Ar 30 Hydref, cyflwynodd Canghellor y DU ei Chyllideb yr Hydref, a oedd yn cynnwys newidiadau i gyfraniadau Yswiriant Gwladol cyflogwyr. Mae hyn yn bryder enfawr i wasanaethau digartrefedd, cymorth a gofal yng Nghymru, a fydd yn wynebu costau sy’n cynyddu’n sylweddol.
Deallon ni ar unwaith y pwysau ariannol a’r risg y byddai hyn yn ei beri i’n haelodau, felly cysyllton ni ag uwch swyddogion y noson honno i godi pryderon. Gofynnon ni iddynt:
- Godi hyn ar frys gydag Ysgrifenyddion y Cabinet perthnasol a swyddogion Trysorlys Cymru.
- Gofyn am eglurhad brys ynghylch a fyddai cynlluniau Llywodraeth y DU i eithrio/darparu cyllid ychwanegol ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus yn gyfyngedig i wasanaethau cyhoeddus ‘mewnol’, neu a fyddent yn cynnwys gwasanaethau a gomisiynwyd.
- Annog Llywodraeth y DU i gynnwys gwasanaethau a gomisiynwyd yn eu cynlluniau.
Darparu cyllid ychwanegol yng nghyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer y gwasanaethau hyn, pe bai Llywodraeth y DU yn methu â gweithredu. - Cawsom sicrwydd y bore wedyn fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi cael ei friffio a bod ein pryderon wedi cael eu trosglwyddo i swyddogion perthnasol Trysorlys Cymru a oedd yn rhan o drafodaethau gyda Thrysorlys y DU.
Llythyrau at Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru
Rydym wedi llofnodi dau lythyr a anfonwyd ar ran y trydydd sector at Lywodraethau’r DU a Chymru:
- Llythyr NCVO / ACEVO at Ganghellor y DU
- Llythyr WCVA at Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru dros Gyllid
Mae’r llythyrau hyn yn gofyn am eithriadau neu gymorth ariannol i’r trydydd sector cyfan. Fodd bynnag, roeddem yn teimlo y byddai rhinwedd mewn ysgrifennu llythyrau ychwanegol sy’n canolbwyntio’n benodol ar rôl hanfodol gwasanaethau digartrefedd, gofal a chymorth a gomisiynwyd yng Nghymru – gan ddadlau bod y gwasanaethau hyn yn hanfodol i’r GIG a llywodraeth leol yng Nghymru, a bod yn rhaid iddynt dderbyn cyllid ychwanegol yn y gyllideb Gymreig sydd ar ddod i dalu am y cynnydd mewn costau Yswiriant Gwladol.
- Llythyr at Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol ynghylch gwasanaethau digartrefedd a chymorth tai – wedi’i lofnodi gan Cymorth Cymru a Thai Cymunedol Cymru
- Llythyr at Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a’r Gweinidog dros Ofal Cymdeithasol, ynghylch gwasanaethau gofal cymdeithasol a gomisiynwyd – wedi’i lofnodi gan Cymorth Cymru, Fforwm Gofal Cymru, Tai Cymunedol Cymru a Chymdeithas Gofal Cartref.
- Llythyr at y Prif Weinidog ynghylch yr holl wasanaethau iechyd, gofal a chymorth a gomisiynwyd yng Nghymru – wedi’i lofnodi gan Cymorth Cymru, Cynghrair Iechyd Meddwl Cymru, a Datblygu Cymru Gofalgar.