Uwchgynhadledd Ailgartrefu Cyflym

Abstract image of an event setting

24 Medi 2025 | Y Deml Heddwch, Caerdydd | In Person

Rydym wrth ein bodd yn cyhoeddi’r Uwchgynhadledd Ailgartrefu Cyflym sydd ar ddod, a gynhelir ddydd Mercher 24 Medi yn Nheml Heddwch yng Nghaerdydd.

Wedi’i chynnal gan Cymorth Cymru mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, cafodd yr uwchgynhadledd ei llunio gan is-grŵp Ailgartrefu Cyflym y Bwrdd Cynghori Cenedlaethol ar Ddiweddu Digartrefedd, gyda’r nod o fabwysiadu dull sy’n canolbwyntio ar atebion i yrru ailgartrefu cyflym ymlaen a rhannu arfer da.

Mae’r digwyddiad wedi’i anelu at bobl sy’n dal swyddi uwch / strategol ar draws llywodraeth leol, tai, sefydliadau’r trydydd sector a gwasanaethau cyhoeddus perthnasol. Rydym yn awyddus i gael presenoldeb gan bobl sy’n gweithio mewn amrywiaeth o feysydd sy’n croestorri â’r agenda hon, gan gynnwys arweinwyr strategol ar gyfer datblygu cyfalaf, cyflenwad tai, digartrefedd a chymorth, yn ogystal â phobl sy’n gyfrifol am yrru ailgartrefu cyflym yn eu sefydliad.

Gweler y rhaglen yn Saesneg ac yn Gymraeg.

Cyflwyniadau o’r uwchgynhadledd:

Archwiliad Dwfn o Ailgartrefu Cyflym

Myfyrdodau Lleol ar yr Archwiliad Dwfn

  • Cyflwyniad Cyngor RCT
  • Cyflwyniad Cyngor Conwy
  • Cyflwyniad Cyngor Cardiff

Ennyn Ymrwymiad Strategol: Data ac Arweinyddiaeth

  • Cyflwyniad Cyngor Sir Dinbych
  • Cyflwyniad Cyngor Castell-nedd Port Talbot

Y Cyflenwad Tai: Cynyddu’r Stoc Tai a’i Gwneud yn Gydnaws â’r Galw Er Mwyn Diwallu’r Angen o Ran Digartrefedd

  • Cyflwyniad Llywodraeth Cymru
  • Cyflwyniad Cyngor Wrecsam

Gwasanaethau Cyhoeddus: Beth sy’n Bwysig o Ran Atal

  • Cyflwyniad Cyngor Caerdydd
  • Cyflwyniad Cyngor RCT

Gweithdy: Cynyddu a Chydweddu’r Cyflenwad Tai

Gweithdy: Cynllun Lesio Cymru: Cynyddu’r Cyflenwad yn y Sector Rhentu Preifat

  • Cyflwyniad Llywodraeth Cymru

Gweithdy: Gweithio gyda Phartneriaid ym Maes Cyfiawnder Troseddol

Gweithdy: Lleihau Dibyniaeth ar Lety Dros Dro Anaddas

Gweithdy: Ailgartrefu Cyflym, Dyfodol Teg: Gwreiddio Cydraddoldeb ym Mhob Cam