Rydym yn gweithredu fel llais y sector, gan ddylanwadu ar ddatblygu a gweithredu polisïau, deddfwriaeth ac ymarfer sy’n effeithio ar ein haelodau ac ar y bobl maent yn estyn cymorth iddynt. Rydym wedi ymrwymo i weithio gyda phobl sy’n defnyddio gwasanaethau, ein haelodau a’n partneriaid, i greu newid. Credwn y gallwn, gyda’n gilydd, gael mwy o effaith ar fywydau pobl.
Rydym yn awyddus i fod yn rhan o fudiad cymdeithasol sy’n rhoi terfyn ar ddigartrefedd a chreu Cymru lle gall pawb fyw’n ddiogel ac yn annibynnol yn eu cartrefi eu hunain, a ffynnu yn eu cymunedau.
Lawrlwythwch ein cynllun strategol yma.
Rydyn ni’n gweithio mewn partneriaeth â’n haelodau a rhanddeiliaid eraill i atal a lleihau digartrefedd a gwella ansawdd bywyd i bobl ledled Cymru sydd ar y cyrion neu sydd mewn perygl o ddioddef argyfwng tai.
Mae gan Cymorth ryw 80 o aelodau ledled Cymru, sy’n cynnwys cyrff trydydd sector, cymdeithasau tai ac awdurdodau lleol.
Mae ein haelodau’n darparu ystod eang o wasanaethau sy’n rhoi cymorth i bobl ymdopi â chyfnodau anodd, ailadeiladu eu hynanhyder, a byw’n annibynnol yn eu cartrefi eu hunain. Maent yn cynnwys pobl sy’n ddigartref neu mewn perygl o fod felly, pobl ifanc a rhai sy’n gadael gofal, pobl hŷn, pobl sy’n ffoi rhag trais yn erbyn menywod, trais yn y cartref neu drais rhywiol, pobl sy’n byw gydag anabledd dysgu, pobl sy’n dioddef problemau iechyd meddwl, pobl sy’n cael problemau gyda chamddefnyddio sylweddau, a llawer mwy.
Nid yw’r rhestr hon yn cynnwys pawb, ac yn aml mae pobl yn wynebu amrywiaeth o heriau sy’n ei gwneud hi’n anodd iddyn nhw gynnal cartref sefydlog a sicrhau rheolaeth ar eu bywydau.
Mae ein haelodau’n helpu pobl i ymdrin â’r materion hyn, gan eu cefnogi i gael hyd i lety diogel a’i gynnal, cyflawni eu potensial personol, a theimlo’n hyderus wrth wneud dewisiadau am eu dyfodol.
Cychwynnodd Cymorth ar ffurf grŵp llywio yn 2001, mewn ymateb i dirlun newidiol cymorth cysylltiedig â thai. Daethom ni’n gwmni cyfyngedig trwy warant ym mis Mai 2004 cyn sicrhau statws elusennol yn 2006.
Mae ein prif ffocws a’n gweithgareddau yn dal i droi’n bennaf o gwmpas digartrefedd, cymorth cysylltiedig â thai a byw â chymorth. Fodd bynnag, rydyn ni’n cadw llygad barcud ar feysydd polisi eraill (cyfiawnder cymunedol, diwygio lles, trechu tlodi, gofal iechyd ataliol, ac eraill) fel ein bod ni’n gallu ymateb yn hyblyg ac yn fuan i themâu sy’n dod i’r amlwg sy’n debygol o gael effaith ar ein haelodau a’r bobl maen nhw’n eu cefnogi.
Mae cysylltu gwahanol edafedd gwaith polisi ar draws gwahanol sectorau yn fwyfwy pwysig, ac yn rhywbeth yr ydym mewn sefyllfa dda i’w wneud.
Dysgu rhagor am ein gwaith polisi a dylanwadu.
Tîm bychan o staff yng Nghaerdydd sy’n rhedeg Cymorth Cymru ac mae’n cael ei lywodraethu gan Fwrdd o Ymddiriedolwyr.
Cymru lle gall pawb fyw’n ddiogel ac yn annibynnol yn eu cartrefi eu hunain, gwireddu eu dyheadau, a ffynnu yn eu cymunedau.
Cysylltu, cryfhau, dylanwadu ar, ac ysbrydoli darparwyr gwasanaethau, llunwyr polisi a phartneriaid i:
Tosturi a pharch: Byddwn yn arddangos ac yn hybu tosturi a pharch ym mhob agwedd o’n gwaith.
Annibyniaeth: Byddwn yn annibynnol yn wleidyddol er mwyn sicrhau y gallwn weithredu gydag uniondeb ac er lles ein haelodau.
Partneriaeth: Byddwn yn parhau i adeiladu partneriaethau effeithiol ar draws gwahanol sectorau a meysydd polisi er mwyn cyflawni’r effaith fwyaf posibl.
Tryloywder ac atebolrwydd: Fe fyddwn yn agored, yn dryloyw ac yn onest ym mhob peth a wnawn, ac yn atebol i’n haelodau am ein gweithredoedd.
Gwneud gwahaniaeth: Yn fwy na dim, byddwn yn ceisio sicrhau bod ein gwaith ni, a gwaith ein haelodau, yn cael effaith bositif ar bobl a chymunedau yng Nghymru.