Cyn Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru, mae Cymorth wedi bod yn gweithio’n galed i sicrhau bod lleisiau ein haelodau yn cael eu clywed gan Weinidogion, swyddogion ac Aelodau’r Senedd.
Cyhoeddir y Gyllideb Ddrafft ar 10 Rhagfyr, ond rydym wedi bod yn gweithio’n galed i gasglu tystiolaeth a chyflwyno’r achos dros gynyddu cyllid ar gyfer digartrefedd, cymorth tai a gwasanaethau gofal cymdeithasol yng Nghymru.
- Arolygon o aelodau: Diolch yn fawr iawn i’n holl aelodau a ymatebodd i’n harolygon ynghylch effaith cyllideb 2024/25 ar eich gwasanaethau, yn ogystal â’ch barn ar gyllideb y flwyddyn nesaf. Mae’r data hwn wedi ffurfio sail ein sylwadau i Lywodraeth Cymru, gan sicrhau eu bod wedi cael y data i’w ddefnyddio mewn trafodaethau mewnol gyda Thrysorlys Cymru. Rydym hefyd wedi’i ddefnyddio mewn amrywiaeth o adroddiadau ac ymatebion i ymgynghoriadau i gefnogi Aelodau’r Senedd i graffu’n effeithiol ar y gyllideb.
- Tystiolaeth i Bwyllgorau’r Senedd: Rydym wedi cyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig i Bwyllgor Cyllid y Senedd fel rhan o’u hymgynghoriad ar y Gyllideb Ddrafft. Mae’r dystiolaeth hon yn canolbwyntio ar gyllid ar gyfer gwasanaethau digartrefedd a chymorth tai (Grant Cymorth Tai) a chyllid ar gyfer gwasanaethau gofal cymdeithasol Anabledd Dysgu. Rydym hefyd wedi anfon fersiwn fwy targedig o’r dystiolaeth hon at Bwyllgor Llywodraeth Leol a Thai’r Senedd a Phwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Senedd, i lywio eu craffu ar y Gyllideb Ddrafft.
- Cyhoeddi adroddiad Materion Tai: Gan ddefnyddio’r dystiolaeth a gasglwyd gennym gan ein haelodau sy’n darparu gwasanaethau digartrefedd a chymorth tai, cyhoeddwyd adroddiad newydd sy’n dangos yr angen i gynyddu’r Grant Cymorth Tai er mwyn bodloni’r galw a’r cymhlethdod cynyddol, talu o leiaf y Cyflog Byw Go Iawn i weithwyr rheng flaen, a thalu costau cyfraniadau Yswiriant Gwladol cynyddol.
- Cyfarfod ag Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol: Ym mis Hydref, cyfarfuom â Jayne Bryant AS yn rhinwedd ei swydd fel Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol. Roedd y cyfarfod hwn yn gyfle i dynnu sylw at waith anhygoel ein haelodau a’r prif faterion a phryderon sy’n wynebu ein sector, gan gynnwys Cyllideb Llywodraeth Cymru sydd ar ddod. Rhannwyd ystadegau sy’n dod i’r amlwg o’n harolwg aelodau a gwnaethom yr achos dros gynyddu cyllid y Grant Cymorth Tai yng Nghyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru sydd ar ddod ar gyfer 2025/26.
- Cynhadledd Plaid Cymru: Cynhaliom ddigwyddiad ymylol ochr yn ochr â Thai Cymunedol Cymru a oedd yn canolbwyntio ar bwysigrwydd y Grant Cymorth Tai. Cadeiriwyd ef gan y Gweinidog Tai Cysgodol, Sian Gwenllian AS, ac roedd ASau eraill, cynghorwyr lleol ac actifyddwyr y blaid yn bresennol. Cyflwynwyd ar bwrpas ac effaith y Grant Cymorth Tai, cyd-destun ariannol y degawd diwethaf, a’r pwysau sy’n wynebu gwasanaethau. Clywsom hefyd hanesion pwerus gan dri gweithiwr digartrefedd rheng flaen o’r Wallich a Pobl.
- Grŵp Trawsbleidiol ar Dai: Cyflwynwyd hefyd ar y Grant Cymorth Tai yng nghyfarfod diweddaraf y Grŵp Trawsbleidiol ar Dai, a oedd yn canolbwyntio ar gyllideb Cymru sydd ar ddod. Cafodd ein cyflwyniad groeso da gan y mynychwyr, a chafwyd sylwadau cefnogol gan sawl AS ac aelodau cabinet awdurdodau lleol.
Cynnydd mewn cyfraniadau Yswiriant Gwladol cyflogwyr
Un o’r materion mwyaf dybryd dros yr wythnosau diwethaf yw’r newidiadau i gyfraniadau Yswiriant Gwladol cyflogwyr a amlinellwyd yng Nghyllideb Hydref Llywodraeth y DU. Mae Cymorth wedi ysgrifennu at Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru am y mater hwn – gellir dod o hyd i fwy o fanylion yma.