Mae Cymorth yn aelod o Cartrefi i Gymru Gyfan, y llais y sector tai a digartrefedd yng Nghymru – bartneriaeth trydydd sector o sefydliadau sy’n gweithio gyda ‘i gilydd i sicrhau bod pawb yng Nghymru yn gallu cael mynediad i gartref diogel a gwirioneddol fforddiadwy.
Rydym yn falch o gefnogi’r datganiad canlynol gan Gartrefi i Cymru Gyfan:
Fel llais cyfunol sefydliadau tai a digartrefedd y trydydd sector yng Nghymru, mae Cartrefi i Gymru Gyfan wedi ymrwymo i gefnogi cymunedau diogel, croesawgar a gwybodus. Bob dydd, mae ein haelodau’n gweld pobl o bob cefndir a chred yn teimlo effaith yr argyfwng tai ac yn cyfrannu at eu cymunedau. Ar adeg pan mae llawer o bobl yn teimlo’n bryderus neu’n ansicr, mae gwybodaeth glir a charedigrwydd yn bwysicach nag erioed.
Ar hyn o bryd, gwyddom fod y ddadl gyhoeddus am dai, mudo a gwasanaethau cymorth yn gallu bod yn gymhleth ac weithiau’n ddryslyd. Mae pobl yn haeddu cael y ffeithiau cywir er mwyn gallu ffurfio eu barn eu hunain yn hyderus. Fel sefydliadau sy’n gweithio ar hyd a lled Cymru i fynd i’r afael â’r argyfwng tai, byddwn yn parhau i rannu gwybodaeth glir a hygyrch, a bod yn agored am yr heriau y mae ein cymunedau’n eu hwynebu. Gyda blynyddoedd lawer o brofiad rhyngom, fe wyddom fod y pwysau y mae pobl yn ei deimlo heddiw wedi deillio o brinder tai ers degawdau a heriau ehangach yn y system, a bod rhaid mynd i wraidd y broblem, yn hytrach na dibynnu ar naratifau gor-syml sy’n stigmateiddio, er mwyn cael atebion parhaol. Rydym yn dal i ddilyn y gred bod gan bawb hawl i gartref diogel.
Rydym hefyd yn cydnabod y gall camwybodaeth beri ansicrwydd a phryder yn ein cymunedau, yn enwedig i bobl ethnig leiafrifol a phobl eraill a allai eisoes fod yn profi anghydraddoldeb neu’n teimlo nad ydyn nhw’n cael eu gweld yn y ddadl gyhoeddus. Mae ein hymrwymiad cyffredin i degwch a gwrth-hiliaeth yn golygu ein bod wedi ymrwymo i sefyll ochr yn ochr â phawb yn ein cymunedau er mwyn sicrhau bod pobl yn teimlo eu bod yn cael eu parchu a’u cefnogi, a’u bod yn ddiogel yn eu cartrefi, eu gweithleoedd a’u cymdogaethau.
Wrth symud ymlaen, byddwn yn parhau i weithio gyda’n gilydd i sicrhau bod pobl yn gallu cael gafael ar wybodaeth glir a chywir, i herio camwybodaeth mewn modd pwyllog ac adeiladol, ac i fod yn agored ac yn dryloyw am yr hyn rydym yn ei wneud a pham. Drwy wneud hynny, a chynnal ein hymrwymiad i degwch a gwrth-hiliaeth, ein nod yw cefnogi cymunedau hyderus, gwybodus a charedig ym mhob cwr o Gymru.
Adnoddau:
- Beacon Cymru, Immigration and housing: the facts Immigration and housing: the facts – Beacon Cymru Group Ltd.
- Imix, Countering Anti-Migration Messages in the UK MESSAGING GUIDE: COUNTERING ANTI-MIGRATION MESSAGES IN THE UK – Google Docs
- Imix, A Guide to Speaking Bravely on Migration Amidst Fear and Division A Guide to Speaking Bravely on Migration Amidst Fear and Division – IMIX
- Local Government Association, A guide to disinformation affecting local authorities and their communities A guide to disinformation affecting local authorities and their communities | Local Government Association
- Trivallis, Spotting Misinformation Online Spotting Misinformation Online – Trivallis
- UK Government Communication Service, RESIST: Counter-disinformation toolkit RESIST Counter-disinformation Toolkit
- UK Government Communication Service, RESIST 2: Counter-disinformation toolkit RESIST 2 Counter-disinformation toolkit
- Welsh Government, For The Record: Factual information on Welsh Government policies For The Record | Factual information on Welsh Government policies
- Welsh Government, Helping concerned community members navigate information during a crisis Stakeholder Misinformation Toolkit (Eng)
- Welsh Housing Quarterly, The truth about social housing The truth about social housing – WHQ – WHQ
- Welsh Housing Quarterly, Myth, lies and homes (1) Post | LinkedIn