Mae digartrefedd yn faes polisi allweddol ar gyfer Cymorth Cymru.
Rydyn ni’n ymroddedig i gynnal agwedd ataliol a gweithio mewn partneriaeth ag aelodau, llunwyr polisi a rhanddeiliaid eraill i atal pobl rhag bod yn ddigartref. Mae hwn yn un o’n meysydd gwaith craidd, ac rydyn ni’n cynrychioli llawer o wahanol ddarparwyr sy’n gweithio gyda phobl ddigartref neu bobl sydd mewn perygl o golli eu cartref.
Elfen allweddol o’n gwaith yn y maes hwn yw canolbwyntio ar y Rhaglen Cefnogi Pobl sy’n chwarae rhan hanfodol yn y gwaith o atal digartrefedd yng Nghymru, a galluogi pobl i reoli eu bywydau eu hunain a byw’n hyderus mewn cartrefi diogel, saff.
I gael rhagor o wybodaeth am ein gwaith polisi ar ddigartrefedd, anfonwch e-bost at Oliver Townsend.
Fel rhan o’n gwaith ym maes digartrefedd, rydyn ni’n hwyluso Rough Sleepers Cymru (RSC) – rhwydwaith o sefydliadau sy’n gweithio gyda phobl sy’n cysgu allan yng Nghymru.
Pwrpas RSC yw cynrychioli buddiannau pobl sy’n cysgu allan, rhannu arfer gorau, a nodi ac ymgyrchu ar faterion allweddol. Rhagor o wybodaeth
Rydyn ni’n cynrychioli buddiannau ein haelodau a’r bobl maen nhw’n eu cefnogi trwy wneud cyfraniad gweithredol i weithgorau o eiddo’r llywodraeth, rhwydweithiau polisi a mentrau eraill, megis Fforymau Darparwyr Rhanbarthol. Rhagor o wybodaeth am y rhwydweithiau hyn
Yn ogystal â chyfranogi yn y rhwydweithiau hyn, rydyn ni hefyd yn ymateb i nifer o ymgyngoriadau, ymholiadau a galwadau am dystiolaeth mewn cydweithrediad â’n haelodau.
Rhagor o wybodaeth am ymgyngoriadau yn awr ac yn y gorffennol yn y maes polisi hwn, a sut gallwch chi chwarae rhan.
Byddwn ni’n defnyddio’r adran hon i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am ddatblygiadau deddfwriaethol allweddol a materion sy’n cael effaith ar ddigartrefedd, cymorth cysylltiedig â thai a’r sector byw â chymorth.
Mae Deddf Tai (Cymru) wedi gwneud newidiadau sylfaenol i’r dull o ymdrin â digartrefedd. Mae agwedd ataliol at ddigartrefedd wedi’i gwreiddio yn y ddeddfwriaeth, ac ni fydd yn llwyddiannus ond os gweithiwn gyda’n gilydd, yn ddarparwyr, awdurdodau lleol a rhanddeiliaid eraill. Mae Cymorth Cymru wedi bod yn rhan o waith ymgynghori, cynrychioli a hyfforddiant er mwyn sicrhau bod anghenion y bobl mae ein haelodau’n gweithio gyda nhw yn cael eu diwallu.