Cynhadledd Tai yn Gyntaf Cymru 2026
Ymunwch â ni yng Nghaerdydd ar gyfer ein Cynhadledd Tai yn Gyntaf Cymru 2026, lle byddwn yn trafod datblygiad Tai yn Gyntaf yng Nghymru a thu hwnt, ac yn ystyried sut y gallai egwyddorion Tai yn Gyntaf helpu i gryfhau ein dull o ddarparu gwasanaethau tai a digartrefedd yn ehangach.
Rydym wrth ein bodd yn cyhoeddi ein prif siaradwr, Siân Gwenllian AS, Gweinidog y Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio. Yn un o’i hymgysylltiadau siarad cyntaf gyda’r sector digartrefedd ers ei phenodiad, mae hwn yn gyfle gwych i glywed barn Sian ar Dai yn Gyntaf a dull Llywodraeth newydd Cymru o fynd i’r afael â digartrefedd yng Nghymru.
P’un a ydych chi’n gweithio yn Tai yn Gyntaf, neu mewn gwasanaethau cymorth digartrefedd a thai eraill, ymunwch â ni am ddiwrnod o gyflwyniadau, trafodaethau a gweithdai addysgiadol.