Amdanom Ni

Male and female volunteers

Cymorth Cymru yw’r corff cynrychioli ar gyfer darparwyr gwasanaethau digartrefedd, tai a chymorth yng Nghymru. Rydym yn gweithredu fel llais cryf i’r sector, gan ddylanwadu ar ddatblygu a gweithredu polisi, deddfwriaeth ac arferion sy’n effeithio ar ein haelodau a’r bobl maent yn eu cefnogi.

Ein Gweledigaeth:

Cymru lle mae gan bawb le diogel i’w alw’n gartref, a’r cymorth mae arnynt ei angen i’w galluogi i ffynnu yn eu cymunedau.

Ein Cenhadaeth:

Gweithio gyda’n haelodau, arbenigwyr trwy brofiad, a phartneriaid, i wella polisi, ymarfer a chyllid i wireddu ein gweledigaeth o Gymru lle mae gan bawb le diogel i’w alw’n gartref, a’r cymorth mae arnynt ei angen i’w galluogi i ffynnu yn eu cymunedau.

Ein Gwerthoedd:

  • Tosturiol: Byddwn yn gosod tosturi, urddas a pharch at bobl a chanddynt brofiad byw, a gweithwyr rheng flaen, wrth galon ein gwaith i wella polisi, deddfwriaeth ac ymarfer.
  • Cydweithredol: Byddwn yn datblygu perthnasoedd o ymddiriedaeth gyda’r llywodraeth, partneriaid, gweithwyr rheng flaen ac arbenigwyr trwy brofiad, gan weithio mewn partneriaeth i gael yr effaith orau bosibl..
  • Dewr: Byddwn yn parhau i fod yn danllyd o annibynnol, gan ddefnyddio ein llais i herio pŵer, ac i herio’r rhai sy’n cymryd penderfyniadau i wneud popeth yn eu gallu i sicrhau bod gan bawb le diogel i’w alw’n gartref.

Cynllun Strategol 2026-30

Gallwch lawrlwytho ein cynllun strategol yma.

Female smiling in a meeting

Ein haelodau

Rydym yn falch iawn o gynrychioli dros 80 o sefydliadau sy’n darparu gwasanaethau digartrefedd, tai a chymorth yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys darparwyr cymorth yn y trydydd sector, cymdeithasau tai a thimau awdurdodau lleol.

Mae ein haelodau’n darparu amrywiaeth eang o wasanaethau sy’n cefnogi pobl i oresgyn cyfnodau anodd, i adfer eu hyder ac i fyw’n annibynnol yn eu cartrefi eu hunain. Maent yn cynnwys pobl sy’n ddigartref
neu mewn perygl o fod felly; pobl ifanc a rhai sy’n gadael gofal; pobl hŷn; pobl sy’n ffoi rhag trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig neu drais rhywiol; pobl sy’n byw gydag anabledd dysgu; pobl sy’n dioddef problemau iechyd meddwl; pobl sydd â phroblemau camddefnyddio sylweddau; a llawer mwy.

Dysgwch fwy am ein haelodau drwy glicio ar eu logos isod.
Os hoffech chi ymuno â Cymorth, cysylltwch â ni.

Ein pobl

Caiff Cymorth Cymru ei redeg gan dîm bach o bobl sy’n frwd dros roi diwedd ar ddigartrefedd ac rydym wedi ymrwymo i wneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau y gall pobl fyw yn ddiogel ac yn annibynnol yn eu cartrefi eu hunain a ffynnu yn eu cymunedau.

Mae ein Bwrdd yn cynnwys ymddiriedolwyr o’n sefydliadau sy’n aelodau ac
ymddiriedolwyr annibynnol, y mae pob un ohonynt yn cael eu hethol yn ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol. Y Bwrdd sy’n gyfrifol am bennu strategaeth Cymorth, rheoli ein hadnoddau’n gyfrifol a sicrhau ein bod yn cydymffurfio â’n dogfen lywodraethu a’r gyfraith.

Ein Hymddiriedolwyr:

  • Chair: Sian Aldridge (The Wallich)
  • Treasurer: Howard Davies (Independent)
  • Samsunear Ali (Bawso)
  • Andrew Belcher (Stori)
  • Catherine Docherty (Salvation Army)
  • Kirsty Ellis (Cardiff Community HA)
  • Natalie Hayes (Pobl)
  • Sam Lewis (Llamau)
  • Phil Richardson (Platfform)
  • Lyndsey Thomas (Gisda)
  • Lynda Williams (ClwydAlyn)
  • Neil Yates (Mirus)

Cysylltwch â ni

Cysylltwch â ni gan ddefnyddio’r ffurflen isod.

Noder: Nid yw Cymorth Cymru yn darparu cyngor na chymorth, ond dyma rai dolenni defnyddiol i
sefydliadau a all ddarparu gwybodaeth, cyngor a chymorth os ydych yn ddigartref neu mewn perygl o fod yn ddigartref, neu os ydych yn wynebu heriau eraill yn eich bywyd.

Contact Us