Skip to main content

Mar 2nd, 2026 | Newyddion Diweddaraf

Cartref: Maniffesto ar gyfer etholiad y Senedd 2026

Dylai pawb gael lle diogel i’w alw’n gartref, a’r cymorth cywir i’w galluogi i ffynnu yn eu cymunedau.

Fodd bynnag, ar hyn o bryd mae gormod o bobl yng Nghymru’n wynebu digartrefedd ac ansicrwydd ynghylch eu sefyllfa dai, gyda bron i 11,000 o bobl mewn llety dros dro, a thros 90,000 o aelwydydd ar restrau aros am dai cymdeithasol. Gall y profiad o ddigartrefedd fod yn hynod drawmatig, gan adael ei ôl ar fywydau pobl am flynyddoedd lawer i ddod, ac effeithio ar eu hiechyd, eu haddysg a’u cyflogaeth. Mae hefyd yn rhoi pwysau sylweddol ar wasanaethau cyhoeddus, yn cynnwys costau llety dros dro sy’n codi i’r entrychion, a phwysau y gellid ei osgoi ar wasanaethau iechyd. Mae osgoi digartrefedd yn fuddiol i bawb, ac mae gan Lywodraeth nesaf Cymru rôl holl bwysig i’w chwarae i sicrhau bod y profiad yn un prin, byr, na chaiff ei ailadrodd.

Dros y ddau ddegawd diwethaf, cafwyd cefnogaeth drawsbleidiol gref yn y Senedd dros gyllid, polisïau a deddfwriaeth i fynd i’r afael â digartrefedd. Pleser i ni oedd gweithio gyda chynrychiolwyr o bob plaid wleidyddol sy’n rhannu ein hangerdd dros sicrhau bod pobl yn cael y cartref cywir, yn y lleoliad cywir, gyda’r cymorth cywir. Mae’r cynnydd a gafwyd ar gyllid a deddfwriaeth yn ystod tymor cyfredol y Senedd hon wedi rhoi sylfaen gref i ni, ond mae yna gymaint mwy i’w wneud os ydym am wireddu’r uchelgais o roi diwedd ar ddigartrefedd.

Dros yr ychydig fisoedd diwethaf rydym wedi ymgysylltu â chyd-aelodau ein sefydliad, gweithwyr rheng flaen, a phobl a chanddynt brofiad byw, i ddatblygu ein blaenoriaethau ar gyfer Llywodraeth nesaf Cymru.

Gobeithiwn y gallwch ymuno â ni i gefnogi’r gweithredu hwn i sicrhau bod gan bawb le diogel i’w alw’n gartref, a’r cymorth cywir i’w galluogi i ffynnu yn eu cymunedau.

Ein blaenoriaethau:

  • Ymrwymiad strategol trawslywodraethol i roi diwedd ar ddigartrefedd
  • Cynnydd yn y cyllid ar gyfer gwasanaethau cymorth digartrefedd a thai
  • Cynnydd sylweddol yn y ddarpariaeth o dai cymdeithaol, wedi’i alinio ag angen
  • Gwell cydnabyddiaeth ar gyfer gweithwyr cymorth tai a digartrefedd
  • Targedau uchelgeisiol ar gyfer ehangu Tai yn Gyntaf ar draws Cymru
  • Dyfodol cynaliadwy ar gyfer Gwasanaethau Byw â Chymorth ar gyfer rhai ag Anabledd Dysgu
    Ein blaenoriaethau
  • Ymrwymiad strategol i flaenoriaethu iechyd cynhwysiant

Lawrlwythwch ein maniffesto yn y Gymraeg neu yn Saesneg.

Cymorth Cymru
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.