Fel sefydliad trosfwaol, mae ein haelodau’n ganolog i waith Cymorth Cymru. Mae gennym tua 100 o aelodau, sy’n cynnwys cyrff trydydd sector, cymdeithasau tai ac awdurdodau lleol o bob rhan o Gymru.
Mae aelodau Cymorth yn gweithio gydag amrywiaeth eang o bobl, gan gynnwys:
Nid yw’r rhestr hon yn cynnwys pawb, ac yn aml mae pobl yn wynebu amrywiaeth o heriau sy’n ei gwneud hi’n anodd iddyn nhw gynnal cartref sefydlog a chadw rheolaeth ar eu bywydau.
Mae ein haelodau yn helpu pobl i ymdrin â’r materion hyn, gan eu cefnogi i gael hyd i lety diogel a’i gynnal, cyflawni eu potensial personol, a theimlo’n hyderus wrth wneud dewisiadau am eu dyfodol.
Mae bod yn aelod o Cymorth yn cynnig amrywiaeth o fanteision. Yn ogystal â sicrhau bod eich barn yn cael ei chyfleu’n eglur ac yn effeithiol i Lywodraeth Cymru, byddwch hefyd yn elwa o ostyngiadau sylweddol ar hyfforddiant, digwyddiadau a hysbysebu, yn ogystal â’r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau’r sector a pholisi. Gallwch hefyd gyfrannu at drafodaethau ehangach ar draws y sector, a dysgu ohonynt, ac elwa o rwydweithio gydag aelodau eraill.
Rhagor o wybodaeth am ymuno â Cymorth
Y newyddion diweddaraf gan ein haelodau