Skip to main content

Nov 18th, 2024 | Newyddion Diweddaraf

Mae Cymorth yn codi pryderon difrifol ynghylch costau Yswiriant Gwladol ychwanegol

Ar 30 Hydref, cyflwynodd Canghellor y DU ei Chyllideb yr Hydref, a oedd yn cynnwys newidiadau i gyfraniadau Yswiriant Gwladol cyflogwyr. Mae hyn yn bryder enfawr i wasanaethau digartrefedd, cymorth a gofal yng Nghymru, a fydd yn wynebu costau sy’n cynyddu’n sylweddol.

Deallon ni ar unwaith y pwysau ariannol a’r risg y byddai hyn yn ei beri i’n haelodau, felly cysyllton ni ag uwch swyddogion y noson honno i godi pryderon. Gofynnon ni iddynt:

  • Godi hyn ar frys gydag Ysgrifenyddion y Cabinet perthnasol a swyddogion Trysorlys Cymru.
  • Gofyn am eglurhad brys ynghylch a fyddai cynlluniau Llywodraeth y DU i eithrio/darparu cyllid ychwanegol ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus yn gyfyngedig i wasanaethau cyhoeddus ‘mewnol’, neu a fyddent yn cynnwys gwasanaethau a gomisiynwyd.
  • Annog Llywodraeth y DU i gynnwys gwasanaethau a gomisiynwyd yn eu cynlluniau.
    Darparu cyllid ychwanegol yng nghyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer y gwasanaethau hyn, pe bai Llywodraeth y DU yn methu â gweithredu.
  • Cawsom sicrwydd y bore wedyn fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi cael ei friffio a bod ein pryderon wedi cael eu trosglwyddo i swyddogion perthnasol Trysorlys Cymru a oedd yn rhan o drafodaethau gyda Thrysorlys y DU.

Llythyrau at Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru

Rydym wedi llofnodi dau lythyr a anfonwyd ar ran y trydydd sector at Lywodraethau’r DU a Chymru:

  • Llythyr NCVO / ACEVO at Ganghellor y DU
  • Llythyr WCVA at Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru dros Gyllid

Mae’r llythyrau hyn yn gofyn am eithriadau neu gymorth ariannol i’r trydydd sector cyfan. Fodd bynnag, roeddem yn teimlo y byddai rhinwedd mewn ysgrifennu llythyrau ychwanegol sy’n canolbwyntio’n benodol ar rôl hanfodol gwasanaethau digartrefedd, gofal a chymorth a gomisiynwyd yng Nghymru – gan ddadlau bod y gwasanaethau hyn yn hanfodol i’r GIG a llywodraeth leol yng Nghymru, a bod yn rhaid iddynt dderbyn cyllid ychwanegol yn y gyllideb Gymreig sydd ar ddod i dalu am y cynnydd mewn costau Yswiriant Gwladol.

  • Llythyr at Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol ynghylch gwasanaethau digartrefedd a chymorth tai – wedi’i lofnodi gan Cymorth Cymru a Thai Cymunedol Cymru
  • Llythyr at Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a’r Gweinidog dros Ofal Cymdeithasol, ynghylch gwasanaethau gofal cymdeithasol a gomisiynwyd – wedi’i lofnodi gan Cymorth Cymru, Fforwm Gofal Cymru, Tai Cymunedol Cymru a Chymdeithas Gofal Cartref.
  • Llythyr at y Prif Weinidog ynghylch yr holl wasanaethau iechyd, gofal a chymorth a gomisiynwyd yng Nghymru – wedi’i lofnodi gan Cymorth Cymru, Cynghrair Iechyd Meddwl Cymru, a Datblygu Cymru Gofalgar.
Cymorth Cymru
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.