Mae Cymorth Cymru yn gweithio gyda darparwyr gwasanaeth, llunwyr polisi a phartneriaid i atal digartrefedd a gwella ansawdd bywyd y bobl y mae ein haelodau'n eu cefnogi.
Mae Cymorth yn cyflawni rôl ‘gyswllt’ allweddol, gan gryfhau capasiti’r aelodau trwy eu cysylltu â materion a dadleuon ehangach yn y Deyrnas Unedig, Ewrop a mannau eraill, a chynnal digwyddiadau sy’n rhannu arfer gorau a dysgu allweddol.
Mae dod â llinynnau gwaith polisi ynghyd ar draws gwahanol sectorau yn fwyfwy pwysig. Rydyn ninnau mewn sefyllfa dda i wneud hyn, a bydd yn parhau’n flaenoriaeth i ni.
Rydyn ni hefyd yn ymarfer ac yn hybu gwaith effeithiol mewn partneriaeth er mwyn sicrhau’r canlyniadau gorau posibl i’n haelodau a’r bobl maen nhw’n eu cefnogi. Rhagor o wybodaeth am y bobl rydyn ni’n gweithio gyda nhw.
Mae Cymorth yn ymroddedig i gryfhau a herio’r sector trwy gynnig hyfforddiant a digwyddiadau ansawdd uchel ar faterion cyfredol ac arfer da. Mae ein rhaglen hyfforddiant a digwyddiadau yn cael ei llywio gan yr aelodau, ac mae wedi’i llunio i ymateb i’ch anghenion gwybodaeth a rhwydweithio.
Mae ein cyfathrebu rheolaidd, wedi’i dargedu yn sicrhau bod ein haelodau’n cael gwybod am y datblygiadau diweddaraf yn y sector a diweddariadau allweddol ym meysydd polisi a deddfwriaeth.
Mae Cymorth Cymru yn gweithredu fel ‘llais i’r sector’, gan ddefnyddio ymchwil seiliedig ar dystiolaeth i ddylanwadu ar ddatblygu a gweithredu polisi sy’n effeithio ar ein haelodau a’r bobl maen nhw’n eu cefnogi.
Rydyn ni’n canolbwyntio ar gyfuno llinynnau ein prif feysydd polisi ar draws rhaglenni blaenoriaeth Llywodraeth Cymru – gan sicrhau bod ein haelodau’n cael eu cefnogi, a bod eu barn a’u blaenoriaethau’n cael eu hadlewyrchu ar bob lefel ac ar draws yr holl faterion cysylltiedig.
Rydyn ni hefyd yn gweithio i gynyddu cefnogaeth gyhoeddus i’n haelodau a’r bobl maen nhw’n eu cefnogi, ac i herio agweddau’r cyhoedd. Rydyn ni’n gwneud hyn trwy hyrwyddo effaith gadarnhaol gwasanaethau ein haelodau a thrwy ein gwaith ymgyrchu a chynyddu ymwybyddiaeth.