Mae Tŷ Golau, yng nghanol tref y Rhyl, yn cael ei reoli gan Gymdeithas Tai Clwyd Alyn ac yn daparu llety ar gyfer dynion a merched sengl digartref dros 18 oed. Mae Tŷ Golau yn cynnig 4-6 gwely ar gyfer llety mynediad mewn argyfwng, 4 gwely mewn hostel ar gyfer arhosiad hirach, a chymorth Tai yn Gyntaf i gleientiaid yn eu cartrefi eu hunain.
Daeth Tracey* yn ddigartref pan dderbyniodd rybudd y byddai'n cael ei throi allan o fflat yn y Rhyl.
Cynllun gofal ychwanegol modern, wedi’i adeiladu at y diben, yw Maes Mwldan, ac mae yng ngofal Cymdeithas Tai Teulu – sefydliad tai a chefnogaeth nid-er-elw sy’n darparu cartrefi fforddiadwy a gwasanaethau gofal a chymorth o ansawdd uchel yn Abertawe, Sir Gaerfyrddin, Castell-nedd Port Talbot, Ceredigion a Sir Benfro.
Hostel 26 ystafell wely i deuluoedd digartref yw Nightingale House. Nod y gwasanaeth yw helpu i fynd i’r afael â digartrefedd yng Nghaerdydd trwy ddarparu amgylchedd cefnogol, diogel, dros dro i deuluoedd, a’u galluogi i ymdrin â materion a chynyddu eu sgiliau a’u hyder yn eu gallu i reoli eu cartrefi yn y dyfodol a byw bywydau sefydlog, hapus yn eu cymunedau.
Cyfeiriwyd Rebecca at Nightingale House ar ôl cael ei throi allan o hostel arall yng Nghaerdydd.
Mae Innovate Trust yn rhoi cefnogaeth ac arweiniad i bobl ag anabledd. Eu prif waith yw cefnogi pobl ag anableddau dysgu, ond maen nhw hefyd yn cefnogi unigolion sydd ag anawsterau iechyd meddwl a phobl â namau corfforol.
Dyn 37 oed yw Gary*, ac mae ganddo anabledd dysgu cymedrol a diagnosis o Anhwylder Sbectrwm Awtistig. Roedd Gary’n byw gyda’i rieni cyn dod i lety byw â chymorth 24 awr.