Mae Cymorth yn croesawu cynnydd o £21m i’r Grant Cymorth Tai ond yn galw am newid yn y dull o ddarparu cyllid Cyflog Byw Go Iawn ar gyfer gweithwyr gofal cymdeithasol.
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, Mark Drakeford AS, wedi cyhoeddi Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2025/26 heddiw. Gellir dod o hyd i ddogfennau’r gyllideb ar wefan Llywodraeth Cymru.
Mae penawdau allweddol i aelodau Cymorth Cymru yn cynnwys:
- Grant Cymorth Tai: Mae cynnydd o £13m y llynedd wedi’i bennu fel sylfaen, ac mae cynnydd pellach o £21 miliwn wedi’i ddyfarnu ar gyfer 2025/26, sy’n golygu y dylai’r Grant Cymorth Tai fod yn gyfanswm o £203m y flwyddyn nesaf – gweler y nodiadau isod.
- Cyflog Byw Go Iawn Gofal Cymdeithasol: Mae Llywodraeth Cymru wedi ailddatgan ei chefnogaeth i’r Cyflog Byw Go Iawn ar gyfer gweithwyr gofal cymdeithasol, fodd bynnag, rydym yn deall na fydd y cyllid ar gyfer hyn wedi’i neilltuo o fewn Grant Cymorth Refeniw llywodraeth leol.
- Grantiau Tai Cymdeithasol: Mae’r cyllid cyfalaf ar gyfer y Rhaglenni Cyfalaf Grant Tai Cymdeithasol a Llety Pontio wedi cynyddu £81m.
- Trais yn Erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol: Mae cyllid refeniw wedi cynyddu £1.2m i gefnogi cyflawniad y Strategaeth Trais yn Erbyn Menywod, Thrais Rhywiol, ac mae’n ymddangos bod cyllid cyfalaf wedi cynyddu £900k.
Mae hyn yn dilyn misoedd o waith i gasglu tystiolaeth a chyflwyno’r achos dros gynyddu cyllid ar gyfer digartrefedd, cymorth tai a gwasanaethau gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Wrth ymateb i’r cynnydd yn y Grant Cymorth Tai, dywedodd Cyfarwyddwr Cymorth Cymru, Katie Dalton:
“Rydym yn hynod falch bod Llywodraeth Cymru wedi ymateb i’n tystiolaeth am y pwysau sylweddol sy’n wynebu’r sector digartrefedd, ac wedi cynyddu’r Grant Cymorth Tai £21m ar gyfer 2025/26.
“Mae’r ymrwymiad i gynnydd mewn cyllid ar y cam hwn yn y broses gyllidebol yn groesawgar iawn, a bydd yn galluogi awdurdodau lleol a darparwyr cymorth i gynllunio ar gyfer y flwyddyn nesaf. Fodd bynnag, byddai unrhyw gynnydd pellach i gryfhau gwasanaethau digartrefedd yn y gyllideb derfynol yn cael ei groesawu’n gynnes.
“Rydym yn glir iawn bod angen i’r £21m adeiladu ar ymdrechion y llynedd i wella cyflog gweithwyr rheng flaen, a dylid ei ddefnyddio i gynyddu cyflogau pobl sy’n gwneud gwaith hynod gymhleth, heriol a hanfodol i gefnogi pobl sy’n profi neu sydd mewn perygl o fod yn ddigartref ymhellach.
“Mae hefyd yn hanfodol bod Llywodraeth y DU yn darparu cyllid ychwanegol i sicrhau nad yw gwasanaethau digartrefedd yn chwalu oherwydd y cynnydd yng nghyfraniadau Yswiriant Gwladol cyflogwyr. Fel arall, bydd y camau cadarnhaol a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru i gynyddu cyllideb y Grant Cymorth Tai yn cael eu bwyta gan y costau hyn.”
Ar gyllid gofal cymdeithasol, dywedodd Katie Dalton, Cyfarwyddwr Cymorth Cymru:
“Er ein bod yn croesawu cefnogaeth barhaus Llywodraeth Cymru i’r Cyflog Byw Go Iawn ar gyfer gweithwyr gofal cymdeithasol, mae gennym bryderon difrifol ynghylch ei weithrediad. Mae darparwyr gofal ledled Cymru wedi profi diffygion cyllido sylweddol mewn perthynas â’r polisi hwn yn ystod y flwyddyn ariannol gyfredol, nad ydynt wedi’u datrys eto.
“Mae’n hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod cyllid ar gyfer y cynnydd o 5% yn y Cyflog Byw Go Iawn yn glir ac wedi’i glustnodi, gyda’r mecanweithiau ar waith i sicrhau bod darparwyr gofal cymdeithasol yn cael cadarnhad o’r cyllid hwn cyn Ebrill 1af. Byddai’n annerbyniol gweld ailadrodd o’r flwyddyn hon, sy’n rhoi gwasanaethau gofal cymdeithasol hanfodol mewn perygl.
“Mae hefyd yn hanfodol bod cyllid ychwanegol yn cael ei sicrhau gan Lywodraeth y DU i dalu am y cynnydd mewn costau Yswiriant Gwladol sy’n wynebu gwasanaethau gofal cymdeithasol a gomisiynir. Mae’r gwasanaethau hyn yn gwbl hanfodol i gyflawni cyfrifoldebau’r GIG a llywodraeth leol, a rhaid eu cefnogi’n ariannol.”