Ym mis Hydref 2018 cyhoeddodd Gweinidogion Llywodraeth Cymru y penderfyniad i rannu’r Grant Ymyrryd yn Fuan ac Atal yn ddau, gan wahanu’r grantiau yn ymwneud â thai oddi wrth yr elfennau eraill nad ydynt yn gysylltiedig â thai, a hynny i holl awdurdodau lleol Cymru. O ganlyniad i’r penderfyniad hwn, o fis Ebrill 2019 bydd un Grant Cymorth Tai yn cael ei greu a hwnnw’n cwmpasu Cefnogi Pobl, Atal Digartrefedd a Gorfodaeth Cynllun Rhentu Doeth Cymru. Bydd y trefniadau hyn yn parhau mewn grym am weddill y tymor hwn yn y Cynulliad.
O ganlyniad, bydd Llywodraeth Cymru yn datblygu cynllun grant newydd a byddai’n hoffi cynhyrchu’r gwaith hwn ar y cyd gan gynnwys yr holl randdeiliaid o’r sector Cefnogi Pobl a Digartrefedd. Cafodd y digwyddiad ymgynghori hwn ei drefnu drwy bartneriaeth gan Lywodraeth Cymru a Cymorth Cymru ac mae’n gyfle i bob rhanddeiliad gyfrannu’n uniongyrchol i’r broses ddatblygu.
Yn ystod y digwyddiad gofynnir ichi rannu eich barn ynglŷn â chreu’r mecanwaith grant newydd, yn cynnwys eich barn ar y materion a’r sialensiau sy’n codi ar hyn o bryd, sut dylai trefniadau llywodraethu’r Grant Cymorth Tai edrych a beth mae angen i ni ei wybod er mwyn gwneud penderfyniadau doeth ynghylch ei ddosbarthu.
Rydym yn croesawu cynrychiolaeth o blith yr holl randdeiliaid yn y sectorau Cefnogi Pobl a Digartrefedd. Mae’r digwyddiadau yn addas i'r rhai sydd â dealltwriaeth strategol o'r materion sy'n effeithio ar y grant newydd.
Cofrestrwch ar gyfer y digwyddiadau ymgysylltu yma:
Pe bai gormod o geisiadau am y digwyddiadau, efallai y bydd angen inni gyflwyno terfyn fesul sefydliad a byddwn yn ceisio pennu dyddiadau ychwanegol ar gyfer digwyddiadau er mwyn sicrhau ein bod yn casglu barn cymaint o bartïon â phosibl.
Ni fydd y digwyddiadau hyn yn yr unig fecanweithiau yr ydym yn ceisio barn drwyddynt. Mae ein cynllun ymgysylltu yn cynnwys cyfleoedd ychwanegol i gymryd rhan mewn lleoliadau penodol. Er enghraifft, i drafod yr effaith ar ofal cymdeithasol drwy'r Gymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol.