Mae Tai yn Gyntaf yn faes polisi allweddol i Cymorth Cymru, a'r rhwydwaith rydym yn ei hwyluso, sef Rhwydwaith Tai yn Gyntaf Cymru.
Isod, gallwch weld yr adnoddau rydym wedi eu cynhyrchu i gefnogi aelodau a rhanddeiliaid eraill wrth iddynt fabwysiadu Tai yn Gyntaf yn eang ledled Cymru.
Am ragor o wybodaeth am ein gwaith polisi ar Tai yn Gyntaf, anfonwch ebost at policy@cymorthcymru.org.uk.
Mae Tai yn Gyntaf yn ddull unigryw i'n helpu i fynd i'r afael â digartrefedd. Mae tystiolaeth yn dangos bod y dull wedi llwyddo i roi cymorth i bobl a chanddynt brofiad helaeth o ddigartrefedd, ac o lefelau arwyddocaol o drawma, a'u helpu i symud i gartrefi sefydlog a pharhaol.
Mae Tai yn Gyntaf yn cynnig tai fforddiadwy, hir-dymor, a hynny cyn gynted ag y bo modd i unigolion sydd wedi cael profiad o ddigartrefedd dros gyfnod maith, ac yna mae'n darparu cymorth cofleidiol 24-awr a chyswllt â chymorth yn seiliedig ar y gymuned, er mwyn rhoi i unigolion y cyfle gorau posibl i gynnal eu tenantiaethau a'u hatal rhag mynd yn ôl i gysgu ar y stryd.
Mae tystiolaeth ryngwladol yn profi pa mor effeithiol y gall Tai yn Gyntaf fod. Trwy weithredu Tai yn Gyntaf yng Nghymru, mae gennym gyfle go iawn i helpu pobl sydd wedi treulio blynyddoedd yn cysgu ar y stryd, gan eu symud allan o'r sefyllfaoedd erchyll hyn a'u galluogi i fyw bywydau llawn a hapus. Mae Tai yn Gyntaf yn rhoi rheolaeth, dewis, hawliau a chyfrifoldebau i bobl ddigartref.
Yng Nghymru, drwy ymchwilio ac ymgynghori, rydym wedi cynhyrchu ein hegwyddorion ein hunain sy’n sicrhau cywirdeb y model Tai yn Gyntaf ar draws ein cenedl.
Rydym hefyd wedi cynhyrchu egwyddorion ar gyfer Tai yn Gyntaf i Bobl Ifanc, ac er eu bod yn debyg mae rhai gwahaniaethau allweddol rhyngddynt.
Isod fe welwch ddogfennau atodol allai helpu yn y dasg o greu gwasanaethau Tai yn Gyntaf, neu gynnal eu cywirdeb.
Tai yn Gyntaf Adroddiad Ymarfer Gorau - Dysgu gan Brosiectau yn eu Blwyddyn Gyntaf lawrlwyddwch yma
Mae Rhwydwaith Tai yn Gyntaf Cymru yn grŵp eang o unigolion a sefydliadau a chanddynt ddiddordeb mewn datblygu Tai yn Gyntaf a'i weithredu ledled Cymru. Gyda chynrychiolaeth o'r trydydd sector, Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol, landloriaid cymdeithasol, byrddau iechyd ac eraill, ei nod yw sicrhau cysondeb, ond hefyd i rannu ymarfer gorau a'r hyn a ddysgwyd.
Is-grŵp Cyfathrebu Tai yn Gyntaf
Mae Is-grŵp Cyfathrebu Tai yn Gyntaf yn edrych ar y gwahanol ddulliau a ddefnyddir gennym i gyfathrebu ynghylch Tai yn Gyntaf ledled Cymru, a beth yw'r dull mwyaf effeithiol o wneud hynny gyda chynulleidfaoedd amrywiol. Mae'r grŵp yn ceisio sicrhau bod y drafodaeth ynghylch Tai yn Gyntaf yn un onest ac agored.
Is-grŵp Tai yn Gyntaf i Bobl Ifanc
Mae'r Is-grŵp Tai yn Gyntaf i Bobl Ifanc yn edrych ar y ddarpariaeth Tai yn Gyntaf ar gyfer pobl ifanc rhwng 16 a 25 oed, maes y mae Cymru'n arwain arno. Mae'r grŵp yn sicrhau bod lleisiau pobl ifanc yn cael eu clywed pan fydd gwasanaethau'n cael eu datblygu, ac yn sicrhau hefyd bod Tai yn Gyntaf i Bobl Ifanc yn cael ei gynllunio mewn modd yr un mor gadarn â Tai yn Gyntaf ei hun.
Is-grŵp Rheoli Tai, Tai yn Gyntaf
Mae landlordiaid cymdeithasol yn rhan hanfodol o Tai yn Gyntaf yng Nghymru. Mae'r grŵp hwn yn sicrhau bod eu lleisiau'n cael eu clywed, ac mae'n gweithio hefyd i greu deialog a thrafodaeth ystyrlon rhwng landlordiaid cymdeithasol, darparwyr cymorth a rhanddeiliaid eraill, gyda ffocws ar rannu ymarfer da a'r gwersi a ddysgwyd.
Is-grŵp Iechyd a Gofal Tai yn Gyntaf
Mae Tai yn Gyntaf yn dibynnu ar brynu-i-mewn gan bartneriaid allanol, yn cynnwys gwasanaethau iechyd, iechyd meddwl a gofal cymdeithasol. Mae'r grŵp hwn yn fforwm ar gyfer y math yma o randdeiliaid, ac yn gweithio i sicrhau bod iechyd cleientiaid Tai yn Gyntaf yn flaenoriaeth, a datblygu dull strategol o weithio tuag at adeiladu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol i mewn i Tai yn Gyntaf ledled Cymru.
Is-grŵp Tai yn Gyntaf i Ferched
Mae'r Is-grŵp Tai yn Gyntaf i Ferched wedi cael ei sefydlu mewn partneriaeth gyda Chymorth i Ferched Cymru i ddefnyddio dull sy'n seiliedig ar ymchwil i benderfynu sut y gall y model Tai yn Gyntaf roi cymorth i ferched mewn amrywiaeth o amgylchiadau. Bydd y grŵp yn edrych ar enghreifftiau o arfer gorau, ac yn ystyried anghenion penodol y grŵp arbennig hwn o gleientiaid, i wneud yn siŵr bod y model yn gweithio'n effeithiol gyda merched sy'n agored i niwed.