified\":\"2023-07-19T08:47:14+00:00\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\/\/www.cymorthcymru.org.uk\/cy\/cymrun-cyflawni-90-o-gynnal-tenantiaethau-drwy-tai-yn-gyntaf-model-a-gymeradwyir-yn-rhyngwladol\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\/\/www.cymorthcymru.org.uk\/cy\/cymrun-cyflawni-90-o-gynnal-tenantiaethau-drwy-tai-yn-gyntaf-model-a-gymeradwyir-yn-rhyngwladol\/\"]}]},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\/\/www.cymorthcymru.org.uk\/cy\/cymrun-cyflawni-90-o-gynnal-tenantiaethau-drwy-tai-yn-gyntaf-model-a-gymeradwyir-yn-rhyngwladol\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Home\",\"item\":\"https:\/\/www.cymorthcymru.org.uk\/cy\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Cymru\u2019n cyflawni 90% o gynnal tenantiaethau drwy Tai yn Gyntaf, model a gymeradwyir yn rhyngwladol\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/www.cymorthcymru.org.uk\/cy\/#website\",\"url\":\"https:\/\/www.cymorthcymru.org.uk\/cy\/\",\"name\":\"Cymorth Cymru\",\"description\":\"The umbrella body for organisations working with marginalised people and those at risk of housing crisis in Wales.\",\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/www.cymorthcymru.org.uk\/cy\/#organization\"},\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/www.cymorthcymru.org.uk\/cy\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy-GB\"},{\"@type\":\"Organization\",\"@id\":\"https:\/\/www.cymorthcymru.org.uk\/cy\/#organization\",\"name\":\"Cymorth Cymru\",\"url\":\"https:\/\/www.cymorthcymru.org.uk\/cy\/\",\"logo\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/www.cymorthcymru.org.uk\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/www.cymorthcymru.org.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/06\/cymorth-logo.svg\",\"contentUrl\":\"https:\/\/www.cymorthcymru.org.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/06\/cymorth-logo.svg\",\"width\":1,\"height\":1,\"caption\":\"Cymorth Cymru\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/www.cymorthcymru.org.uk\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/\"},\"sameAs\":[\"https:\/\/www.facebook.com\/pages\/Cymorth-Cymru\/221405887913278\",\"https:\/\/x.com\/cymorthcymru\",\"https:\/\/www.linkedin.com\/company\/cymorth-cymru\"]},{\"@type\":\"Person\",\"@id\":\"https:\/\/www.cymorthcymru.org.uk\/cy\/#\/schema\/person\/23bad4c84402b80fbf4a6e471bdc4c08\",\"name\":\"CC_Administrator\",\"image\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/www.cymorthcymru.org.uk\/cy\/#\/schema\/person\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/2b4357d0b63fd695f8ac0125d6c3e2dc0cd1a19ddaea36b87b5b72ceb9a7f5cf?s=96&d=mm&r=g\",\"contentUrl\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/2b4357d0b63fd695f8ac0125d6c3e2dc0cd1a19ddaea36b87b5b72ceb9a7f5cf?s=96&d=mm&r=g\",\"caption\":\"CC_Administrator\"},\"sameAs\":[\"https:\/\/www.cymorthcymru.org.uk\"],\"url\":\"https:\/\/www.cymorthcymru.org.uk\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Cymru\u2019n cyflawni 90% o gynnal tenantiaethau drwy Tai yn Gyntaf, model a gymeradwyir yn rhyngwladol - Cymorth Cymru","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/www.cymorthcymru.org.uk\/cy\/cymrun-cyflawni-90-o-gynnal-tenantiaethau-drwy-tai-yn-gyntaf-model-a-gymeradwyir-yn-rhyngwladol\/","og_locale":"cy_GB","og_type":"article","og_title":"Cymru\u2019n cyflawni 90% o gynnal tenantiaethau drwy Tai yn Gyntaf, model a gymeradwyir yn rhyngwladol - Cymorth Cymru","og_description":"Heddiw, mae Cymorth Cymru wedi cyhoeddi\u2019r ystadegau\u00a0cyntaf erioed ar brosiect Tai yn Gyntaf Cymru, gan arddangos graddfa ac effaith y model a gymeradwyir yn rhyngwladol ar leihau\u2019r achosion o ddigartrefedd Read more...","og_url":"https:\/\/www.cymorthcymru.org.uk\/cy\/cymrun-cyflawni-90-o-gynnal-tenantiaethau-drwy-tai-yn-gyntaf-model-a-gymeradwyir-yn-rhyngwladol\/","og_site_name":"Cymorth Cymru","article_publisher":"https:\/\/www.facebook.com\/pages\/Cymorth-Cymru\/221405887913278","article_published_time":"2022-07-20T08:24:10+00:00","article_modified_time":"2023-07-19T08:47:14+00:00","author":"CC_Administrator","twitter_card":"summary_large_image","twitter_creator":"@cymorthcymru","twitter_site":"@cymorthcymru","twitter_misc":{"Written by":"CC_Administrator","Est. reading time":"6 minutes"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"Article","@id":"https:\/\/www.cymorthcymru.org.uk\/cy\/cymrun-cyflawni-90-o-gynnal-tenantiaethau-drwy-tai-yn-gyntaf-model-a-gymeradwyir-yn-rhyngwladol\/#article","isPartOf":{"@id":"https:\/\/www.cymorthcymru.org.uk\/cy\/cymrun-cyflawni-90-o-gynnal-tenantiaethau-drwy-tai-yn-gyntaf-model-a-gymeradwyir-yn-rhyngwladol\/"},"author":{"name":"CC_Administrator","@id":"https:\/\/www.cymorthcymru.org.uk\/cy\/#\/schema\/person\/23bad4c84402b80fbf4a6e471bdc4c08"},"headline":"Cymru\u2019n cyflawni 90% o gynnal tenantiaethau drwy Tai yn Gyntaf, model a gymeradwyir yn rhyngwladol","datePublished":"2022-07-20T08:24:10+00:00","dateModified":"2023-07-19T08:47:14+00:00","mainEntityOfPage":{"@id":"https:\/\/www.cymorthcymru.org.uk\/cy\/cymrun-cyflawni-90-o-gynnal-tenantiaethau-drwy-tai-yn-gyntaf-model-a-gymeradwyir-yn-rhyngwladol\/"},"wordCount":1243,"publisher":{"@id":"https:\/\/www.cymorthcymru.org.uk\/cy\/#organization"},"articleSection":["Newyddion Diweddaraf"],"inLanguage":"cy-GB"},{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/www.cymorthcymru.org.uk\/cy\/cymrun-cyflawni-90-o-gynnal-tenantiaethau-drwy-tai-yn-gyntaf-model-a-gymeradwyir-yn-rhyngwladol\/","url":"https:\/\/www.cymorthcymru.org.uk\/cy\/cymrun-cyflawni-90-o-gynnal-tenantiaethau-drwy-tai-yn-gyntaf-model-a-gymeradwyir-yn-rhyngwladol\/","name":"Cymru\u2019n cyflawni 90% o gynnal tenantiaethau drwy Tai yn Gyntaf, model a gymeradwyir yn rhyngwladol - Cymorth Cymru","isPartOf":{"@id":"https:\/\/www.cymorthcymru.org.uk\/cy\/#website"},"datePublished":"2022-07-20T08:24:10+00:00","dateModified":"2023-07-19T08:47:14+00:00","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/www.cymorthcymru.org.uk\/cy\/cymrun-cyflawni-90-o-gynnal-tenantiaethau-drwy-tai-yn-gyntaf-model-a-gymeradwyir-yn-rhyngwladol\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy-GB","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/www.cymorthcymru.org.uk\/cy\/cymrun-cyflawni-90-o-gynnal-tenantiaethau-drwy-tai-yn-gyntaf-model-a-gymeradwyir-yn-rhyngwladol\/"]}]},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/www.cymorthcymru.org.uk\/cy\/cymrun-cyflawni-90-o-gynnal-tenantiaethau-drwy-tai-yn-gyntaf-model-a-gymeradwyir-yn-rhyngwladol\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Home","item":"https:\/\/www.cymorthcymru.org.uk\/cy\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Cymru\u2019n cyflawni 90% o gynnal tenantiaethau drwy Tai yn Gyntaf, model a gymeradwyir yn rhyngwladol"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/www.cymorthcymru.org.uk\/cy\/#website","url":"https:\/\/www.cymorthcymru.org.uk\/cy\/","name":"Cymorth Cymru","description":"The umbrella body for organisations working with marginalised people and those at risk of housing crisis in Wales.","publisher":{"@id":"https:\/\/www.cymorthcymru.org.uk\/cy\/#organization"},"potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/www.cymorthcymru.org.uk\/cy\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy-GB"},{"@type":"Organization","@id":"https:\/\/www.cymorthcymru.org.uk\/cy\/#organization","name":"Cymorth Cymru","url":"https:\/\/www.cymorthcymru.org.uk\/cy\/","logo":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/www.cymorthcymru.org.uk\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/","url":"https:\/\/www.cymorthcymru.org.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/06\/cymorth-logo.svg","contentUrl":"https:\/\/www.cymorthcymru.org.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/06\/cymorth-logo.svg","width":1,"height":1,"caption":"Cymorth Cymru"},"image":{"@id":"https:\/\/www.cymorthcymru.org.uk\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/"},"sameAs":["https:\/\/www.facebook.com\/pages\/Cymorth-Cymru\/221405887913278","https:\/\/x.com\/cymorthcymru","https:\/\/www.linkedin.com\/company\/cymorth-cymru"]},{"@type":"Person","@id":"https:\/\/www.cymorthcymru.org.uk\/cy\/#\/schema\/person\/23bad4c84402b80fbf4a6e471bdc4c08","name":"CC_Administrator","image":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/www.cymorthcymru.org.uk\/cy\/#\/schema\/person\/image\/","url":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/2b4357d0b63fd695f8ac0125d6c3e2dc0cd1a19ddaea36b87b5b72ceb9a7f5cf?s=96&d=mm&r=g","contentUrl":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/2b4357d0b63fd695f8ac0125d6c3e2dc0cd1a19ddaea36b87b5b72ceb9a7f5cf?s=96&d=mm&r=g","caption":"CC_Administrator"},"sameAs":["https:\/\/www.cymorthcymru.org.uk"],"url":"https:\/\/www.cymorthcymru.org.uk"}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.cymorthcymru.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1072","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.cymorthcymru.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.cymorthcymru.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.cymorthcymru.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.cymorthcymru.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=1072"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/www.cymorthcymru.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1072\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":1073,"href":"https:\/\/www.cymorthcymru.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1072\/revisions\/1073"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.cymorthcymru.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=1072"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.cymorthcymru.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=1072"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.cymorthcymru.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=1072"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}