Uwchgynhadledd Iechyd Cynhwysiant 2026

Abstract image of an event setting

5 Chwefror | Gwesty Leonardo, Caerdydd | In Person

Pleser o’r mwyaf i ni yw cyhoeddi y bydd Iechyd Cyhoeddus Cymru a Cymorth Cymru yn cynnal Uwchgynhadledd Iechyd Cynhwysiant ar 5 Chwefror 2026 yng Ngwesty’r Leonardo yng Nghaerdydd. 

Bydd y digwyddiad hwn yn ffocysu ar sut orau y gallwn gwrdd ag anghenion pobl sy’n cael profiad o anfanteision lluosog ac sydd, yn draddodiadol, yn ei chael yn anodd i sicrhau.  mynediad at wasanaethau meddygol; mae’r rhain yn cynnwys pobl sy’n ddigartref, pobl sydd mewn cysylltiad â’r system cyfiawnder troseddol, ffoaduriaid a cheiswyr lloches, gweithwyr rhyw, a phobl o’r cymunedau Roma, Sipsi a Theithiol. 

Bydd yr uwchgynhadledd yn darparu llwyfan i bobl a chanddynt brofiad bywyd, ynghyd â gweithwyr rheng flaen, a staff uwch sy’n gyfrifol am gymryd penderfyniadau o’r GIG, iechyd cyhoeddus a’r trydydd sector, i rannu eu syniadau a’u profiadau. Gyda’n gilydd, byddwn yn archwilio’r heriau a’r cyfleoedd, yn ogystal ag yn arddangos arfer da, gyda’r nod o wella bywydau a deilliannau iechyd pobl sy’n wynebu anfanteision lluosog. 

Mae adroddiad Uwchgynhadledd Iechyd Cynhwysiant y llynedd ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg.

Bydd rhaglen eleni yn cynnwys:

  • Iechyd cynhwysiant yn Iwerddon
  • Datblygu model gofal iechyd meddwl mynediad agored ac hyblyg
  • Cynnwys arbenigwyr trwy brofiad
  • Cefnogi goroeswyr trais rhywiol
  • Parhad gofal iechyd yn y system cyfiawnder troseddol

Cofrestrwch yma.