Skip to main content

Dec 13th, 2022 | Newyddion Diweddaraf

Cymorth ‘yn siomedig iawn’ gyda chyllideb ddrafft Cymru

Heddiw, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei Chyllideb Ddrafft ar gyfer 2023/24. Nid oes unrhyw gynnydd i gyllideb y Grant Cymorth Tai, sy’n ariannu’r rhan fwyaf o’r gwasanaethau cymorth ynghlwm â digartrefedd a thai yng Nghymru. Mae’r grant yn parhau ar £166m ar gyfer 2023/24.

Gallwch gael mynediad i ddogfennau cyllideb Llywodraeth Cymru ar eu gwefan.

Mewn ymateb i Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru am 2023/24, dywedodd Katie Dalton, Cyfarwyddwr Cymorth Cymru:

“Rydym yn hynod siomedig na chafwyd cynnydd yn y Grant Cymorth Tai, er gwaetha’r nifer sylweddol o bobl sy’n ddigartref a’r pwysau mawr sydd ar wasanaethau. Mae cyllideb arian gwastad yn doriad mewn termau real, ac mae yna berygl y bydd cyflenwi gwasanaethau’n dod yn anfforddiadwy oherwydd effaith chwyddiant a chostau ynni uchel.

“Rydym hefyd yn pryderu’n fawr ynghylch yr effaith ar weithwyr rheng flaen; mae’r gyllideb hon yn debygol o atal codiad cyflog sy’n gwbl angenrheidiol ar gyfer y gweithwyr allweddol hynny sy’n cyflawni gwaith anhygoel, ond sy’n cael eu gwthio ymhellach i dlodi.

“Dangosodd ein hymchwil yn gynharach eleni fod 44% o’r gweithwyr rheng flaen ym maes digartrefedd a chymorth tai yn cael anhawster i dalu eu biliau, 11% yn cael anhawster i dalu eu rhent, a tua 80% yn diffodd y gwres, golau ac offer trydanol yn yr ymdrech i ddod â dau ben llinyn ynghyd. Mae’r ffigurau hyn yn debygol o fod yn sylweddol waeth y gaeaf hwn.

“Er ein bod yn cydnabod bod hon yn gyllideb anodd iawn i Weinidogion Llywodraeth Cymru, rydym yn erfyn arnynt i ailystyried y penderfyniad hwn a chynyddu’r Grant Cymorth Tai yn eu cyllideb derfynol.”

Mae’r ystadegau parthed gweithwyr rheng flaen wedi eu cymryd o’r adroddiad ‘Anawsterau yn y Rheng Flaen’ y gellir ei lawrlwytho yma.