Cynhadledd Flynyddol 2026

Abstract image of an event setting

22 Ionawr 2026 | Y Deml Heddwch, Caerdydd | In Person

Ymunwch â ni yn ein Cynhadledd Flynyddol ddydd Iau 22 Ionawr, sy’n canolbwyntio ar y thema ‘Cartref i Bawb’. Wrth i ni edrych ymlaen at etholiadau’r Senedd ym mis Mai, byddwn yn lansio ein maniffesto ac yn amlinellu ein blaenoriaethau ar gyfer Llywodraeth nesaf Cymru.

Rydym wrth ein bodd yn cyhoeddi ein rhaglen ddrafft ar gyfer y diwrnod, a fydd yn cynnwys cyfraniadau arbenigol gan Tai Pawb, EYST, Mirus, Drive, Trivallis, Cwmpas, y Wallich, Tai Cymunedol Cymru a Shelter Cymru.

Rydym hefyd wrth ein bodd yn croesawu Cadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol ar Dai, Siân Gwenllian AS.

Penodwyd Siân yn Weinidog Tai Cysgodol Plaid Cymru yn 2023 a bydd yn ymuno â ni i fyfyrio ar bolisi tai a digartrefedd dros dymor diwethaf y Senedd, a’i meddyliau ar gyfer y dyfodol. Mae Siân yn awyddus iawn i glywed gan y mynychwyr am eu barn a’u profiadau, felly dewch yn barod i leisio’ch barn!

Gweler y rhaglen yn Gymraeg neu’r Saesneg.

Cofrestrwch yma.