Mae hysbysebu gyda Cymorth Cymru yn rhwydd, yn gyflym ac yn gost-effeithiol.
Mae gan Cymorth fynediad uniongyrchol at gannoedd o sefydliadau ac unigolion sy’n gweithio mewn gwahanol sectorau – digartrefedd, cymorth yn gysylltiedig â thai, byw â chymorth, a gofal cymdeithasol.
Trwy hysbysebu ar ein gwefan neu yn ein cylchlythyr, byddwch yn dod i gysylltiad â phobl broffesiynol sy’n gweithio yn y sector hwn; mae’n ddull effeithiol o ennyn ymateb i’ch hyfforddiant, eich tendrau neu gynhyrchion, a’ch gwasanaethau.
Gallwn gynnig disgownt i rai sy’n hysbysebu’n gyson, neu sy’n trefnu hysbysebion lluosog. Gofynnwch i ni gynllunio pecyn a fydd yn ateb eich gofynion.
Hysbyseb ar y Wefan:
£199 + TAW bob mis (aelodau Cymorth)
£249 + TAW bob mis (heb fod yn aelodau)
E-gylchlythyr:
£99 + TAW y rhifyn (aelodau Cymorth)
£149 £149 + TAW y rhifyn (heb fod yn aelodau)
Fel sefydliad dielw, mae unrhyw arian a godir trwy hysbysebu’n cael ei ddefnyddio i ddatblygu Cymorth er mwyn sicrhau y gallwn barhau i gwrdd ag anghenion y sector.
Cysylltwch â ni i weld sut y gallwn ni eich helpu. Anfonwch e-bost at Jodi Cox neu ffoniwch ni ar 029 2078 9155.
Mae Cymorth Cymru yn cynnig gwasanaeth rhestru swyddi i’ch helpu i roi cyhoeddusrwydd i’ch swyddi gwag a’u gosod o flaen cynulleidfa luosog o’r gwahanol sectorau – digartrefedd, cymorth yn gysylltiedig â thai, byw â chymorth a gofal cymdeithasol.
Rhagor o wybodaeth ynghylch hysbysebu swydd wag
Rhestr o’r swyddi diweddaraf yn y sector