Rhwydweithiau

Network Meeting

Mae ein rhwydweithiau yn hanfodol i waith Cymorthm ac yn ein galluogi i gadw mewn cysylltiad â’n haelodau. Maent yn darparu lleoedd i’n haelodau gael diweddariadau polisi allweddol, rhannu eu barn a’u profiadau, dylanwadu ar bolisi a deddfwriaeth, llywio ein hymgyrchoedd, clywed gan siaradwyr allanol, a rhannu arferion da. Mae ein rhwydweithiau yn cynnwys:

  • Rhwydwaith Rheng Flaen Cymru
  • Rhwydwaith Tai yn Gyntaf Cymru
  • Fforwm Darparwyr Anableddau Dysgu
  • Rhwydwaith PIE
  • Fforymau Darparwyr Rhanbarthol
  • Rhwydwaith Defnyddio Sylweddau yn y Trydydd Sector

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi cofrestru ar ein rhestr bostio a thiciwch y blychau perthnasol er mwyn sicrhau eich bod yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am ein cyfarfodydd rhwydwaith.

Man Smiling

Rhwydwaith Rheng Flaen Cymru

Darperir Rhwydwaith Rheng Flaen Cymru gan bartneriaeth Cymorth Cymru â Rhwydwaith Rheng Flaen St Martin. Ei nod yw rhoi cyfle i staff rheng flaen sy’n darparu gwasanaethau digartrefedd a chymorth ym maes tai i rannu eu barn a’u profiadau, er mwyn sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed, ac i ddylanwadu ar bolisi ac arferion.

Mae Rhwydwaith Rheng Flaen Cymru yn cynnal cyfarfodydd rhanbarthol ar-lein bedair gwaith y flwyddyn, a chaiff y pynciau trafod eu dylanwadu gan weithwyr rheng flaen neu gyfleoedd sydd yn yr arfaeth i ddylanwadu ar bolisi a deddfwriaeth. Rydym yn aml yn cyhoeddi adroddiadau yn seiliedig ar y safbwyntiau a’r profiadau a rennir gan weithwyr rheng flaen sy’n dod i’r cyfarfodydd hyn ac yn ymateb i’n harolygon. Mae’r rhain yn aml yn cynnwys argymhellion i’r llywodraeth, comisiynwyr a darparwyr gwasanaethau.

Pwy all ddod?
Gweithwyr cymorth tai a digartrefedd rheng flaen yng Nghymru.

Hoffech chi ddod? E-bostiwch abigail@cymorthcymru.org.uk

Rhwydwaith Tai yn Gyntaf Cymru

Mae Rhwydwaith Tai yn Gyntaf Cymru yn lle i unigolion a sefydliadau sydd â diddordeb mewn datblygu a darparu Tai yn Gyntaf yng Nghymru. Gyda chynrychiolaeth o’r trydydd sector, Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol, landlordiaid cymdeithasol, byrddau iechyd a mwy, ei nod yw cefnogi’r gwaith o ddarparu ac ehangu Tai yn Gyntaf yn effeithiol ledled Cymru drwy rannu arferion da, hwyluso trafodaethau am faterion allweddol, datblygu atebion i heriau, a llunio adroddiadau a chanllawiau i gefnogi’r sector.

Pwy all ddod? Unrhyw aelod o staff sy’n ymwneud â chomisiynu neu gyflawni prosiectau
Tai yn Gyntaf yng Nghymru.

Hoffech chi ddod? Cysylltwch â
HousingFirst@cymorthcymru.org.uk

  • Cadeirydd: Cath Docherty, Byddin yr Iachawdwriaeth
  • Cylch Gorchwyl
  • Dyddiad y cyfarfod nesaf: TBC

Fforwm Darparwyr
Anableddau Dysgu

Mae’r Fforwm Darparwr Anableddau Dysgu yn lle i uwch-reolwyr o’n haelodau darparwyr Anableddau Dysgu gyfarfod yn rheolaidd i drafod materion sy’n effeithio ar eu gwasanaethau a’r bobl y maent yn eu cefnogi.

Pwy all ddod? Uwch-reolwyr o sefydliadau sy’n aelodau o Cymorth sy’n rhoi cymorth i bobl ag anableddau dysgu.

Hoffech chi ddod? Cysylltwch â mandy@cymorthcymru.org.uk

  • Cadeirydd: Mandy Powell, Cymorth Cymru
  • Cylch Gorchwyl
  • Dyddiad y cyfarfod nesaf: TBC
Black man and White Man High Fiving

Rhwydwaith PIE

Yn Rhwydwaith PIE, gall aelodau Cymorth sy’n gweithio yn y sector digartrefedd, tai a chymorth ddod at ei gilydd i gynnal trafodaethau, clywed gan siaradwyr arbenigol, rhannu arferion da, a chefnogi ei gilydd i ymgorffori dulliau sy’n ystyriol o gyflwr seicolegol ledled Cymru.

Pwy all ddod? Unrhyw aelod o staff sy’n gweithio i ddarparwyr a chomisiynwyr gwasanaethau cymorth digartrefedd a thai yng Nghymru.

Hoffech chi ddod? Cysylltwch â catrin@cymorthcymru.org.uk

  • Cadeirydd: Catrin Elliott-Williams, Cymorth Cymru
  • Dyddiad y cyfarfod nesaf: TBC
Group of people in a meeting

Fforymau Darparwyr Rhanbarthol

Mae ein Fforymau Darparwyr Rhanbarthol yn darparu lle i ddarparwyr gwasanaethau digartrefedd a chymorth tai gael diweddariadau polisi allweddol, rhannu eu barn a’u profiadau, dylanwadu ar bolisi a deddfwriaeth, llunio ein hymgyrchoedd, clywed gan siaradwyr allanol a rhannu arferion da. Mae chwe Fforwm Darparwyr Rhanbarthol, ac mae’r rhain yn gyson â’r Grwpiau Cydweithredol Cymorth Tai Rhanbarthol, sy’n darparu lle i gydweithio ar draws gwasanaethau digartrefedd, tai, iechyd, gofal cymdeithasol a gwasanaethau cyhoeddus perthnasol eraill. Mae gan bob un o’r Grwpiau Cydweithredol Rhanbarthol nifer o gynrychiolwyr darparwyr a landlordiaid, sy’n adrodd yn ôl i’n Cynlluniau Partneriaeth ac yn casglu barn darparwyr cymorth digartrefedd a thai eraill.

Pwy all ddod? Rheolwyr neu arweinwyr tîm sy’n gweithio ym maes gwasanaethau cymorth tai a nid-er-elw – gan gynnwys y rheini a ddarperir gan y trydydd sector, cymdeithasau tai neu wasanaethau awdurdod lleol mewnol (noder: ni wahoddir comisiynwyr).

Interested in attending? Get in touch with steph@cymorthcymru.org.uk

Lady smiling with colleagues Man and woman talking

Rhwydwaith Defnyddio Sylweddau yn y Trydydd Sector

Mae Rhwydwaith Defnyddio Sylweddau yn y Trydydd Sector yn darparu fforwm rheolaidd i drafod materion allweddol sy’n effeithio ar wasanaethau defnyddio sylweddau a’r bobl y maent yn eu cefnogi, yn cael diweddariadau gan Lywodraeth Cymru, yn cyfrannu at ddatblygu polisi, yn rhannu arferion da ac yn clywed gan siaradwyr allanol.

Pwy all ddod? Staff o sefydliadau’r trydydd sector sy’n cefnogi pobl sy’n wynebu problemau defnyddio sylweddau

Hoffech chi ddod? Cysylltwch â mandy@cymorthcymru.org.uk

  • Cadeirydd: Andrew Misell, Alcohol Change
  • Cylch Gorchwyl
  • Dyddiad y cyfarfod nesaf: TBC
Woman leading a meeting