Y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi sy’n bwrw golwg ar y Rhaglen Cefnogi Pobl.
Mae Bwrdd Ymgynghorol Cenedlaethol Cefnogi Pobl (SPNAB) yn dod â chynrychiolwyr ynghyd o wahanol feysydd polisi er mwyn rhoi cyngor i’r Gweinidog. Ei ddiben yw sicrhau bod y Rhaglen Cefnogi Pobl yn canolbwyntio ar ddiwallu anghenion pobl agored i niwed yng nghyswllt tai.
Mae Pwyllgorau Cydweithio Rhanbarthol (RCCs) yn dod â rhanddeiliaid ynghyd ar lefel ranbarthol. Eu rôl yw cyflwyno argymhellion i Lywodraeth Cymru ar wariant Cefnogi Pobl yn eu rhanbarth.
Mae 6 Phwyllgor Cydweithio Rhanbarthol ledled Cymru
Mae pob un o’r Pwyllgorau hyn yn cynnwys cynrychiolwyr o awdurdodau lleol, iechyd, Cwmni Adsefydlu Cymunedol Cymru (Prawf gynt), darparwyr gwasanaeth Cefnogi Pobl a landlordiaid. Nid i roi eu barn eu hunain mae cynrychiolwyr darparwyr yn aelodau o’r Pwyllgorau Cydweithio Rhanbarthol; maen nhw yno i adlewyrchu barn darparwyr.
Mae’r Pwyllgorau Cydweithio Rhanbarthol yn gyfrifol am gynhyrchu Cynllun Comisiynu Rhanbarthol ar gyfer gwasanaethau Cefnogi Pobl, a fydd yn rhoi sylw i flaenoriaethau rhanbarthol ac yn nodi’r ffordd fwyaf effeithiol o ddiwallu anghenion rhanbarthol.
Mae Llywodraeth Cymru yn ariannu 6 Chydlynydd Datblygu Rhanbarthol i gefnogi gwaith y Pwyllgorau hyn ac i sicrhau bod gwybodaeth yn llifo’n effeithiol rhwng aelodau’r Pwyllgor Cydweithio Rhanbarthol a bod trefniadau da ar gyfer adrodd i Lywodraeth Cymru.
Fforwm chwarterol ar y cyd yw hon, a gynhelir gan Cymorth Cymru a Chartrefi Cymunedol Cymru. Mae’n gyfle i gynrychiolwyr darparwyr a landlordiaid ddod ynghyd i rannu materion ac arfer gorau. Mae’n rhoi cyfle i ni rannu’r wybodaeth ddiweddaraf gyda’r cynrychiolwyr a bwydo’u barn ar y darlun cenedlaethol ehangach i’n gwaith dylanwadu.
Cynhelir sesiwn y bore gyda fforwm Tai â Chymorth Cartrefi Cymunedol Cymru, ac mae ar agor i gynrychiolwyr darparwyr, landlordiaid, Cydlynwyr Datblygu Rhanbarthol, Rhwydwaith Gwybodaeth Cefnogi Pobl a Llywodraeth Cymru. Mae’r prynhawn yn sesiwn gaeedig i gynrychiolwyr yn unig.