Polisïau ac Ymgyrchoedd

Protestors  With Megaphone

Mae Cymorth Cymru yn gweithredu fel llais y sector digartrefedd a chymorth tai, gan ddylanwadu ar ddatblygu a gweithredu polisi, deddfwriaeth ac arferion sy’n effeithio ar ein haelodau a’r bobl y maent yn eu cefnogi. Rydym yn gwneud hyn drwy gynnal ymgyrchoedd, gwneud ymchwil, cyhoeddi adroddiadau polisi, cyfrannu at grwpiau Llywodraeth Cymru, ymddangos yn y cyfryngau, siarad ag Aelodau o’r Senedd, rhoi tystiolaeth i Bwyllgorau’r Senedd, ac ymateb i ymgynghoriadau llywodraeth a seneddol.

Adroddiadau

We regularly produce reports about the issues affecting our members and the people they support. This includes reports focused on the views of people with lived experience, the impact of services, the experiences of frontline workers, and good practice from across the sector. We use these reports to campaign for change, speaking up on behalf of our members and lobbying for improvements to policy, legislation, practice and funding.

Our most recent reports can be found here.

Muslim woman smiling

Ymgyrchoedd

Mae Cymorth yn gweithio gyda’n haelodau, ein partneriaid a’n harbenigwyr drwy brofiad i ymgyrchu dros welliannau i bolisi, deddfwriaeth, arferion ac agweddau’r cyhoedd. Dros y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi arwain amrywiaeth o ymgyrchoedd, yn canolbwyntio ar gyllideb flynyddol Llywodraeth Cymru, etholiadau’r Senedd a Chwpan y Byd Digartref.

Ymgyrch bresennol: Materion Tai – Cyllideb Cymru 2024/25

Cyn Cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2024/24, rydym yn gweithio gyda Chartrefi Cymunedol Cymru i ymgyrchu am gynnydd yn y Grant Cymorth Tai, sy’n ariannu’r mwyafrif helaeth o wasanaethau digartrefedd a chymorth tai yng Nghymru.

Rydym wedi casglu tystiolaeth am y pwysau sylweddol sy’n wynebu gwasanaethau ac wedi cyhoeddi adroddiad o’r enw ‘Materion Tai’, y gellir ei lawrlwytho yn y Gymraeg neu’r Saesneg.

Mae hwn wedi’i ddosbarthu i Lywodraeth Cymru ac Aelodau’r Senedd, a bydd yn sail i’n hymateb i ymchwiliad Pwyllgor Cyllid y Senedd i’r Gyllideb Ddrafft.

Pecyn ymgyrch

Rydym hefyd wedi cyhoeddi pecyn ymgyrchu ar gyfer ein haelod-sefydliadau a chefnogwyr – rydym yn annog pawb i gymryd rhan yn yr ymgyrch a lleisio eu barn. Dyma rai ffyrdd y gallwch chi helpu:

  • Gwahoddwch eich Aelodau Senedd lleol a rhanbarthol i ymweld â’ch gwasanaethau. Dywedwch wrthynt am y diwrnod gweithredu ar 1 Rhagfyr, gofynnwch iddynt fynychu’r digwyddiad ar-lein yn y bore ac i ymweld â’ch gwasanaethau yn y prynhawn.
  • Postiwch eich cefnogaeth a’ch profiadau ar gyfryngau cymdeithasol dros yr wythnosau nesaf a thrwy gydol y dydd ar 1 Rhagfyr gan ddefnyddio’r hashnod #Materion TaiCymru
  • Anfon tystiolaeth i Bwyllgor Cyllid y Senedd erbyn 30 Tachwedd.

Graffeg y cyfryngau cymdeithasol

Lawrlwythwch y graffeg isod a’u defnyddio ar eich cyfrifon cyfryngau cymdeithasol i ledaenu’r neges.

Cynrychiolaeth

Rydym yn cynrychioli ein haelodau a’r bobl y maent yn eu cefnogi ar amrywiaeth o grwpiau Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Bwrdd Cynghori Cenedlaethol ar Roi Diwedd ar Ddigartrefedd
  • Grŵp Gorchwyl a Gorffen Ailgartrefu Cyflym
  • Grŵp Gorchwyl a Gorffen Gweithluoedd
  • Grŵp Gorchwyl a Gorffen Canlyniadau Strategol
  • Grŵp Gorchwyl a Gorffen Canlyniadau Grant Cymorth Tai
  • Panel Adolygu Arbenigol ar ddiwygio deddfwriaethol
  • Grŵp Gweithredu’r Ddeddf Rhentu Cartrefi
  • Uwchgynhadleddau Trechu Tlodi a Chostau Byw
  • Y Bwrdd Partneriaeth Cenedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl
  • Bwrdd Gweithredu Cenedlaethol ar gyfer Atal Gwenwyno Cyffuriau
  • Grŵp Strategol VAWDASV
  • Grŵp Cynghori Gweinidogol ar Anableddau Dysgu
  • Grŵp Gorchwyl a Gorffen Rhaglen Byw’n Annibynnol Anabledd
  • DysguBwrdd Partneriaeth Strategol Yr Adran Gwaith a Phensiynau

Ymatebion i Ymgyngoriadau

Rydym hefyd yn ymateb i nifer o ymgyngoriadau llywodraeth a seneddol ar ran ein haelodau. Rydym fel arfer yn e-bostio ein haelodau neu’n defnyddio ein Rhwydweithiau i gasglu barn aelodau, ond cysylltwch â ni os hoffech gyfrannu at unrhyw ymgyngoriadau sydd yn yr arfaeth. Ein hymgynghoriad diweddaraf.

Two women laughing