Digwyddiadau a Hyfforddiant
Mae Cymorth yn cynnal cyfres o gynadleddau, digwyddiadau
a gweminarau drwy gydol y flwyddyn, yn cynnwys amrywiaeth o siaradwyr o’r radd flaenaf o Gymru, y DU a thu hwnt.
Nod y digwyddiadau hyn yw:
- Darparu diweddariadau pwysig am bolisi a deddfwriaeth
- Ysgogi trafodaeth am bolisi ac arferion
- Rhannu arferion da o Gymru a ledled y byd
- Cynnwys siaradwyr arbenigol o’r sector, y llywodraeth a’r byd academaidd
- Galluogi Arbenigwyr drwy Brofiad i rannu eu barn a’u profiadau
- Arddangos gwaith ac effaith ein haelodau
Cysylltwch â ni: events@cymorthcymru.org.uk
Buddion Aelodau: Mae aelodau Cymorth yn gallu manteisio ar ostyngiad sylweddol ar docynnau ar gyfer ein holl ddigwyddiadau.
Digwyddiadau sydd i ddod
Mae ein digwyddiadau sydd i ddod yn cynnwys:
Digwyddiadau Blaenorol
Gallwch weld y rhaglenni, y cyflwyniadau a’r
recordiadau o’n digwyddiadau blaenorol isod:
Hyfforddiant
Yn 2017/18 gweithiodd Cymorth Cymru mewn partneriaeth â Hyb Cymorth ACE a’r Prosiect Rhwydweithiau Tai awdurdodau lleol i ddatblygu a chyflwyno Rhaglen Hyfforddi PATH. Wedi’i ariannu gan Grant Atal Digartrefedd Llywodraeth Cymru, ei nod cyffredinol yw atal digartrefedd drwy ddatblygu dulliau sy’n ystyriol o gyflwr seicolegol o ddiwallu anghenion tai a chymorth pobl. Caiff yr hyfforddiant ei drefnu a’i gydlynu gan Cymorth Cymru, a chaiff ei gyflwyno gan dîm o ymarferwyr a hyfforddwyr profiadol o’r radd flaenaf ar ran Cymorth. Ers 2017, rydym wedi darparu’r hyfforddiant i dros 2,500 o bobl.
At bwy y mae’r hyfforddiant wedi’i dargedu?
Datblygwyd yr hyfforddiant yn bennaf ar gyfer sefydliadau sy’n cefnogi pobl sy’n ddigartrefedd neu sydd mewn perygl o fod felly, a phobl sy’n cael cymorth i’w helpu i gael tenantiaeth a’i chynnal. Mae hyn yn cynnwys:
- Darparwyr gwasanaethau digartrefedd a chymorth cysylltiedig â thai yn y trydydd sector
- Landlordiaid cymdeithasol cofrestredig
- Timau opsiynau tai, digartrefedd a chymorth tai awdurdodau lleol
Rydym wrthi’n adolygu’r hyfforddiant ac yn gobeithio darparu mwy o Hyfforddiant PATH yn 2023/24.