Rôl Katie yw darparu arweiniad strategol, cynrychioli aelodau Cymorth, hyrwyddo'r sector ac eiriol ar ran y bobl sy'n defnyddio ein gwasanaethau i aelodau yng Nghymru. Mae ei gwaith hefyd yn cynnwys datblygu Cymorth yn unol â gwerthoedd y sefydliad a'n fframwaith llywodraethu, gan gyflawni'n hymrwymiadau fel cwmni, fel cyflogwr ac fel elusen.
Mae gan Katie ddeng mlynedd o brofiad fel ymgyrchydd a gweithredwr polisi, ac yn ei chwe mis cyntaf gyda Cymorth mae hi wedi darparu llais cryf ar ran aelodau ar ariannu Cefnogi Pobl, Rhentu Doeth Cymru, a diwygiadau lles i lety â chymorth. Mae ei phwyslais ar weithio gydag aelodau a phobl sy'n defnyddio gwasanaethau i gefnogi'r sector er mwyn cael yr effaith fwyaf positif bosib ar fywydau pobl.
Ymunodd Katie â'r sefydliad ar ôl treulio pum mlynedd fel Rheolwr Polisi a Materion Cyhoeddus gyda Gofal, sy'n un o'r prif elusennau iechyd meddwl yng Nghymru. Yn ystod y cyfnod hwn, gweithiodd Katie gyda Llywodraeth Cymru, sefydliadau cyhoeddus a rhai yn y trydydd sector, a defnyddwyr gwasanaeth, er mwyn dylanwadu ar ystod o bolisïau a deddfwriaeth ym meysydd iechyd, tai a chyfiawnder troseddol.
Cyn hynny, roedd Katie yn Llywydd Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru, lle bu'n ymgyrchu'n llwyddiannus i gynyddu cymorth i fyfyrwyr a diogelu myfyrwyr Cymru rhag ffioedd dysgu o £9,000. Roedd hi hefyd yn gyfrifol am arwain yr ymgyrch 'Mae Myfyrwyr yn Dweud Ie', ac roedd yn aelod o grŵp llywio ymgyrch genedlaethol 'Ie dros Gymru' ar gyfer refferendwm 2011 ar y pwerau i basio deddfwriaeth sylfaenol. Mae Katie hefyd wedi gwasanaethu fel aelod o Fwrdd Cyfarwyddwyr y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, Cymru Yfory a Chymdeithas Tai Cadwyn.