Dylai pawb gael lle diogel i’w alw’n gartref, a’r cymorth cywir i’w galluogi i ffynnu yn eu cymunedau.
Fodd bynnag, ar hyn o bryd mae gormod o bobl yng Nghymru’n wynebu digartrefedd ac ansicrwydd ynghylch eu sefyllfa dai, gyda bron i 11,000 o bobl mewn llety dros dro, a thros 90,000 o aelwydydd ar restrau aros am dai cymdeithasol. Gall y profiad o ddigartrefedd fod yn hynod drawmatig, gan adael ei ôl ar fywydau pobl am flynyddoedd lawer i ddod, ac effeithio ar eu hiechyd, eu haddysg a’u cyflogaeth. Mae hefyd yn rhoi pwysau sylweddol ar wasanaethau cyhoeddus, yn cynnwys costau llety dros dro sy’n codi i’r entrychion, a phwysau y gellid ei osgoi ar wasanaethau iechyd. Mae osgoi digartrefedd yn fuddiol i bawb, ac mae gan Lywodraeth nesaf Cymru rôl holl bwysig i’w chwarae i sicrhau bod y profiad yn un prin, byr, na chaiff ei ailadrodd.
Dros y ddau ddegawd diwethaf, cafwyd cefnogaeth drawsbleidiol gref yn y Senedd dros gyllid, polisïau a deddfwriaeth i fynd i’r afael â digartrefedd. Pleser i ni oedd gweithio gyda chynrychiolwyr o bob plaid wleidyddol sy’n rhannu ein hangerdd dros sicrhau bod pobl yn cael y cartref cywir, yn y lleoliad cywir, gyda’r cymorth cywir. Mae’r cynnydd a gafwyd ar gyllid a deddfwriaeth yn ystod tymor cyfredol y Senedd hon wedi rhoi sylfaen gref i ni, ond mae yna gymaint mwy i’w wneud os ydym am wireddu’r uchelgais o roi diwedd ar ddigartrefedd.
Dros yr ychydig fisoedd diwethaf rydym wedi ymgysylltu â chyd-aelodau ein sefydliad, gweithwyr rheng flaen, a phobl a chanddynt brofiad byw, i ddatblygu ein blaenoriaethau ar gyfer Llywodraeth nesaf Cymru.
Gobeithiwn y gallwch ymuno â ni i gefnogi’r gweithredu hwn i sicrhau bod gan bawb le diogel i’w alw’n gartref, a’r cymorth cywir i’w galluogi i ffynnu yn eu cymunedau.

Ein blaenoriaethau:
- Ymrwymiad strategol trawslywodraethol i roi diwedd ar ddigartrefedd
- Cynnydd yn y cyllid ar gyfer gwasanaethau cymorth digartrefedd a thai
- Cynnydd sylweddol yn y ddarpariaeth o dai cymdeithaol, wedi’i alinio ag angen
- Gwell cydnabyddiaeth ar gyfer gweithwyr cymorth tai a digartrefedd
- Targedau uchelgeisiol ar gyfer ehangu Tai yn Gyntaf ar draws Cymru
- Dyfodol cynaliadwy ar gyfer Gwasanaethau Byw â Chymorth ar gyfer rhai ag Anabledd Dysgu
Ein blaenoriaethau - Ymrwymiad strategol i flaenoriaethu iechyd cynhwysiant