Cyhoeddwyd enwau enillwyr y Gwobrau Hyrwyddo Annibyniaeth 2018 nos Wener 30 Tachwedd, a hynny mewn seremoni yng Nghaerdydd a drefnwyd gan Cymorth Cymru.
Mae’r gwobrau – sydd bellach yn eu 12fed flwyddyn – yn dathlu gwaith a llwyddiannau’r sector cymorth yn gysylltiedig â thai yng Nghymru. Agorwyd gweithgareddau’r noson gan Joy Kent, sylfaenydd a chyfarwyddwr Joy Unlimited, a chyn-gyfarwyddwr Cymorth.
Dywedodd Katie Dalton, cyfarwyddwr Cymorth Cymru:
“Mae’r gwobrau hyn yn cydnabod angerdd, ymroddiad a llwyddiant y bobl a’r sefydliadau sy’n cyflenwi gwasanaethau tai a chymorth yng Nghymru, yn ogystal â chyflawniadau pobl sydd wedi wynebu a gorchfygu rhai o’r heriau anoddaf y gallwn eu dychmygu.
“Doedd penderfynu ar yr enillwyr ddim yn dasg rwydd, ond mae’r beirniaid wedi cydnabod rhai enghreifftiau rhagorol o arloesedd, gwaith caled a chydweithio. Y rhinweddau hyn sy’n diffinio’r sector tai a chymorth yng Nghymru, a bydd y llwyddiannau yma’n parhau i’n hysbrydoli ni i gyd yn 2019.”
Y rhestr lawn o enillwyr ym mhob categori
Atal Digartrefedd – noddwyd gan Crisis
Y prosiect a enillodd y wobr yw’r cyntaf o’i fath yn ne Cymru. Mae Byddin yr Iachawdwriaeth wedi cymryd model sy’n seiliedig ar dystiolaeth ac a gydnabyddir yn rhyngwladol, gan weithio mewn partneriaeth â nifer o wahanol asiantaethau i’w weithredu. Mae’r gwasanaeth hwn yn rhoi cymorth i bobl a chanddynt anghenion cymhleth, ac sydd wedi bod yn ddigartref am gyfnodau maith, gyda’r nod o’u helpu i ddod oddi ar y strydoedd a byw bywydau cynaliadwy a chynhwysol o fewn eu cymunedau. Gyda phwyslais cryf ar amgylcheddau a ddylanwadir gan seicoleg, a bod yn drawma-ymwybodol, roedd y cais hwn yn cyflwyno tystiolaeth o lwyddiant y prosiect wrth atal digartrefedd.
Cyflawniad Personol – noddwyd gan Pobl – Gofal a Chymorth
Clod Uchel: Adel Botterill, Damion Jones, Jordan, Sarah McVeigh, Fflur Owen, Emma Pilot, Daniel Porretta, Melissa Richards, Mark Riley, Gary Smith, Geri Stephenson ac eraill.
Mae’r bobl a enwebwyd ar gyfer y wobr hon wedi datblygu eu hyder a’u hunan-barch, wedi ysbrydoli eu cyfoedwyr, rhoi cyngor a chefnogaeth i bobl eraill, siarad ar goedd am eu profiadau, rheoli eu hiechyd meddwl, lleihau eu defnydd o sylweddau, dysgu sgiliau newydd, dechrau gwirfoddol, a mynd i mewn i fyd gwaith. Mae pob stori’n wahanol, ond maent i gyd yn haeddu cael eu cydnabod. Cafodd y bobl a restrwyd uchod gymorth gan Crisis De Cymru, Digartref Cyf, Dimensions, Gofal, Gorwel, Hafan Cymru, Hafod, Llamau, Cartrefi Cymoedd Merthyr, Mirus, Mind Casnewydd, Pobl – Gofal a Chymorth, Cerrig Camu, Cymdeithas Tai Taf a Byddin yr Iachawdwriaeth.
Comisiynydd y Flwyddyn – noddwyd gan United Welsh
Roedd y bobl a enwebodd Cheryl wedi tynnu sylw at ei hagwedd agored at fentrau newydd, a’i ffocws ar ddatblygu gwasanaethau sy’n berson-ganolog, yn cael eu harwain gan yr anghenion, yn seiliedig ar gryfderau ac yn cael eu dylanwadu gan drawma. Cafodd ei chanmol am ddatblygu ei mewnwelediad drwy ymgysylltiad uniongyrchol â goroeswyr, a disgrifiwyd hi fel un oedd yn gweithio’n angerddol ochr yn ochr â darparwyr cymorth. Dywedwyd fod hyblygrwydd a dealltwriaeth Cheryl yn gymorth i fabwysiadu dulliau newydd a gwella cyfleoedd a lles y bobl sy’n defnyddio gwasanaethau, yn ogystal â thynnu sylw at yr effaith a ddaw yn sgil hynny yn achos rhai sy’n goroesi cam-drin domestig.
Dysgu a Chyflogaeth – noddwyd gan Hafan Cymru
Canmolwyd y prosiect Youth Shedz oherwydd ei fod yn cael ei arwain gan bobl ifanc o fewn prosiect tai â chymorth, gydag egwyddorion cyd-gynhyrchu yn sail iddo. Gan ddefnyddio dull o ddatblygu cymunedol yn seiliedig ar asedau, mae’n darparu amgylchedd gofalgar, diogel i bobl ifanc dros 16 oed lle gallant archwilio eu hunaniaeth a datblygu perthynas gymdeithasol ag eraill, yn ogystal â dysgu sgiliau bywyd a sgiliau cyflogadwyedd. Canmolwyd y prosiect hefyd am ei ymgysylltiad â’r gymuned ehangach, gan herio stereoteipiau negyddol.
Cyd-gynhyrchu – noddwyd gan Rhwydwaith Cyd-gynhyrchu Cymru
Mae prosiect SAFE yn galluogi merched ifanc a chanddynt anableddau dysgu ac awtistiaeth i helpu eu cyfoedion i wella eu gwybodaeth o’r hyn ydyw perthynas iach, rhoi caniatâd, iechyd rhywiol, a diogelwch ar y we ac mewn person. Ei nod yw lleihau’r perygl o gamfanteisio rhywiol, a’r stigma cymdeithasol sy’n gysylltiedig â rhyw ac anabledd. Mae’r prosiect wedi cyflwyno gweithdai i dros dri chant o ferched ifanc a chanddynt anableddau dysgu neu awtistiaeth, a hynny gydag wyth ar hugain o wirfoddolwyr o blith eu cyfoedion. O lunio’r cais gwreiddiol am arian, i gynllunio a chyflwyno’r gweithdai a gwerthuso’r prosiect, mae pobl a chanddynt anableddau dysgu ac awtistiaeth wedi bod wrth galon y prosiect hwn.
Creadigedd – noddwyd gan Tai Pawb a Llamau
Mae Innovate Trust wedi defnyddio technoleg i wella bywydau oedolion a chanddynt anableddau dysgu ac sy’n byw mewn gofal cymdeithasol. Canmolodd y beirniaid y modd y mae’r prosiect yn ymwneud â defnyddwyr gwasanaeth, gan arwain at ganfod dulliau arloesol o ddefnyddio technoleg nad oedd staff y prosiect wedi meddwl amdanynt. Mae’r sefydliad wedi newid bywydau, herio dulliau cyfredol, galluogi annibyniaeth, hyrwyddo cynhwysiad a lleihau stigma. Dywedwyd fod y sefydliad a’u llygaid at y dyfodol, a chyda’u prosiectau maent yn barod i roi ysgydwad i’r sector gan wella cynaliadwyedd ac ansawdd gwasanaethau.
Roedd y cydweithio traws-raglennol a ddangoswyd gan Gymdeithas Tai Cadwyn a Flying Start Caerdydd, yn ogystal â’u ffocws ar amgylcheddau a ddylanwadwyd gan drawma, wedi cael argraff fawr ar y beirniaid. Dywedwyd fod y prosiect yn cydnabod pwysigrwydd gallu ymddiried mewn pobl, a chael amgylchedd diogel mewn llety â chymorth, a sut y gallai gweithio mewn ffordd wahanol arwain at ganlyniadau gwell i deuluoedd.
Cefnogi Goroeswyr – noddwyd gan Cymorth i Ferched Cymru
Cafodd WWDAS eu cydnabod am eu hymdrechion i deilwra eu gwasanaethau i gwrdd ag anghenion gwahanol grwpiau. Er gwaetha’r heriau o weithredu mewn ardal wledig, maent yn cyflwyno ystod eang o wasanaethau ymestyn, fel y gall rhai sydd wedi goroesi cam-drin domestig gael mynediad at gymorth, tai, cyngor cyfreithiol a gwasanaeth cwnsela. Maent hefyd yn mynd i’r afael ag achosion o gam-drin domestig, gan weithio gyda phlant ifanc a’u rhieni nad ydynt yn ymddwyn yn gamdriniol i ddatblygu ymddygiad sy’n ddiogel, yn dangos ymddiriedaeth a pharch, i gyd-redeg y Rhaglen Bystander a gweithio gyda dynion a bechgyn i atal trais.
Mae’r gwasanaeth yn agored bob awr o’r dydd a’r nos ac yn galluogi goroeswyr i gael mynediad at gymorth drwy ystod o ddulliau cyfathrebu-o-bell, drwy gyfrwng Hybiau’r Cyngor yn y gymdogaeth. Mae Cymorth i Ferched Caerdydd yn gweithio mewn partneriaeth â’r bwrdd iechyd a’r trydydd sector i gefnogi dioddefwyr benywaidd o unrhyw oedran ac o ystod o nodweddion gwarchodedig, ond yn enwedig felly pobl ddu a lleiafrifoedd ethnig, lesbaidd, deurywiol, trans a rhai a chanddynt anghenion ychwanegol o ran iechyd.
Gwobr Antonia Watson am Gydweithiwr Ysbrydoledig – noddwyd gan The Big Issue
Dywedir fod Jackie wedi dangos angerdd aruthrol dros wella profiadau pobl sy’n defnyddio gwasanaethau, ei bod wedi ysbrydoli ei chydweithwyr, ac wedi brwydro dros fuddiannau’r gwasanaethau cymorth ar lefel strategol. Mae hi wedi trawsnewid un cynllun arbennig drwy ei hangerdd a’i hymroddiad i ddulliau a ddylanwadir gan seicoleg, ac o ganlyniad i’w gwaith hi mae’r nifer o ddigwyddiadau problemus yn y cynllun wedi disgyn yn ddramatig. Yng ngeiriau ei chyd-weithwyr, mae Jackie “yn byw er mwyn ei gwaith; mae hi’n ymchwilio i theorïau newydd a dulliau o weithio a fydd yn galluogi’r staff i ddarparu gwasanaeth o’r radd flaenaf i gleientiaid. Nid oes arni ofn methu, ac mae hi’n ysbrydoli ei chyd-weithwyr i lwyddo.”