Mae cynrychioli barn ein haelodau a dylanwadu ar ddatblygiad polisi a deddfwriaeth yn ganolog i’n gweithgareddau.
Rydyn ni’n canolbwyntio ar ddod â llinynnau ein meysydd polisi allweddol ynghyd ar draws rhaglenni blaenoriaeth Llywodraeth Cymru – gan wneud yn siŵr bod ein haelodau yn cael eu cefnogi a bod eu barn a’u blaenoriaethau yn cael eu hadlewyrchu ar bob lefel ac ar draws yr holl faterion cysylltiedig.
Rydyn ni’n gwneud hyn mewn nifer o ffyrdd:
Mae digartrefedd yn faes polisi allweddol ar gyfer Cymorth Cymru.
Rydyn ni'n ymroddedig i gynnal agwedd ataliol a gweithio mewn partneriaeth ag aelodau, llunwyr polisi a rhanddeiliaid eraill i atal pobl rhag bod yn ddigartref. Mae hwn yn un o'n meysydd gwaith craidd, ac rydyn ni'n cynrychioli llawer o wahanol ddarparwyr sy'n gweithio gyda phobl ddigartref neu bobl sydd mewn perygl o golli eu cartref.
Elfen allweddol o'n gwaith yn y maes hwn yw canolbwyntio ar y Rhaglen Cefnogi Pobl.
Mae cymorth cysylltiedig â thai a byw â chymorth yn feysydd polisi o ddiddordeb allweddol i Cymorth Cymru.
Mae llawer o ddarparwyr yng Nghymru sy'n darparu cymorth cysylltiedig â thai a gwasanaethau byw â chymorth. Mae Cymorth Cymru yn cynrychioli eu lleisiau ac yn gweithio i hyrwyddo gwelliannau yn y maes hwn.
Rhan allweddol o’n gwaith yn y maes hwn yw canolbwyntio ar y Rhaglen Cefnogi Pobl
Gan gydnabod pwysigrwydd gwaith integredig ar draws sectorau, mae gennym hefyd ddiddordeb byw mewn Gofal Gwerth Cymdeithasol ac rydym yn parhau i ddatblygu ein gweithgareddau a’n dylanwad yn y maes hwn.
Yn ogystal â’r uchod, rydyn ni hefyd yn cadw llygad manwl ar feysydd polisi cysylltiedig, fel:
Mae hyn yn ein galluogi i ymateb yn hyblyg ac yn gyflym i themâu sy’n dod i’r amlwg – gan ganolbwyntio ar y meysydd hynny sy’n debygol o effeithio ar ein gwaith craidd.
I gael rhagor o wybodaeth am ein gwaith polisi a sut gallwch chi chwarae rhan, anfonwch e-bost at Oliver Townsend
Ydych chi’n aelod o Cymorth Cymru? Rhowch eich enw i lawr i dderbyn ein diweddariadau polisi.