Mae ein haelodau’n cefnogi pobl i fyw’n ddiogel ac yn annibynnol, gan reoli eu bywydau eu hunain yn eu cartrefi eu hunain. Mae gennym dros 120 o aelodau o bob rhan o Gymru.
Yn yr adran hon, gallwch ddod o hyd i gyhoeddiadau gan Cymorth a sefydliadau perthnasol eraill, yn ogystal â dolenni i wefannau ac adnoddau a allai fod yn ddefnyddiol.
Ymunwch ag elusen aelodaeth hynod ddylanwadol ar gyfer sefydliadau sy’n gweithio gyda phobl sydd ar y cyrion neu sydd mewn perygl o wynebu argyfwng tai yng Nghymru
Rydyn ni’n gweithredu fel ‘llais i’r sector’, gan ddylanwadu ar ddatblygu a gweithredu polisi sy’n effeithio ar ein haelodau a’r bobl maen nhw’n eu cefnogi.
Rydyn ni’n gwybod ein bod ni’n gryfach gyda’n gilydd. Po fwyaf o bobl fydd yn ymuno â ni, uchaf fydd ein llais, a mwyaf o ddylanwad a gawn.
Codwch eich llais gyda ni a’n helpu i barhau i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i’r bobl sydd angen hynny fwyaf.
Cyfle i fwydo’n uniongyrchol i’n trafodaethau dylanwadu gyda Llywodraeth Cymru, gan lywio’r broses o lunio a gweithredu polisi
Cynrychiolaeth effeithiol ar weithgorau a rhwydweithiau mewn meysydd polisi allweddol. Rydyn ni’n gweithio drosoch chi!
Teimlo manteision ein gwaith ymgyrchu a dylanwadu, a sicrhau bod hynny’n cyfateb i’ch anghenion chi ac anghenion y rhai rydych chi’n eu cefnogi
Cynigiwch am le ar Fwrdd Cymorth Cymru neu ymunwch â’n grwpiau ymgynghorol arbenigol i helpu i lywio cyfeiriad a gweithgareddau Cymorth.
Cyngor a chefnogaeth
Person penodol ‘i fynd ato/ati’ ar dîm Cymorth, fydd yn gweithio er lles pennaf eich sefydliad ac yn cymryd amser i ddeall eich blaenoriaethau, eich cyfleoedd a’ch heriau
Cyrraedd cynulleidfa ehangach trwy hybu dylanwad effeithiol eich sefydliad, a hanesion newyddion da ar wefan Cymorth
Cyrraedd yr ymgeiswyr gorau yn y sector trwy restru eich swyddi gwag yn ddi-dâl ar wefan newydd Cymorth
Marchnata eich gwasanaethau trwy gyfraddau hysbysebu gostyngol ar wefan Cymorth a chyfleoedd arddangos a noddi am bris gostyngol yn nigwyddiadau Cymorth
Gwybodaeth a hyfforddiant
Rhaglen o ddigwyddiadau sydd wedi’i llunio i ymateb i’ch anghenion gwybodaeth a rhwydweithio
Hyfforddiant wedi’i deilwra sy’n addas ar gyfer anghenion a heriau penodol eich sefydliad
Gostyngiadau sylweddol ar holl gyrsiau hyfforddi, digwyddiadau a chynadleddau Cymorth Cymru
Tanysgrifiad am ddim i’n rhestr e-bost ar gyfer hyd at 20 o aelodau staff. Byddwch yn derbyn ein e-newyddlen bob pythefnos, gyda’r wybodaeth ddiweddaraf am y sector a digwyddiadau, yn ogystal â diweddariadau rheolaidd ar faterion polisi allweddol
Tanysgrifiad am ddim i gylchgrawn Welsh Housing Quarterly, sy’n werth £20 y flwyddyn.
Beth yw cost aelodaeth?
Mae ffïoedd aelodaeth yn amrywio ac yn cael eu cyfrifo ar sail eich trosiant blynyddol yng Nghymru.
Y ffi aelodaeth flynyddol i awdurdodau lleol yw £750
I aelodau newydd nad ydynt ond yn darparu gwasanaethau gofal cymdeithasol, mae gennym ffi aelodaeth flynyddol gychwynnol, sef £300
Trosiant Blynyddol (in 000's unless otherwise stated)
£35,000
£100,000
£250,000
£500,000
£1mMil
£3mMil
£5mMil
£7mMil
£10mMil +
Eich ffi flynyddol fyddai
Cefnogwyr
Os nad ydych chi’n gweithio’n uniongyrchol gyda phobl sydd ar y cyrion neu sydd mewn perygl o wynebu argyfwng tai, ond fe hoffech chi gadw mewn cysylltiad â Cymorth Cymru, bydden ni wrth ein bodd yn eich cael yn ‘Gefnogwr’.
Fel cefnogwr, byddwch chi’n derbyn ein e-newyddlen gyda newyddion a digwyddiadau diweddaraf y sector, yn ogystal â chyfraddau gostyngol ar gyfer ein cynadleddau, ein digwyddiadau, ac arddangos a hysbysebu.
Mae 2 gategori o Gefnogwyr:
Cefnogwyr sefydliadol – £250 y flwyddyn
Cefnogwyr unigol – £50 y flwyddyn
Ymunwch nawr
Ymunwch â Cymorth Cymru heddiw a bod yn rhan o sefydliad aelodaeth deinamig, egnïol sy’n gweithio i sicrhau bod pawb yng Nghymru yn gallu byw’n ddiogel ac yn annibynnol, gan reoli eu bywydau eu hunain yn eu cartrefi eu hunain.