Skip to main content

Apr 8th, 2025 | Newyddion Diweddaraf

Ystadegau Tai yn Gyntaf Cymru: Chwefror 2018-Mawrth 2023

Mae Cymorth Cymru wedi cyhoeddi ystadegau diweddaraf Tai yn Gyntaf Cymru, gan arddangos graddfa ac effaith y model a gymeradwyir yn rhyngwladol yng Nghymru.

Mae data a gasglwyd gan bymtheg o brosiectau Tai yn Gyntaf rhwng Chwefror 2018 a Mawrth 2023 yn dangos bod 792 o bobl wedi cael cymorth gan brosiectau Tai yn Gyntaf yng Nghymru, mae 380 o bobl wedi dechrau tenantiaethau Tai yn Gyntaf, ac mae 91.5% yn cynnal eu tenantiaeth.

Ystadegau allweddol:

  • 17 Nifer y prosiectau Tai yn Gyntaf sy’n gweithredu dros 17 o awdurdodau lleol
  • 792 Nifer y bobl a gefnogwyd gan brosiectau Tai yn Gyntaf ers mis Chwefror 2018
  • 380 Nifer y bobl sydd wedi dechrau tenantiaethau Tai yn Gyntaf ers mis Chwefror 2018
  • 335 Nifer y bobl oedd yn cynnal eu tenantiaethau Tai yn Gyntaf ar 31 Mawrth 2023
  • 91.5% Y gyfradd cynnal tenantiaeth ar draws holl brosiectau Tai yn Gyntaf yng Nghymru
  • 78 Nifer y bobl mewn llety dros dro oedd yn aros am denantiaeth TyG ar 31 Mawrth 2023
  • 3 Nifer y prosiectau sydd wedi ennill Achrediad Tai yn Gyntaf Cymru

 

Beth yw Tai yn Gyntaf?

Mae Tai yn Gyntaf yn ddull o roi terfyn ar ddigartrefedd trwy ganolbwyntio ar adferiad; mae’n ffocysu ar symud pobl ddigartref yn gyflym i mewn i gartref annibynnol, sefydlog, yn hytrach na mynnu bod pobl yn aros am amser hir mewn llety dros dro i brofi eu bod yn ‘barod am dŷ’. Darperir cymorth dwys, aml-asiantaeth, heb unrhyw ragamodau na ffiniau amser.

Yn draddodiadol, mae’r model wedi ei dargedu at bobl sy’n cysgu ar y stryd neu mewn llety hynod ymylol, a chanddynt anghenion cymorth cronig a chymhleth. Datblygwyd y model yn Efrog Newydd yn yr 1990au, yn bennaf gan y seicolegydd cymuned Sam Tsemberis, ac ers hynny mae wedi cael ei fabwysiadu’n eang ledled yr Unol Daleithiau ac Ewrop. Mae tystiolaeth ryngwladol yn awgrymu bod Tai yn Gyntaf yn tueddu i gyflawni cyfradd cynnal tenantiaeth o 80–90%.

Cymorth Cymru
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.